Cwest: Cyn-filwr wedi marw ar ôl ei saethu â gwn Taser

  • Cyhoeddwyd
Spencer Beynon

Bu farw cyn-filwr o Lanelli ar ôl cael ei saethu gyda gwn Taser gan yr heddlu, mae cwest wedi clywed.

Roedd Spencer Beynon, 43, wedi gwasanaethu yn Afghanistan ac Irac cyn gadael y fyddin ar sail feddygol gan ei fod yn dioddef gydag anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD).

Clywodd y cwest i Mr Beynon farw yn dilyn digwyddiad yn y dref ym mis Mehefin 2016.

Mewn datganiad gan ei bartner, Victoria Key, sydd bellach wedi marw, dywedwyd bod Mr Beynon yn defnyddio canabis yn ddyddiol, ac er bod ei ymddygiad wedi gwella, bod Ms Key yn bryderus.

'Gallu gweld y diafol'

Ddydd Llun, clywodd y rheithgor am yr oriau cyn y digwyddiad yn Llanelli, pan yrrodd gar ar dros 100mya ar y draffordd.

Yn natganiad Ms Key, dywedwyd bod Mr Beynon yn "gyffrous ac yn llawn egni".

Aeth Mr Beynon a Ms Key i dŷ rhieni'r cyn-filwr, ble bu'n arddangos "ymddygiad egnïol, yn siarad yn uchel, ac yn bod yn afresymol".

Dywedwyd ei fod wedi son wrth ei dad ei fod yn "gallu gweld y diafol" ynddo, a'i fod am "ei gael allan".

Clywodd y cwest bod mam Mr Beynon, Margaret, wedi cael braw gan ymddygiad ei mab, ac wedi cysylltu gyda Ms Key yn ddiweddarach i ofyn iddi i beidio â dod ag ef i'r tŷ eto.

Ymddygiad wedi newid

Ar ôl cysgu am rai oriau, clywodd y cwest bod Mr Beynon a Ms Key wedi eu deffro gan ffrind, a bod ymddygiad Mr Beynon wedi newid.

Roedd Mr Beynon wedi ysmygu canabis, clywodd y rheithgor.

Clywodd y cwest bod Mr Beynon wedi gadael y tŷ heb esgidiau, gan weiddi "os na wnewch chi symud o'r ffordd, mi wna' i'ch lladd chi".

Daeth Ms Key o hyd i Mr Beynon yn ddiweddarach wedi ei amgylchynu gan bobl, a dywedodd swyddog heddlu ei fod wedi marw.

Clywodd y cwest hefyd alwad gan dad Mr Beynon, Christopher, i'r heddlu yn fuan ar ôl i'w fab ymweld yn gynharach yn y dydd.

Roedd wedi dweud bod ei fab wedi ei "ddychryn" ar y diwrnod, a bod angen i swyddogion cyffuriau ei arestio.

Clywodd y cwest gan un o staff canolfan alwadau Heddlu Dyfed-Powys, Mandy Crowdy, oedd wedi ceisio pasio'r alwad ymlaen at y tîm perthnasol.

Dywedodd nad oedd ateb, a'i bod felly wedi nodi'r alwad fel un yn y categori isaf, gan nad oedd bygythiad i fywyd ar unwaith.

Mae'r cwest yn parhau.

Pynciau cysylltiedig