Nodiadau Cymraeg nyrs i helpu bachgen, 2, yn yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Natalie Ridler ei bod "mor ddiolchgar" i'r nyrs am yr hyn a wnaeth i Morgan

Mae mam o Orseinon wedi diolch i fyfyriwr nyrsio ar ôl iddi geisio dysgu rhywfaint o eiriau Cymraeg er mwyn cysuro ei mab tra'i fod yn yr ysbyty yn Birmingham.

Roedd Morgan, mab Natalie Ridler, yn ddwy oed ar y pryd, ac yn cael gofal dwys tra'i fod yn gwella ar ôl llawdriniaeth i dynnu tiwmor.

Ar ôl deall bod Morgan yn siarad Cymraeg gyda'i fam, fe wnaeth nyrs oedd yn edrych ar ei ôl fynd ati i ysgrifennu ymadroddion Cymraeg ar y nodiadau ger ei wely, fel bod modd eu defnyddio i geisio'i wneud yn fwy cyfforddus.

Fe bostiodd Mrs Ridler fideo ar TikTok yn diolch i'r nyrs, ac mae hwnnw bellach wedi cael ei hoffi dros 8,000 o weithiau.

'Nyrs anhygoel'

Dywedodd nad oedd hi'n gallu aros gyda Morgan yn yr ysbyty dros nos, ond esboniodd i'r nyrs ei bod hi fel arfer yn siarad Cymraeg gyda'i mab pan mae wedi ypsetio.

Roedd beth wnaeth y nyrs wedyn yn "anhygoel", meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Reodd Morgan yn gwella yn yr ysbyty ar y pryd, yn dilyn llawdriniaeth i dynnu tiwmor

"Fe aeth hi'r cam ychwanegol 'na i wneud Morgan yn gyfforddus.

"Roedd mewn lle ofnus doedd e ddim yn ei adnabod, gyda llawer o acenion diarth, felly mae'n rhaid fod e'n braf iddo fe glywed geiriau cyfarwydd mae e wedi arfer eu clywed gartre'."

Dywedodd fod Morgan, sydd bellach yn dair oed, wedi bod trwy wyth rownd o gemotherapi a'i fod wedi cael sgan clir yn ddiweddar.

Roedd nodiadau meddygol Morgan yn cynnwys neges ysgrifenedig yn dweud: "Dywedodd Mam fod siarad Cymraeg gyda Morgan yn helpu i'w dawelu. Dyma rai a allai helpu."

Disgrifiad o’r llun,

Y nodiadau gafodd eu gwneud gan y nyrs wrth ochr gwely Morgan yn yr ysbyty

Roedd yr ymadroddion yn cynnwys rhai fel 'ti'n iawn', 'ti'n saff', a geiriau fel 'ymlacio', 'bwyd' a 'moddion'.

Yn y fideo ar TikTok dywedodd Natalie Ridler: "Fi'n teimlo bod hynny'n rhywbeth anhygoel i fyfyriwr nyrsio wneud.

"Mae e mor galonogol ac mae wedi fy nghyffwrdd i'n fawr ei bod wedi gwneud hynny."

Ychwanegodd: "Mae'n hi'n mynd i fod yn nyrs anhygoel rhyw ddiwrnod."

Pynciau cysylltiedig