Pum munud gyda Bardd y Mis: Mererid Puw Davies
- Cyhoeddwyd
Mae'n fis Tachwedd a Mererid Puw Davies yw Bardd y Mis, Radio Cymru. Dyma gyfle i ddod i'w hadnabod.
Fel un gafodd ei magu yn Sir Gaerhirfryn a Chlwyd, wedi byw yn Rhydychen, Yr Almaen a Llundain cyn ymgartrefu ar lan y môr ym Mro Morgannwg, ydy llefydd yn dylanwadu ar dy farddoniaeth?
Ydyn, ac i raddau sy'n fy synnu i rŵan yr ydw i'n meddwl am y cwestiwn. Mae llefydd newydd a llefydd diarth i mi, a'u heffeithiau ar amgyffred rhywun, wedi bod yn destun o ddiddordeb gen i erioed. Mi ddywedodd rhywun unwaith mai peri i bethau cyfarwydd ymddangos yn ddiarth a newydd yw hanfod iaith farddonol, a phwy a ŵyr, efallai bod effeithiau llefydd newydd yn cyd-daro â'r syniad yna?
Rwyt ti'n Athro mewn Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain, fyddi di'n barddoni mewn Almaeneg ac oes gan yr Almaeneg system farddoni unigryw i'r iaith fel y gynghanedd?
Na, fedrwn i byth farddoni mewn Almaeneg, gwaetha'r modd!
Dydw i ddim yn meddwl bod yna unrhyw beth tebyg i gynghanedd mewn Almaeneg, yn union, ond yn ddiddorol, caeth iawn yw'r unig ffurf o ysgrifennu creadigol yr ydw i wedi cael hwyl arni mewn Almaeneg erioed, sef creu anagramau - ad-drefnu dywediadau neu frawddegau a gweld beth ddaw ohonynt ar hap chwarae efo'r llythrennau.
Mae'n rhyfeddod gweld sut mae ffurf sydd mor llym ei disgyblaeth yn medru cynhyrchu delweddau a syniadau hollol annisgwyl a swreal.
Rwyt ti'n wyres i'r awdures Elena Puw Morgan, y fenyw gyntaf i ennill Y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda'i nofel Y Graith yn 1938. Ydy hi wedi bod yn ysbrydoliaeth i ti ac oes gen ti atgofion amdani?
Dim ond y cof brithaf sydd gen i o Elena Puw Morgan, a fi piau'r golled - roedd hi'n wraig arbennig iawn. Chafodd hi ddim cyfle i gwblhau ei haddysg yn yr ysgol, heb sôn am gael mynd i goleg - ac eto, mi greodd hi gorff gwirioneddol arloesol o ffuglen, sydd yn fy marn i flynyddoedd maith o flaen ei oes.
Rwyt ti'n feirniad llenyddol ac wedi cyfrannu beirniadaethau ac adolygiadau i gylchgronau fel Tu Chwith ac O'r Pedwar Gwynt. Fel un sy'n fardd ac yn awdures hefyd, ydy hynny'n dy wneud yn feirniad/adolygwr fwy sensitif neu wyt ti'n parchu gonestrwydd?
Rydw i'n gwneud fy ngorau i fod yn feirniad gofalus iawn am fy mod i mor ymwybodol cymaint o ymroddiad a gwaith sy'n mynd i bob llyfr, a bod pob un yn golygu cymaint i'r awdur. Swydd y adolygydd, yn fy marn i, ydi cyfleu cymaint o wybodaeth a phosib am y gwaith dan sylw, a gadael i'r darllenydd benderfynu drosti hi ei hun wedyn os ydw hi am fynd ati i'w ddarllen - a dod at ei chasgliadau ei hun.
Petaet ti'n gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Rydw i wedi pendroni yn ddwys iawn, iawn dros y cwestiwn yma ac mae'n rhy anodd! Ga' i fod yn fardd o'r dyfodol yn lle? (Mi allwn ddychwelyd wedyn ac adrodd yn ôl sut le sydd yno).
Pa ddarn o farddoniaeth fyddet ti wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Unrhyw ddarn o farddoniaeth sydd wedi golygu rhywbeth i rywun, wedi eu cyffroi, ac wedi peri iddyn nhw feddwl - 'ie'.
Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd, yn ogystal â'r fraint o gael bod yn Fardd y Mis, rydw i'n edrych ymlaen at ymchwilio ac ysgrifennu rhagor ar waith Elena Puw Morgan, sy'n dechrau, dwi'n credu, dod i sylw beirniadaeth o'r newydd, sy'n ddatblygiad cynhyrfus iawn gen i.
Hefyd o ddiddordeb: