Gwasanaethau ar draws Cymru i nodi'r cadoediad

  • Cyhoeddwyd
Croesau yng nghaeau coffa Castell Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r teyrngedau ar gaeau coffa Castell Caerdydd

Mae gwasanaethau wedi cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru ar Ddydd y Cadoediad i gofio'r rhai a gafodd eu lladd neu eu hanafu mewn rhyfeloedd byd.

Roedd yna ddwy funud o dawelwch i gofio'u haberth am 11:00 - yr amser y daeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ben yn swyddogol ar 11 Tachwedd 1918.

Yn y brifddinas fe ddaeth pobl at ei gilydd yn y Senedd ym Mae Caerdydd, Cadeirlan Llandaf a Chastell Caerdydd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Ar yr unfed awr ar ddeg o'r unfed diwrnod ar ddeg, bydd Cymru'n cofio.

"Wrth i ni ddod at ein gilydd i gofio'r sawl rydym wedi'u colli, mae fy meddyliau a'm diolch gydag ein Lluoedd Arfog a'u teuluoedd am y gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud bob dydd."

Disgrifiad o’r llun,

Torf yng nghanol Y Drenewydd fore Gwener

Disgrifiad o’r llun,

Cyn-aelodau'r lluoedd arfog ymhlith y dorf yn Y Drenewydd

'Edmygedd a balchder'

Fe gafodd gwasanaeth ei drefnu yn Ysgol Uwchradd Pen-y-Dre, Merthyr Tudful gan bennaeth yr adran Gymraeg, Mark Morgan.

Cyn symud i'r byd addysg fe wasanaethodd fel milwr am 24 o flynyddoedd, ac mae'n dweud bod diddordeb mawr ymhlith disgyblion ynghylch y ddau ryfel byd a rhyfeloedd mwy diweddar.

Dywedodd eu bod yn "dwli ga'l y cyfle i ddysgu am hanes - hanes Cymru a hanes y byd" ond "beth sy'n bwysig i fi yw bod ni'n dod gyda'n gilydd a ni'n dweud diolch fel ysgol gyfan".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaeth yn ffordd "ystyrlon" i ddisgyblion ddysgu am hanes Cymru a'r byd, medd Mark Morgan

Ag eleni'n 40 mlynedd ers Rhyfel y Falklands, dywedodd Mr Morgan bod presenoldeb cyn-aelodau lleol o'r lluoedd arfog, gan gynnwys rhai oedd yn rhan o'r ymosodiad ar long y Sir Galahad yn "rhywbeth sbesial heddi".

"Mae'n rhywbeth ystyrlon i'r plant i weld rywbeth fel'na - gweld y dynion yn dod fan hyn, yn gw'bod yr hanes erbyn hyn, hanes y Falklands a be' ddigwyddodd yna."

"Mae'n berthnasol iawn. Mae aelodau staff sy' gyda meibion neu aelodau teulu yn gwasanaethu ar hyn o bryd.

"Mae lot o blant wedi dod i mewn gyda lluniau [yn dweud] 'edrych - dad-gu' neu rywun o'r teulu ac mae'r balchder a'r edmygedd yn amlwg iawn a mae'n hyfryd i'w weld."

Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion Ysgol Uwchradd Pen-y-Dre yn ymgasglu ar gyfer gwasanaeth ddydd Gwener