Cartrefu ceiswyr lloches honedig mewn gwesty moethus

  • Cyhoeddwyd
Dywedodd Cyngor Conwy fod y lleoliad yn "hollol amhriodol"Ffynhonnell y llun, Derek Bellis
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cyngor Conwy - ei bencadlys uchod - fod y lleoliad yn "hollol amhriodol"

Mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â phenderfyniad i gartrefu ceiswyr lloches honedig mewn gwesty moethus yng ngogledd Cymru.

Yn ôl gweithredwyr y gwesty, mae'n cael ei ddefnyddio gan y Swyddfa Gartref i helpu i leddfu'r pwysau mewn canolfannau cadw gorlawn yng Nghaint.

Mae'r safle, nad yw'r BBC yn ei enwi am resymau diogelwch, yn darparu llety tymor byr fel rhan o "brosiect brys".

Cafodd gwleidyddion lleol eu hysbysu am y penderfyniad ddydd Sadwrn.

Ond mae AS Aberconwy, Janet Finch-Saunders, wedi llythyru'r Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, i fynegi "pryderon difrifol" ac wedi gofyn iddi wyrdroi'r penderfyniad.

'Trallod sylweddol i gymuned distaw'

Yn ei llythyr mae Ms Finch-Saunders yn tynnu sylw at y ffaith nad oes cyfleuster meddygol yn y pentref, gan gyhuddo'r Ysgrifennydd Cartref o gynyddu'r baich ar "wasanaethau meddygol sydd eisoes mewn trafferthion".

Mae hefyd yn cwestiynu a yw'r Swyddfa Gartref wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru a'r Bwrdd Iechyd lleol, ac yn gofyn a fydd Llywodraeth y DU "yn buddsoddi yn ein cyfleusterau iechyd lleol" er mwyn eu cynorthwyo gydag unrhyw "alw ychwanegol a grëwyd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Finch-Saunders wedi llythyru'r Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman (uchod), yn sgil y penderfyniad

Gan gyfeirio at natur wledig yr ardal a'i chysylltiadau trafnidiaeth gyfyngedig, dywed Ms Finch-Saunders: "Byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro a oedd unrhyw ystyriaeth wedi'i roi i natur wledig y pentref cyn symud mewnfudwyr anghyfreithlon honedig yno."

Gan hefyd ofyn pa fesurau sydd yn eu lle i hwyluso'r gwasanaethau brys "pe bai sefyllfa yn y lleoliad," ychwanegodd: "Rydych chi a'ch adran wedi achosi trallod sylweddol i gymuned ddistaw" cyn gofyn i'r Ysgrifennydd Cartref "ailystyried y penderfyniad hwn sy'n achosi llawer o ddicter".

Yn gynharach, ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Aelod Seneddol Aberconwy, Robin Millar: "Rwy'n bryderus ynghylch addasrwydd yr eiddo hwn, yn y lleoliad hwn, at y diben hwn.

"Gwesty ydy o, nid canolfan gadw. Mae wedi'i ynysu a heb ei gefnogi gan y gwasanaethau priodol.

"Rwyf hefyd yn bryderus iawn am y diffyg rhybudd, y cyfathrebu gwael ac - yn bennaf oll - yr effaith ar gymunedau."

Mae BBC Cymru wedi cysylltu â pherchnogion y safle am sylw.

'Cwbwl amhriodol'

Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, y Cynghorydd Charlie McCoubrey nad oedd yr awdurdod lleol "wedi cael rhybudd ymlaen llaw bod y Swyddfa Gartref yn bwriadu rhoi llety i bobl yn y gwesty".

"Rydym wedi bod yn gwneud ymholiadau am y trefniadau," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Charlie McCoubrey: 'Y lleoliad gwledig arbennig hwn yn gwbl amhriodol i gartrefu pobl fregus'

"Mae'r Cyngor a Gwasanaethau Brys Gogledd Cymru yn cydweithio i sicrhau bod y Swyddfa Gartref yn rhoi mesurau priodol ar waith i gefnogi buddiannau unigolion a'r gymuned leol.

"Mae Conwy wedi croesawu nifer o bobl i'r sir yn ddiweddar, gan gynnwys y rhai sy'n ffoi o'r rhyfel yn Wcráin, fodd bynnag rydym wedi bod yn glir trwy gydol y cyfnod hwnnw fod y lleoliad gwledig arbennig hwn yn gwbl amhriodol i gartrefu pobl fregus."

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae nifer y bobl sy'n cyrraedd y DU sydd angen llety wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed ac wedi rhoi ein system lloches o dan straen anhygoel.

"Mae'r defnydd o westai i gartrefu ceiswyr lloches yn annerbyniol - ar hyn o bryd mae mwy na 37,000 o geiswyr lloches mewn gwestai sy'n costio £5.6m y dydd i drethdalwyr y DU.

"Ateb tymor byr yw defnyddio gwestai ac rydym yn gweithio'n galed gydag awdurdodau lleol i ddod o hyd i lety priodol."

Pynciau cysylltiedig