'Anghywir i Mark Drakeford fynd i Qatar' medd Ed Davey

  • Cyhoeddwyd
Ed Davey
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ed Davey y dylai'r DU fod yn anfon "arwyddion cryf ar hawliau dynol"

Mae'n anghywir i Mark Drakeford fynd i Gwpan y Byd yn Qatar, meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae arweinydd Llafur Cymru yn mynychu'r digwyddiad mewn ymdrech i hybu proffil Cymru dramor.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai'n "taflu goleuni" ar yr angen i "hawliau dynol hollbwysig" yn ystod ei ymweliad.

Ond daw penderfyniad y prif weinidog i fynd er gwaethaf boicot o'r gystadleuaeth gan arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer.

Dywedodd Syr Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, wrth BBC Cymru y dylai'r DU fod yn anfon "arwyddion cryf iawn ar hawliau dynol".

Dywed Llywodraeth Cymru y byddai'r ymweliad yn hybu "cynwysoldeb".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cefnogwyr pêl-droed Cymru yn eu Cwpan y Byd cyntaf ers 1958

Mae Qatar wedi wynebu beirniadaeth am bryderon hawliau dynol lluosog, gan gynnwys am ei chyfreithiau yn erbyn perthnasoedd o'r un rhyw ac ar drin gweithwyr tramor.

Mae llywodraeth Lafur Cymru am ddefnyddio Cwpan y Byd i hyrwyddo Cymru dramor.

Maen nhw wedi amddiffyn cynlluniau Mr Drakeford, gan ddweud y bydd yn defnyddio'r cyfle i "daflu goleuni ar faterion hawliau dynol hollbwysig".

Mae'r blaid ar lefel y DU yn boicotio'r digwyddiad, er bod ffynhonnell Lafur y DU wedi dweud bod gwahaniaeth rhwng safiad y blaid ehangach a rôl swyddogol Mr Drakeford wrth gynrychioli ei wlad.

Mae tîm pêl-droed Cymru yn bwriadu gwisgo bandiau braich enfys i gefnogi hawliau LGBTQ+, ni waeth a yw FIFA wedi rhoi caniatâd i wneud hynny.

'Anfon arwyddion cryf iawn'

Dywedodd Syr Ed: "Rwy'n poeni am record hawliau dynol Qatar, ac rwy'n ofni bod angen i ni gael ein blaenoriaethau'n gywir."

Pan ofynnwyd iddo a ddylai Mr Drakeford fod yn bresennol, ychwanegodd: "Rwy'n meddwl mai dyna'r dewis anghywir.

"Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y wlad hon [y DU] yn anfon arwyddion cryf iawn ar hawliau dynol."

Mae Jane Dodds, arweinydd Cymreig y Democratiaid Rhyddfrydol ac unig wleidydd y blaid yn Senedd Cymru, hefyd wedi galw ar Mr Drakeford i ganslo ei gynlluniau, ac ar Lywodraeth Cymru i gau ei swyddfa yn y wlad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn falch y bydd Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd 2022 yn Qatar.

"Rydym yn gweithio'n galed i godi proffil Cymru a chreu cyfleoedd masnach a buddsoddiad o'n rhan mewn digwyddiadau mawr ledled y byd.

"Mae Cwpan y Byd hwn wedi taflu goleuni ar fater hollbwysig hawliau dynol a byddwn yn ychwanegu ein llais at rai pobl eraill ac yn gweithio gyda'n gilydd i hyrwyddo gwerthoedd cynwysoldeb a pharch at hawliau dynol a gweithwyr."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mark Drakeford yn teithio i Gwpan y Byd gyda rhai o weinidogion eraill Llywodraeth Cymru

Siaradodd Syr Ed Davey cyn araith ddydd Sul, a drefnwyd ar ôl i'w blaid ganslo cynhadledd oherwydd marwolaeth y Frenhines Elizabeth II.

Ers etholiad 2019 nid oes gan y Democratiaid Rhyddfrydol unrhyw Aelodau Seneddol yng Nghymru, er i'r blaid weld rhai enillion yn etholiadau lleol 2022, gan ennill 10 sedd ac arwain cyngor Powys.

Mae wedi cael llwyddiannau mewn isetholiadau yn Lloegr.

'Cystadleuwyr go iawn'

Dywedodd fod Powys yn ardal y gallai'r blaid ennill sedd yn ôl yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae wedi dal etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed yn y gorffennol, er fel gyda bron pob sedd Gymreig mae ei ffiniau ar fin newid yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

"Rydyn ni'n meddwl bod y Democratiaid Rhyddfrydol ar i fyny," meddai Syr Ed.

"Rydyn ni'n gweld mewn llawer o isetholiadau cynghorau ac isetholiadau seneddol bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn aml yn y sefyllfa orau i guro'r AS Ceidwadol presennol.

"Fe enillon ni dri is-etholiad hanesyddol yn yr 16 mis diwethaf. Yn yr etholiadau lleol yn y DU, gan gynnwys Cymru, fe wnaed cynnydd, ac rydyn ni'n meddwl y gallwn ni fod yn gystadleuwyr go iawn ar draws y DU ond hefyd yng Nghymru."