'Dechrau busnes yw dyfodol economi Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Llyr Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llŷr Roberts yn dweud fod "cyfnod heriol" yn wynebu busnesau

Mae'n bwysig i Gymru fod ar flaen y gad wrth sefydlu a thyfu busnesau, medd prif weithredwr newydd Menter a Busnes.

Mae Llŷr Roberts, sy'n hanu o Gaerfyrddin, yn cyfaddef ei fod yn dechrau'r swydd yn ystod cyfnod heriol.

Cafodd ei benodi ar ôl i Alun Jones gyhoeddi y byddai'n rhoi'r gorau i'r swydd wedi 20 mlynedd yn y rôl.

Menter a Busnes yw prif gwmni datblygu economaidd annibynnol Cymru.

Mae'n cyflogi 150 o bobl ac yn arbenigo mewn cymorth wedi'i deilwra ar gyfer busnesau newydd a rhai sy'n tyfu.

Mewn cyfweliad â BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Roberts: "Ni gyd yn gwybod bod y rhyfel yn Wcráin, ynghyd â ffactorau eraill yn dylanwadu ar gostau byw. Mae dirwasgiad yn debygol.

"Ond os y'ch chi'n edrych ar rai o'r sectorau lle mae Menter a Busnes yn chwarae rhan flaenllaw - yr ochr amaethyddol er enghraifft - ry'n ni'n gweld costau cynyddol y berthynas gyda'r marchnadoedd yn newid yn sgil Brexit, a'r her o annog pobl ifanc i ddod mewn a dychwelyd i gefn gwlad a chymryd drosodd rhai busnesau yma."

Wrth sefydlu busnes newydd, dywed Mr Roberts ei bod yn bwysig ystyried y cyd-destun lleol a rhyngwladol, a'i bod yn bwysig cael cymorth wrth wneud hynny.

'Dechrau busnes yw dyfodol economi Cymru'

Mae Menter a Busnes yn helpu busnesau a darpar fusnesau i edrych ar gymorth mewn ffordd wahanol, ac i ystyried sut i uwchraddio'r nawdd technoleg, entrepreneuriaeth a sgiliau sydd ar gael.

"Yn amlwg ni'n annog pobl i ddechrau busnesau, dyna'r dyfodol i economi Cymru felly mae'n bwysig bod Cymru ar flaen y gad pan mae'n dod i sefydlu a thyfu busnesau," meddai.

Fel sylfaenydd a rheolwr-gyfarwyddwr ei gwmni ymgynghorol ei hun, mae Llŷr Roberts wedi gweithio gyda chleientiaid yn cynnwys sefydliadau fel UEFA, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd bod yna bolisïau strategaeth sy'n cynnig cyfeiriad ar gyfer y dyfodol yng Nghymru a bod gan Menter a Busnes ran mewn gwireddu hynny.

"Yr her i ni yw sicrhau ein bod ni mewn safle i ddod â'r weledigaeth yn fyw a'n bod ni yn gweld y cyfnod heriol yma trwyddo," meddai.

Pynciau cysylltiedig