Dyn, 80, wedi ei anafu yn Stadiwm Principality

  • Cyhoeddwyd
Heddlu a chefnogwyr yn y stadiwm
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth yn dilyn y digwyddiad yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn

Mae dyn 80 oed yn parhau yn yr ysbyty ar ôl cael ei anafu yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

Yn ôl yr heddlu, cafodd ei anafu yn ystod ffrae honedig rhwng dau ddyn arall yng ngêm Cymru yn erbyn Seland Newydd.

Dywedodd un cefnogwr oedd yno fod y dyn wedi "hedfan i lawr y rhesi" yn y stadiwm.

Dywedodd Heddlu'r De brynhawn Llun fod dyn 32 oed bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad, tra bod dyn 20 oed yn parhau yn y ddalfa yn dilyn y digwyddiad.

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio ac wedi diolch i dystion sydd wedi cysylltu â nhw gyda gwybodaeth.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod yn cydweithio'n llawn gyda'r llu.