Gweinidog llywodraeth ddim am fynd i gêm Cymru v Iran

  • Cyhoeddwyd
protest IranFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae protestio wedi bod yn Iran ers wythnosau yn dilyn marwolaeth dynes ifanc

Mae gweinidog Llywodraeth Cymru oedd i fod i fynychu gêm Gwpan y Byd Cymru yn erbyn Iran nawr wedi penderfynu aros adref, oherwydd protestiadau diweddar yn y wlad honno.

Dyna oedd yr unig gêm grŵp ble roedd disgwyl i'r Dirprwy Weinidog Chwaraeon, Dawn Bowden deithio i Doha.

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford a Gweinidog yr Economi Vaughan Gething dal yn mynychu gemau eraill.

Mae Qatar wedi wynebu beirniadaeth yn ystod y paratoadau ar gyfer y twrnament am nifer o bryderon hawliau dynol.

Mae'r rhain yn cynnwys deddfau sy'n gwahardd perthynas rhwng pobl o'r un rhyw, yn ogystal â'u triniaeth o fenywod a gweithwyr tramor.

'Neb eisiau i Qatar gynnal'

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd gwleidyddion dal yn mynd i'r gemau yn erbyn yr UDA a Lloegr, ble bydd cyfle i weinidogion "rannu ein diddordebau a'n gwerthoedd".

Ond mae BBC Cymru'n deall fod penderfyniad Ms Bowden yn ymwneud â'r protestiadau diweddar yn Iran yn hytrach na'r drafodaeth ynghylch ymweld â Qatar.

Dros yr wythnosau diwethaf mae Iran wedi cael eu beriniadu'n rhyngwladol am eu hymateb i brotestiadau, a ddaeth yn sgil marwolaeth dynes ifanc gafodd ei harestio gan heddlu moeseg y wlad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib y gallai Dawn Bowden deithio i Qatar yn nes ymlaen yn y twrnament, os yw Cymru dal yno

Yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Ed Davey, feirniadu penderfyniad Mark Drakeford i fynd i'r twrnament.

Ond mewn ymateb mynnodd Llywydd y Senedd, Elin Jones ei bod hi'n "hollol" iawn i Mr Drakeford deithio i Doha.

"Mae'n tîm pêl-droed ni yna, felly dyle fe fod hefyd," meddai. "Doedd dim un ohonon ni eisiau i Qatar gynnal e."

Yn ogystal â chefnogi Cymru yn eu hymddangosiad cyntaf yng Nghwpan y Byd ers 1958, mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu defnyddio'r gystadleuaeth i godi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

Ond mae safbwynt Mr Drakeford yn mynd yn groes i arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer, sydd wedi dweud ei fod yn boicotio'r twrnament.