Cadarnhau codiad cyflog o 5% i athrawon Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cyflogau athrawon yn codi ar raddfa is na chwyddiant eleni.
Roedd y gweinidog addysg eisoes wedi cyhoeddi fis Gorffennaf mai'r bwriad oedd cynnig codiad o 5% o fis Medi ymlaen.
Maen nhw bellach wedi cadarnhau hynny yn dilyn ymgynghoriad wyth wythnos gyda "rhanddeiliaid allweddol".
Ond mae un o'r undebau sy'n cynrychioli penaethiaid ysgolion eisoes wedi beirniadu'r penderfyniad fel "ergyd siomedig" i'r proffesiwn.
Dywed yr NAHT y bydd unrhyw newidiadau mae Llywodraeth Cymru am wneud i'r drefn addysg yma yn "ddiwerth os na allwn ni fforddio i gadw gafael ar athrawon ac athrawon cynorthwyol."
Dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru: "Dyw'r dyfarniad ddim yn gwneud unrhyw beth i fynd i'r afael â degawd o doriadau i gyflogau sydd wedi gweld cyflogau penaethiaid yn gostwng dros 20% yn nhermau real."
Mae cyfradd chwyddiant yn y DU ar 10.1% ar hyn o bryd - y lefel uchaf ers 40 mlynedd.
Cytunodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles i'r lefelau tâl newydd ar sail argymhellion gan gorff cyflogau annibynnol.
Dan y cynlluniau, y cyflog cychwynnol newydd ar gyfer athrawon fydd £28,866, a bydd cyflogau athrawon dosbarth mwy profiadol yn cynyddu £2,117 i £44,450.
Bydd y cynnydd yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Medi eleni.
Dywedodd Mr Miles mewn datganiad ysgrifenedig ei fod yn derbyn y gallai "rhai pobl fod yn siomedig", ond nad oes modd cynnig mwy o gynnydd am nad oes rhagor o arian wedi dod gan Lywodraeth y DU.
"Rwy'n derbyn y gallai rhai pobl fod yn siomedig na ellir darparu cynnydd uwch ac yn cydnabod hawl gyfreithiol pob gweithiwr i geisio codiad cyflog teg a gweddus yn ystod y cyfnod heriol hwn o chwyddiant a chynnydd mewn costau byw," meddai.
"Fodd bynnag, gan na chafwyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, nid ydym mewn sefyllfa i fynd i'r afael ymhellach â'r materion hyn y tu hwnt i'r hyn sydd eisoes wedi ei ystyried.
"Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru werth £4bn yn llai dros dair blynedd y setliad cyfredol - £1.5bn yn is y flwyddyn nesaf. Mae hyn cyn ystyried y toriadau pellach i gyllidebau y bu cymaint o sôn amdanynt ac y disgwylir i Lywodraeth y DU eu cyflwyno cyn hir.
"O fewn y cyd-destun hwn, yn syml ni ellir fforddio cynnig cynnydd uwch mewn cyflogau, a byddai'n anghyfrifol gwneud hynny.
"Rydym yn galw eto ar Lywodraeth y DU i wneud y peth iawn o'r diwedd ac i weithredu ar unwaith i adfer cyllideb Cymru fel y gallwn gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus."
Wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fis Gorffennaf y bwriad i roi cynnydd o 5%, fe wnaeth undebau addysg fygwth streicio pe bai hynny'n cael ei gadarnhau.
Fe wnaeth undeb NASUWT wrthod y cynnig, gan ddweud fod hynny'n "llawer rhy isel", a bod angen cynnydd o 12%.
Roedden nhw'n bygwth cynnal pleidlais ynghylch gweithredu diwydiannol yn yr hydref os nad oedd cynnydd pellach.
'Toriad cyflog mewn termau real'
Dywedodd cyfarwyddwr undeb ASCL - Cymdeithas yr Arweinwyr Ysgolion a Cholegau - fod y cynnydd yn "llawer is" na'r hyn mae athrawon yn ei haeddu ar ôl delio gydag effeithiau'r pandemig.
"Mae'n is na chyfradd chwyddiant felly mae'n doriad cyflog mewn termau real, yn dilyn degawd ble mae tâl eisoes wedi erydu'n sylweddol," meddai Eithne Hughes.
"Mae 'na argyfwng recriwtio a chadw staff ym myd addysg ar hyn o bryd, ac mae tâl yn rheswm mawr dros hyn.
"Ni allwn fynd i'r afael â hynny heb i athrawon ac arweinwyr gael eu talu mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r rôl allweddol maen nhw'n ei chwarae yn ein cymdeithas."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd12 Awst 2022
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022