Y Barbariaid, Cymru a'r gwesty ym Mhenarth

  • Cyhoeddwyd
penarth

Mae'r Barbariaid yn enw adnabyddus iawn ym myd rygbi, ac yn dîm sy'n gysylltiedig a steil agored o chwarae, gyda'r cyfle yn cael ei roi i chwaraewyr fynegi ei hunain a chael hwyl.

Mae'r tîm yn wynebu Seland Newydd XV yn Stadiwm Tottenham Hotspur ar ddydd Sul, 13 Tachwedd, gydag ambell Gymro yn gwisgo'r du a gwyn eiconig.

Ond wyddoch chi bod y 'Baa-Baas', fel maen nhw'n cael 'nabod, yn ystyried Penarth ym Mro Morgannwg fel eu 'cartref ysbrydol'? Mae yna berthynas agos wedi bod rhwng y tîm a'r dref ers 1901.

Pwy yw'r Barbariaid?

Cafodd y tîm ei ffurfio gan ŵr o Lundain, William Percy Carpmael, yn 1890. Roedd Carpmael yn chwarae dros glwb Prifysgol Caergrawnt ar y pryd, ac fe benderfynodd wahodd criw o chwaraewyr i ymuno ag ef ar daith i ogledd Lloegr.

Gwelodd hyn fel cyfle i chwarae gyda ffrindiau o wahanol glybiau a oedd fel arfer yn wrthwynebwyr.

Dechreuodd y syniad am dîm oedd yn teithio, ac maen nhw wedi bod yn chwarae gemau ledled y byd ers hynny yn eu crysau cylchoedd du a gwyn enwog. Er, mae'r chwaraewyr yn gwisgo'r sanau o'u stribed clwb eu hunain.

Baa-BaasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Tachwedd 2019, ar eu hymweliad diweddara' â Chymru, fe ddewisodd y 'Baa-Baas', o dan hyfforddiant Warren Gatland, i ymarfer ym Mhenarth tra'n paratoi ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru.

Dim ond trwy wahoddiad yn unig mae'n bosib chwarae i'r clwb, nid oes gan y clwb stadiwm na chlwb cartref, ac mae traddodiad o ddewis chwaraewr ar gyfer pob gêm sydd heb eto ennill cap rhyngwladol.

Mae chwaraewyr o dros 30 o wledydd bellach wedi cynrychioli y Barbariad ac maen nhw wedi chwarae yn erbyn timau rygbi mawr y byd - Seland Newydd, De Affrica, Awstralia, Lloegr, Cymru, Iwerddon a'r Alban yn eu plith.

Ond mae'r Barbariaid hefyd wedi chwarae yn erbyn gwledydd fel Yr Almaen, Rwsia, Tiwnisia, Georgia a Brasil.

Cymru oedd y tîm rhyngwladol cyntaf i wynebu'r Barbariaid, ac hynny ar Barc yr Arfau ar 17 Ebrill, 1915.

dorfFfynhonnell y llun, casgliad y werin
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf ar gyfer gêm rhwng Caerdydd a'r Barbariaid, 1911.

Mae Cymru wedi chwarae yn erbyn y Barbariaid 10 gwaith, gan ennill bedair gwaith a cholli chwech.

Gwesty'r Esplanade, Penarth

Mae Penarth wedi bod fan ble mae'r Barbariaid wedi perthyn iddo erioed, neu'n fwy penodol, Gwesty'r Esplanade. Byddai'r tîm yn aros yn 'Yr Esp' ar eu teithiau Pasg o amgylch Cymru.

gwestyFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Gwesty'r Esplanade fel yr oedd ym Mhenarth.

Roedd y Barbariaid yn arfer dechrau eu taith o amgylch de Cymru ym Mhenarth, gan chwarae gêm flynyddol ar Ddydd Gwener y Groglith. Yn aml roedd gemau i'w ddilyn yn erbyn Clwb Rygbi Caerdydd ar y dydd Sadwrn, Clwb Rygbi Abertawe ar ddydd Llun y Pasg, ac yna Clwb Rygbi Casnewydd ar y dydd Mawrth.

Chwaraewyd 75 gêm rhwng y Barbariaid a Phenarth rhwng 1901 ac 1986 - enillodd Penarth 11 gêm, y Barbariaid 60 gêm, ac roedd pedair gêm gyfartal.

Yn 1977 fe ddinistriwyd Gwesty'r Esplanade gan dân, bron i ganrif wedi iddo gael ei adeiladu. Ond fe safodd yr adeilad yn deilchion am rai blynyddoedd nes ei ddymchwel ar ddiwedd y 1980au.

PenarthFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Dinistrwyd y gwesty yn dilyn tân ac yn diwedd bu rhaid dymchwel yr adeilad.

Roedd Ralph Bond Sweet-Escott yn chwarae dros Gaerdydd a Chymru ac yn un o sefydlwyr Clwb y Barbariaid. Roedd yn dod o Benarth ac yn fab i'r Parchedig William Sweet-Escott.

Mae sôn mai Sweet-Escott oedd tu ôl y penderfyniad i gartrefu'r Barbariaid yn y dref.

Cymru a'r Barbariaid

Fel nodwyd yn barod mae Cymru a'r Barbariaid wedi chwarae yn erbyn 10 gwaith, ond dim ond pedair gêm brawf lawn sydd wedi bod - gyda dwy fuddugoliaeth i Gymru, a dwy i'r ymwelwyr.

shaneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr asgellwr Shane Williams yn chwaerae dros y Barbariaid yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd, 2 Mehefin, 2012.

Ac er mai yn erbyn Seland Newydd oedd y gêm, mae cais Gareth Edwards dros y Barbariaid yn 1973 yng Nghaerdydd yn cael ei ystyried fel un o'r goreuon yn hanes rygbi.

Mae gemau ble mae'r Barbariaid yn chwarae yn aml yn rhai â sgorau uchel gan fod y timau yn cael eu hannog i redeg gyda'r bel yn hytrach na chicio, gyda'r bwriad o ddiddanu'r dorf a'r gynulleidfa sy'n gwylio gartref.

gareth edwardsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Edwards, a sgoriodd y cais eiconig dros y Barbariaid yn erbyn Seland Newydd ar 27 Ionawr, 1973.

Yng ngharfan y Barbariaid ar gyfer y gêm yn erbyn Seland Newydd XV ar 13 Tachwedd mae chwaraewyr o Seland Newydd, Yr Ariannin, De Affrica, Iwerddon, Fiji, Ffrainc a Lloegr, ac hefyd sawl chwaraewr sydd heb ennill cap rhyngwladol.

Ond bydd hefyd dau Gymro yn y garfan ar gyfer y gêm - y blaenasgellwr Aaron Wainwright a'r mewnwr Rhys Webb.

wainwright a webbFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Aaron Wainwright 29 o gapiau dros Gymru ac mae Rhys Webb wedi chwarae dros Gymru 36 gwaith.

line break

Hefyd o ddiddordeb: