Ateb y Galw: Mared Gwyn

  • Cyhoeddwyd
Mared GwynFfynhonnell y llun, Mared Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mared Gwyn

Y sylwebydd gwleidyddol sy'n byw ym Mrwsel, Mared Gwyn, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.

Cafodd ei henwebu gan Elin Huws. Mae Mared yn gyfrannwr cyson i BBC Cymru ac yn arbenigo ar wleidyddiaeth Ewrop. Mae ganddi radd mewn ieithoedd modern o Brifysgol Caegrawnt ac mae hi'n siarad Cymraeg, Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg a Saesneg.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Deffro fis Ionawr 1996 a chael gwybod fod fy mrawd bach, Dafydd, wedi cyrraedd y byd yn saff. Tair oed oeddwn i ar y pryd, ond mae'r foment honno wedi'i selio ar fy nghof.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mynydd Tir y Cwmwd, Llanbedrog. Mae'n rhaid dringo llwybr serth o'r traeth i gyrraedd y copa, ond mae'r olygfa o arfordir Llŷn a mynyddoedd Eryri ar y gorwel yn rhoi teimlad o heddwch a thawelwch meddwl i mi.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Anodd dewis un. Mae noson etholiad cyffredinol 2019 yn sefyll allan. Nid oherwydd y canlyniad, ond oherwydd i mi gael y fraint ryfeddol o gadw cwmni Dewi Llwyd a'i westeion ar y panel dros nos.

Un arall ar dop y rhestr yw noson dreuliais i'r haf yma yng ngŵyl Festa Major Sant Feliu de Guixols, Catalwnia. Parti mawr lle'r oedd y dref i gyd allan yn dawnsio, canu a chwerthin ar y strydoedd. Profiad gwefreiddiol ac emosiynol oedd teimlo'n rhan o'r gymuned a phrofi cynhesrwydd eu croeso nhw.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Mentrus, teimladwy, aflonydd.

Ffynhonnell y llun, Mared Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Graddio

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Ma 'na gymaint o atgofion o ddyddiau'r chweched dosbarth yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli sy'n gwneud i mi chwerthin nes mod i'n sâl.

Mi aeth criw ohonom ni oedd yn astudio Lefel A Ffrangeg ar drip cyfnewid i ardal Nantes, a phob un ohonom ni'n aros hefo Ffrancwyr diethr. Roedd o'r profiad mwyaf anghyfforddus erioed, ond mi gawson ni gymaint o hwyl a chwerthin yn ceisio addasu i'r ffordd Ffrengig o fyw. Mae 'na sawl noson allan ym Mhwllheli ac yn Nhŷ Newydd Sarn o'r cyfnod hwnnw sy'n dod a gwên hefyd!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae unrhyw un sydd wedi dysgu iaith dramor yn gwybod fod rhaid bod yn barod i wneud camgymeriadau sy'n codi cywilydd. Pan o'n i'n gweithio yn y Comisiwn Ewropeaidd yn Lwcsembwrg, mi eglurais mewn Sbaeneg i berson pwysig iawn mod i wedi bod yn rhedeg y bore hwnnw, gan ddefnyddio'r ferf correrse yn lle correr.

Ffynhonnell y llun, Mared Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mared gyda'i ffrindiau Ewropeaidd

Dwi'n gwerthfawrogi na fydd darllenwyr di-Sbaeneg yn deall yr embaras llwyr o ddefnyddio dwy lythyren ychwanegol mewn camgymeriad, ond dwi ddim yn meddwl i mi deimlo mor anghyfforddus erioed. Googlwch o i ddeall!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Ychydig wythnosau yn ôl wrth ffarwelio hefo fy neiaint bach Nedw a Taliesin cyn teithio yn ôl adref i Frwsel. Mae gorfod ffarwelio hefo'r ddau fach heb wybod pryd y gwela i nhw nesa yn torri nghalon i!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n methu aros yn llonydd am fwy nag ychydig funudau. Mae gwylio ffilm yn anodd!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Cien Años de Soledad (Can mlynedd o Unigrwydd) gan Gabriel García Marquez ydi fy hoff nofel. Mae hi'n arbennig i mi gan mai dyma un o'r nofelau cyntaf i mi ddarllen mewn Sbaeneg. Dwi wrth fy modd hefo arddull realismo mágico (realaeth hudol) yr awdur, ac mae'r stori yn ddrych ar hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth De America. Fersiwn Golombianaidd o Un Nos Olau Leuad Caradog Prichard!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Huw Edwards! Pan fydda i'n sylwebu, dwi wastad yn ceisio 'sianelu' Huw, felly mi faswn i wrth fy modd yn ei holi am ei waith a'i brofiadau.

Ffynhonnell y llun, Mared Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mared Gwyn

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mi wnes i redeg marathon Llundain dair blynedd yn ôl mewn 3 awr 35 munud. Dwi'n siarad chwe iaith.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ceisio chwilio am ffordd o aros yma'n hirach! Fedra i ddim dychmygu gorfod treulio fy niwrnod olaf ar y blaned mewn un lle, heb gael treulio amser hefo fy ffrindiau agos sydd wedi'u gwasgaru ar draws Ewrop.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Y llun ohonof y tu allan i'r Gadeirlan yn Santiago de Compostela, ar ddiwedd fy mhererindod yn 2020.

Ffynhonnell y llun, Mared Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mared ar ei phererindod

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Fy nai bach, Nedw, a chael gweld y byd drwy lygaid diniwed plentyn.