Goruchaf Lys yn diddymu cais am 400 o dai yn Aberdyfi
- Cyhoeddwyd
Mae'r Goruchaf Lys wedi diddymu cais cynllunio ar gyfer 400 o dai yn Aberdyfi yng Ngwynedd.
Cafodd y cais gwreiddiol i adeiladu'r tai ei gyflwyno hanner canrif yn ôl gan ddatblygwyr o'r enw Hillside Parks Ltd, sy'n berchen ar y tir.
Yr hen Gyngor Meirionnydd oedd wedi rhoi'r caniatâd cynllunio gwreiddiol yn 1967, ond bellach Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw'r awdurdod cynllunio.
Roedd awdurdod y parc yn dweud nad oes modd i Hillside Parks gwblhau'r cynllun gwreiddiol.
Ond fe geisiodd y datblygwyr brofi yn gyfreithiol ei bod hi'n bosib defnyddio'r caniatâd gwreiddiol hwnnw i barhau â'u cynlluniau.
Gwrthod hynny wnaeth y Goruchaf Lys ddydd Mercher.
Oherwydd pryderon yn lleol, mae'r achos wedi bod i'r llys sawl gwaith.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Dewi Owen sy'n gynghorydd dros Aberdyfi ar Gyngor Gwynedd, fod sefyllfa dai yno eisoes yn broblem.
"Llond llaw o dai sydd yma'n barhaol - mae'r gweddill yn dai gwyliau," meddai.
Dywedodd na fyddai'r isadeiledd yn "ddigonol" i ddelio â'r holl dai ychwanegol.
Ychwanegodd yr ymgynghorydd cynllunio, Mark Roberts, y byddai'n annhebygol gwireddu'r caniatâd cynllunio o 1967, sef yr hyn wnaeth y Goruchaf Lys gadarnhau'n ddiweddarach.
'Testun pryder' i Aberdyfi
Clywodd y llys er rhoddwyd caniatâd yn wreiddiol am 401 o dai ar y safle 29 erw, dim ond 41 sydd wedi'u hadeiladu, ac nid oes yr un o'r rheiny wedi'u hadeiladu yn unol â'r cynlluniau gwreiddiol.
Dywedodd y barnwyr fod y datblygiad sydd wedi cymryd lle yno ers caniatáu'r cynllun gwreiddiol wedi ei gwneud hi'n "amhosib" i ddatblygiadau pellach ddigwydd yn unol â'r cynlluniau hynny.
Ar y Post Prynhawn, dywedodd Jonathan Cawley o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bod diwedd yr achos yn "ryddhad i'r Parc Cenedlaethol".
"Mae 'na gostau cyfreithiol i hyn, 'da ni'n gobeithio bo' ni'n gallu hawlio o'r costau yna'n ôl gan y datblygwr, felly yn y pendraw dwi'n gobeithio y bydd yn weddol cost niwtral i'r awdurdod."
Ychwanegodd y byddai'r dyfarniad yn gosod cynsail at y dyfodol: "Dwi'n meddwl, mae 'na oblygiadau i'r diwydiant adeiladu ar ôl hyn, yn y gorffennol, wrach roedden nhw'n ei weld yn haws i ddiwygio stad fawr o dai - rŵan, bydd rhaid iddyn nhw ystyried yn ofalus goblygiadau eu penderfyniadau."
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod ei fod wedi rhoi "amddiffyniad cadarn i'w sefyllfa" yn y llys.
Ychwanegodd: "Roedd y materion hefyd yn destun pryder sylweddol i gymuned Aberdyfi. Nid oedd amddiffyn yr achos yn gam a gymerwyd yn ysgafn gan yr Awdurdod gan fod risgiau sylweddol ynghlwm â materion o'r fath."
'Buddugoliaeth i synnwyr cyffredin'
Wrth ymateb i'r dyfarniad, dywedodd Liz Saville Roberts AS a Mabon ap Gwynfor AS o Blaid Cymru y byddai caniatáu'r cais yn golygu "tanseilio buddiannau'r gymuned leol".
"Mae hon yn fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin ac mae'n adlewyrchu'r gwrthwynebiad unfrydol o fewn y gymuned leol i'r cais cynllunio hanesyddol cwbl anaddas hwn, a gafodd ei atgyfodi gan ddatblygwyr diegwyddor sy'n ceisio gwneud elw cyflym," meddai'r datganiad.
"Nid oedd dim yn y cais a fyddai wedi cwrdd â'r galw lleol.
"Mae'r dyfarniad heddiw yn adlewyrchiad o'u penderfyniad i gynnal barn gyfunol pobl leol ac yn rhoi diwedd ar fisoedd o bryder ac ansicrwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2022