'Rhaid i COP27 arwain at newid go iawn ar lawr gwlad'

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r protestwyr yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi cynnal protestiadau yng Nghymru gan alw ar wleidyddion yn uwchgynhadledd COP27 i weithredu mwy a siarad llai am gamau i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Fe orymdeithiodd gannoedd o brotestwyr trwy ganol Caerdydd ac roedd yna wrthdystiadau hefyd yn Abertawe, Caerfyrddin a Chaernarfon.

Mae'r trefnwyr, y mudiad Climate Justice Coalition, yn galw am wario mwy o arian ar ffynonellau ynni adnewyddadwy yn hytrach na thanwydd ffosil.

"Dan ni yma hefyd oherwydd mae COP27 yn digwydd yn Yr Aifft a 'dan ni angen tynnu sylw i wleidyddion y ffaith bod hyn yn fater difrifol iawn," meddai'r cyn AS Plaid Cymru, Bethan Sayed - un o'r rhai fu'n annerch ymhell dros 200 o bobl yng Nghaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid cael targedau pendant o ganlyniad y trafodaethau yn Yr Aifft, medd Bethan Sayed

Dywedodd Ms Sayed - cydlynydd ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma sy'n pwyso am fwy o gymorth i bobl dalu'u biliau nwy a thrydan - bod angen "newid y systeme yn y byd er mwyn dod i'r afael â newid hinsawdd".

Ond mae'n "anodd" gwybod i ba raddau y daw unrhyw ddatblygiadau cadarnhaol o ganlyniad i'r trafodaethau yn y gynhadledd yn Sharm-el-Sheikh.

"Os 'dan ni'n edrych ar beth mae gwladwriaethau dros y byd yn gwneud, mae allyriade nhw yn fawr a 'dyn nhw ddim wedi dweud bod nhw'n mynd i dorri digon er mwyn i ni fynd i'r afael â'r sefyllfa yma," meddai.

"Os ydyn nhw'n mynd i gael trafodaethau sydd yn mynd i arwain at unrhyw fath o newid, mae angen targedau gwell.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 300 o bobl yn y digwyddiad yng Nghaerdydd

"Mae angen iddyn nhw ddweud beth maen nhw'n gwneud a gwneud beth maen nhw'n dweud, a sicrhau bod newid ar droed a rhoi pethau i mewn i weithredaeth.

"Mae siop siarad ddim yn mynd i helpu - mae rhaid i COP27 arwain at newid go iawn ar lawr gwlad neu fydd yn wastraff amser."

'Sawl COP sydd angen?'

"Fedran ni ddim fforddio gael mwy o gynadleddau COP - does dim angen mwy o gynadleddau COP," meddai Clare James ar ran trefnwyr y protestiadau.

"Dewis gwleidyddol yw dewis peidio gwneud dim i ddatrys yr argyfwng hinsawdd. Ry'n ni wedi cael 27 COP - faint yn rhagor sydd angen?

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid i lywodraethau ddangos eu bod "o ddifri" ynghylch buddsoddi mewn ynni cynaliadwy, medd Clare James

"Mae'n wych os gallwn ni gyd newid ein hymddygiad fymryn ond mae yna gannoedd ar filoedd ar filiynau o bobol [ar draws y byd] sy' methu gwneud hynny am amryw o resymau.

"Dyna pam roedd yn rhaid i ni ddod at ein gilydd ac mae'n rhaid i ni fynnu bod systemau yn newid."

"Mae pobl yn aml yn teimlo'n anobeithiol - dydyn nhw ddim yn gwybod be' i'w wneud.... ond mi allwn ni wir wneud gwahaniaeth.

"Rhaid i ni ddod at ein gilydd, dweud wrth lywodraethau a banciau i stopio ariannu tanwydd ffosil a buddsoddi o ddifri mewn ynni adnewyddadwy a chynaliadwy."