Oriel: Cofio bywyd y 1970au
- Cyhoeddwyd
Roedd Cymru yn y saithdegau yn lle o newid cymdeithasol mawr gydag un droed yn dal yn yr hen Gymru draddodiadol a'r llall yn y Gymru gyfoes oedd yn cael ei siapio gan ddirywiad y diwydiannau trwm a dyfodiad mwy o dechnoleg i'n tai a'n bywydau bob dydd.
Mae lluniau sy'n procio'r cof am y ddegawd yma ar dudalennau Archif Cof gwefan Casgliad y Werin, dolen allanol; rhan o brosiect sy'n cael ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i hwyluso gwaith hel atgofion gyda phobl sy'n byw gyda dementia.

Ar ddechrau'r ddegawd roedd rhaid i bobl ddygymod gyda newid yn y ffordd roedden nhw'n cyfrif arian wrth i arian degol gael ei gyflwyno yn 1971

Yn y ffermdy yma yn Llanuwchllyn roedd y 'range' hen ffasiwn a'r celfi traddodiadol yn dal yn y gegin. Pwy sy'n cofio'r teclyn cadw te mwy 'modern' sydd ar ochr chwith y silff ben tân?

Yn Ffynnon Taf, roedd 'na sychdroellwr trydan wedi cyrraedd a Mrs Evelyn Potter yn ceisio cadw rheolaeth arno!

Prynu Cortina ail law - roedd y Ford Cortina yn gar teulu cyffredin

Yr Austin Allegro sydd yn y cefndir fan hyn ond 'dyw beiciau tair olwyn plant ddim wedi newid rhyw lawer, yn wahanol i'r dillad!

Glowyr ym Mhwll Glo Cwmgwili, 1978, yn aros i gael eu cludo i mewn i'r pwll ar gyfer y shifft b'nawn

Y ffreutur ym Mhwll Glo Maerdy, Rhondda Fach, 1975. Daeth y glo olaf i'r wyneb yno yn 1986 a chaeodd yn 1990.

Plant yn Grangetown, Caerdydd, yn helpu i adeiladu maes chwarae'r Marl fel rhan o brosiect gan y Gwasanaeth Cymunedol Gwirfoddol (VCS)

Parti stryd i ddathlu Jiwbili 1977 - 25 mlynedd ers i'r Frenhines Elizabeth II ddod i'r Orsedd - yng Nglan yr Ystrad, Tre Ioan, Caerfyrddin

Meic Stevens yn perfformio yng Ngholeg Technoleg Bangor, Eisteddfod Bangor 1971

Y grŵp gwerin â gwreiddiau Gwyddelig o Gaerdydd, Yr Hennesseys, o lyfr Raymond Daniel, Camera'r Cymro

Ken Williams, Jim Williams a Rob James o Glwb Beicio Ystwyth ar ddechrau Ras Ffordd y Bragwyr Cymreig 1970.

Stand y Gogledd, Parc yr Arfau, Caerdydd, 1970, ble gwyliodd llawer i gefnogwr rygbi y tîm cenedlaethol yn eu 'hoes aur'

Tair menyw yn gweithio yn swyddfeydd cwmni tobaco JR Freeman & Son, Penarth Rd, Grangetown, Caerdydd, gyda'r dechnoleg ddiweddaraf - ar y pryd!

Roedd y Commodore yn lle canolog i gymdeithasu ym Mhenarth yn y 1970au gyda disgos a bar poblogaidd

Ffrogiau hir y saithdegau yn eu hanterth mewn cinio yn y 1970au
Mae rhagor o luniau'r ddegawd i'w gweld ar wefan Casgliad y Werin. , dolen allanol
Hefyd o ddiddordeb: