Gogglebocs Cymru: Pwy sydd ar y soffa?

  • Cyhoeddwyd
tudurFfynhonnell y llun, S4C

Ar nos Fercher 2 Tachwedd mae cyfres newydd yn dechrau ar S4C fydd yn mynd â ni i stafelloedd byw ledled Cymru.

Mae disgwyl y bydd digon o chwerthin gyda Tudur Owen yn lleisio Gogglebocs Cymru, wrth i ni ddod i 'nabod y cymeriadau lliwgar fydd yn sylwebu ar hyn sydd ar y teledu.

Ond pwy yw'r rhain fydd yn ymddangos ar y rhaglen? Dewch i gwrdd â nhw...

Bethany, Sammy a Kelly

Mae Bethany, Sammy a Kelly yn ffrindiau o bentref Maerdy yn y Rhondda.

Mae Bethany'n gweithio fel gweinydd sifil yn Swyddfa Addysg Llywodraeth Cymru. Mae Sammy yn gynorthwyydd dosbarth mewn ysgol gynradd, ac mae Kelly'n weinydd sifil i'r HMRC.

Ffynhonnell y llun, S4C

Cian a John

Bydd Cian o Borthmadog yn gwylio'r teledu gyda'i daid, John. Mae Cian yn gweithio i'r cwmni teledu Rondo.

Ffynhonnell y llun, S4C

Elen, Natalie a Rebecca

Mae Elen, Natalie a Rebecca yn ffrindiau yn byw yn Wrecsam. Daw Elen a Natalie o'r dref ond daw Rebecca o Sir Fôn yn wreiddiol.

Mae Elen a Natalie yn dderbynyddion yng Ngholeg Cambria ac mae Rebecca'n gweithio mewn siop.

Ffynhonnell y llun, S4C

Glain a Dafydd

Mae Dafydd wedi ymddeol ond yn gweithio dwy awr yn y bore yn cymryd plant i Goleg Myddelton ac yn gweithio mewn siop ar stad y coleg ambell brynhawn. Roedd yn arfer bod yn gigydd.

Mae Glain wedi gweithio dros 20 mlynedd fel asesydd gofalwyr.

Ffynhonnell y llun, S4C

Gwynant a Stephen

Mae Gwynant yn ffermio yn ardal Talsarnau ac mae ei ffrind Stephen yn gweithio i adran ailgylchu Cyngor Gwynedd. Mae Stephen hefyd yn helpu Gwynant gyda'r ffermio.

Ffynhonnell y llun, S4C

Osian a Nayema

Gŵr a gwraig yn byw yng Nghaernarfon yw Osian a Nayema.

Mae Nayema yn rhedeg cwmni harddwch gyda swyddfeydd yn Bae Colwyn a Felinheli, ac mae Osian yn gweithio fel prif swyddog adran chwaraeon yng Nghyngor Sir Conwy.

Ffynhonnell y llun, S4C

Huw, Mike a Stephen

Ym Mrynaman bydd y gwylio ond mae'r tri brawd yma'n byw mewn tair ardal wahanol o Gymru (Caerdydd, Brynaman a'r Wyddgrug).

Mae Huw, 62, wedi ymddeol fel rheolwr peirianneg ac yn byw yn yr Wyddgrug. Mae Mike, 64, yn gweithio i Lywodraeth Cymru ac mae ganddo dau o blant, ac mae Stephen, 57, yn gyfrifydd i'r Cyngor lleol, ac mae ganddo dri o blant.

Mae'r brodyr yn 'ffanatig' am golff a phêl-droed, gyda Huw yn cefnogi Wrecsam, Mike yn cefnogi Caerdydd a Stephen yn cefnogi Abertawe.

Ffynhonnell y llun, S4C

Sioned a Philip

Dyma Sioned a Philip sy'n byw yn Llanllyfni yng Ngwynedd. Mae Philip yn gweithio fel ymgynghorydd yn adran ENT (clustiau, trwyn a gwddf) yn Ysbyty Gwynedd.

Ffynhonnell y llun, S4C

Marcus a Vicky

Mae Marcus yn ddyn busnes sy'n berchen ar gwmnïau yn Kent ac ar westy yn Great Yarmouth. Mae ganddo dŷ yn Llanbed mae'n ei ddefnyddio i gynnal penwythnosau i ddysgwyr Cymraeg. Mae Marcus yn rhan o'r Wal Goch, ac yn gefnogwr ymroddedig. Mae wedi bod gyda'i bartner Dan ers 28 mlynedd, ac yn briod ers wyth mlynedd.

Mae ffrind Marcus, Vicky, yn gweithio fel diddanwr plant.

Ffynhonnell y llun, S4C

Carwyn a Mark

Ffrindiau yn byw yn ardal Manceinion yw Carwyn a Mark.

Mae Carwyn, 41, yn wreiddiol o Benygroes, Gwynedd - mi aeth i Ysgol Dyffryn Nantlle, cyn mynd ymlaen i astudio Theatr a Pherfformio. Mae ar hyn o bryd yn gweithio ym Manceinion ac yn byw yn Eccles. Mae'n mwynhau noson ddistaw gyda'i ffrind gorau Mark - fe wnaeth y ddau gyfarfod yn y coleg.

Mae Mark, 42, yn gweithio i adran bensiynau'r Llywodraeth ym Manceinion. Mae'n byw yn Bolton gyda'i gariad Chris, sydd yn ddirprwy bennaeth. Mi symudodd Mark i fewn gyda'i gariad Chris bedair mlynedd yn ôl.

Ffynhonnell y llun, S4C

Mollie a Rachel

Mam a merch o Gaerdydd yw Mollie a Rachel. Mae Mollie yn gweithio yn ASDA rhan amser ac yn astudio drama yng ngholeg. Mae Rachel yn weinydd sifil.

Ffynhonnell y llun, S4C

Nia, Olivia a George

Mam a'i phlant yw'r tri yma o Lanelli. Mae Nia yn fam sengl a arferai weithio i awdurdod lleol. Mae hi wedi ymroi'i bywyd i edrych ar ôl George, 20 mlwydd oed, sydd gyda spina bifida.

Mae George ar hyn o bryd yn astudio gwyddoniaeth chwaraeon Lefel 3 yng Ngholeg Sir Gâr. Mae Olivia yn 16 mlwydd oed ac yn paratoi ar gyfer ei arholiadau TGAU. Mae Olivia eisiau bod yn ddoctor.

Mae'r teulu yn gefnogwyr brwd o'r Scarlets, ac mae Olivia yn chwarae tair gwaith yr wythnos i'r tîm merched lleol. Mae Nia yn rhedeg hwb rygbi i ferched yn yr ardal.

Ffynhonnell y llun, S4C

Pynciau cysylltiedig