COP27: Myfyrwraig Aberystwyth i fynychu cynhadledd
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth sy'n mynychu COP27 wedi sôn am effaith "brawychus" newid hinsawdd ar ei gwlad.
Daw Nathalia Lawen o Seychelles, ac mae wedi'i gwahodd i'r gynhadledd yn Yr Aifft o ganlyniad i'w gwaith ymgyrchu.
Mae uwchgynhadledd COP27 yn dod ag arweinwyr y byd at ei gilydd i drafod yr heriau amlwg sy'n dod yn sgil newid hinsawdd.
Yr wythnos hon rhybuddiodd arlywydd yr ynysoedd y gallai rhai "ddiflannu" heb weithredu brys i atal cynhesu byd eang.
Gyda'r môr a harddwch arfordir y Seychelles yn rhan fawr o'i magwraeth, dywedodd Ms Lawen ei bod wedi'i denu at ymgyrchu er lles y blaned o oed ifanc.
Bu'r fyfyrwraig 21 oed yn arwain prosiectau glanhau traethau, a daeth yn llysgennad ifanc i elusen Peace Boat, sy'n hwylio ar draws y byd yn codi ymwybyddiaeth o broblemau amgylcheddol.
'Bygythiad gwirioneddol'
Mae ynysoedd bychain fel y Seychelles, archipelago oddi ar ddwyrain Affrica, yn cael eu taro gynta' gan effeithiau gwaetha' newid hinsawdd, eglurodd.
Mwy o dywydd eithafol sy'n anodd ei ragweld, pysgod a bywyd gwyllt yn prinhau a'r cyfan yn cyfuno â'r bygythiad gwirioneddol o gynnydd yn lefel y môr.
"Os na newn ni rywbeth nawr fydd ein plant a'n wyrion byth yn cael gwybod sut le oedd y Seychelles ac mae hynny yn fy mrawychu i," meddai.
Nid dim ond tir fyddai'n cael ei golli, ond diwylliant a thraddodiadau hefyd, ychwanegodd - "sut allwch chi ddechrau cyfri'r gost?"
"Mae rhai gwledydd yn honni nad eu problem nhw yw hyn, ond bydd ffoaduriaid hinsawdd yn dod yn fwy o beth ac yn effeithio ar y byd i gyd," meddai.
'Mae'n ynysoedd yn diflannu'
Wrth annerch COP27 dywedodd Wavel Ramkalawan, arlywydd y Seychelles bod gwledydd fel yr un y mae'n arwain ar reng flaen y frwydr yn erbyn cynhesu byd eang, er bod eu cyfraniad at achosi'r broblem yn hanesyddol yn "fach iawn".
Roedd fforestydd mangrof y Seychelles yn amsugno mwy na holl allyriadau'r wlad, meddai, "gan olygu nad ydyn ni'n cyfrannu dim at ddifrodi'r blaned, ond mae'n ynysoedd yn diflannu".
Un o'r prif bynciau trafod yn y gynhadledd yn Sharm-el-Sheikh eleni yw a ddylai gwledydd cyfoethog, datblygedig - sydd benna' gyfrifol am dwymo'r blaned a nwyon tŷ gwydr, orfod talu iawndal i bob pwrpas i'r gwledydd llai datblygedig sy'n profi'r effeithiau'n barod.
Dywedodd Ms Lawen ei bod hi'n falch o weld y pwnc yn cael lle ar yr agenda'n swyddogol am y tro cynta' mewn cynhadledd o'r fath.
"Dwi wir yn gwerthfawrogi ein bod ni'n cael y drafodaeth yma, achos dwi'n credu bod angen i wledydd wrando arnom ni."
Mae'n mynychu COP27 ar ôl derbyn gwahoddiad gan lywodraeth y Seychelles, a bydd yn siarad mewn cyfres o ddigwyddiadau yno.
Dywedodd ei bod yn awyddus i alw am fwy o ffocws ar warchod iechyd cefnforoedd y byd, ond hefyd i "gasglu gymaint o wybodaeth a phrofiad ag y gallai i helpu tuag at fy ngradd yn Aberystwyth".
Mae yn ei hail flwyddyn, yn astudio economeg a newid hinsawdd yn y brifysgol ger y lli - a'r agosatrwydd at y môr yn un o'r rhesymau pam y cafodd hi ei denu yno, meddai.
Mae effeithiau newid hinsawdd hefyd yn dod yn fwy amlwg yng Nghymru, awgrymodd - gyda'r hydref poeth diweddar, a chynnydd mewn achosion o dywydd eithafol yn rhybudd at y dyfodol.
Ond dywedodd ei bod wedi'i phlesio o weld tipyn o ymgyrchu dros weithredu ar newid hinsawdd yn lleol, gan gynnwys gorymdaith drwy'r dref cyn COP27.
Ac roedd ganddi neges i'r bobl ifanc o ysgolion drwy Gymru fydd yn ymgasglu yng Nghaerdydd ar gyfer digwyddiad COP Ieuenctid Cymru yn ddiweddarach.
"Peidiwch â meddwl eich bod chi'n rhyd fach neu'n rhy ifanc i son am yr hyn sy'n bwysig i chi. Byddwch yn ddewr - er bod eich llais yn crynu - gweiddwch a bydd pobl yn gwrando," meddai.
Llwyfannau i bobl ifanc
Mae disgwyl i 120 o ddisgyblion fod yn y digwyddiad, lle fyddan nhw'n cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai gyda grwpiau amgylcheddol, gwleidyddion a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Kevin Rahman-Daultrey, o Maint Cymru, sef yr elusen sy'n trefnu'r gynhadledd, mai "newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf dybryd sydd yn wynebu dynoliaeth a, bydd cenedlaethau iau a chenedlaethau'r dyfodol yn dwyn baich hyn".
"Mae'n bwysig dros ben bod pobl ifanc yn gallu siarad â'r rheini sydd mewn pŵer am yr hyn maen nhw'n ei wneud i ddiogelu eu dyfodol, a'r hyn maen nhw eisiau iddyn nhw fod yn ei wneud.
"Dyma pam bod ymgysylltu â phobl ifanc yn y broses COP a darparu llwyfannau i bobl ifanc i ddod at ei gilydd gyda'r rhai sydd mewn grym yma yng Nghymru mor bwysig."
Ychwanegodd Alfred, o grŵp Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru bod "COP27 yn agor y cyfle i bobl ifanc ddangos unwaith eto nad yw geiriau'n ddigon - mae angen gweithredu ar frys".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2021