Taith pianydd dall i berfformio mewn gŵyl yn Japan

  • Cyhoeddwyd
Rachel Starritt
Disgrifiad o’r llun,

Rachel Starritt oedd y myfyriwr dall cyntaf i wneud gradd cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd

Bydd pianydd dall o Ben-y-bont ar Ogwr yn teithio i Japan er mwyn perfformio mewn gŵyl gelfyddydau rhyngwladol dros y penwythnos.

Cafodd Rachel Starritt, sy'n 28, ei geni'n ddall ac mae'n byw gyda syndrom Asperger. Ond mae wedi dysgu i chwarae concertos llawn drwy wrando yn unig.

Fe dderbyniodd hyfforddiant piano ffurfiol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd - y myfyriwr dall cyntaf i ddilyn gradd cerddoriaeth yno.

Mae'r ŵyl True Colours yn cynnwys perfformwyr gydag anableddau, gyda bron i 100 o berfformwyr o 12 o wledydd yn cymryd rhan.

Fe drodd Rachel at y piano yn yr ysgol gynradd.

"Fe ddechreues i ganu'r piano yn y gwasanaeth yn yr ysgol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel wedi ei disgrifio fel "cerddor naturiol"

"Fe glywes i'r athro yn chwarae ac ro'n i am wneud yr un peth. Fe ges i wersi gyda menyw leol, ac wedyn symud i Ysgol Gerdd Forte yng Nghaerdydd pan o'n i'n chwech oed.

"Dwi ddim yn siŵr os 'nes i sylweddoli bod gen i dalent neu beidio. Efallai pan o'n i yn y gwasanaeth ysgol, ac o'n i'n chwarae caneuon roedden i wedi clywed, a ro'n i am fwynhau fy hun."

'Cerddor naturiol'

Mae Rachel wedi ei disgrifio fel "cerddor naturiol" gyda "thalent ddisglair i ganu'r piano".

Mae'n sgil i chwarae unrhyw offeryn, ond mae heriau ychwanegol wrth wneud hynny fel person dall.

"Yn amlwg dwi'n dysgu darnau mewn ffyrdd gwahanol. Gyda fy athrawes, Alison, dwi'n dysgu trwy wrando ar recordiadau gwahanol a fersiynau gwahanol o'r un darn. Dwi wedyn yn mynd at fy athrawes a dysgu rhannau unigol o'r darnau.

"Ar ddiwedd y wers ry'n ni'n recordio'r darn, popeth ry'n ni wedi bod drosto, a dwi'n ymarfer cyn y wers nesa. Ry'n ni'n adolygu popeth dwi wedi ei ddysgu yn y rhan gyntaf ac wedyn dwi'n ychwanegu deunydd newydd gan ddefnyddio'r un egwyddor."

Dyw chwarae ar lwyfannau mawr ddim yn anghyffredin i Rachel. Yn 2019 fe berfformiodd yn Glastonbury fel rhan o Gerddorfa Synth Love Unlimited.

Hi hefyd, oedd y pianydd yn hysbyseb Channel 4 "We're the Superhumans" cyn gemau Paralympaidd Rio.

'Uno a rhannu neges'

Ond bydd y daith i ŵyl True Colours yn Tokyo y penwythnos hwn yn brofiad cyffrous, yn enwedig gyda Katy Perry yn brif artist yr ŵyl.

"Yn Japan fe fyddai'n chwarae gyda cherddorion gyda gwahanol anableddau o tua 100 o wahanol wledydd, ac ry'n ni gyd yn dod at ein gilydd ar un llwyfan i uno a rhannu neges o un teulu ac un byd.

"Mae cymryd rhan yn y digwyddiad yma yn bwysig, bwysig iawn, achos dwi'n credu y dylai cerddorion gyda gwahanol anableddau gael yr un cyfleoedd a phawb arall."

Ffynhonnell y llun, John Shearer/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Katy Perry ymysg y perfformwyr yn cymryd rhan yn yr ŵyl yn Japan

Gyda cherddorion o bedwar ban byd yn cymryd rhan, dyw'r trefniadau na'r ymarferion wedi bod yn rhwydd.

"Roedd y cyfarwyddwr yn Singapore. Roedden ni'n cwrdd dros Zoom i fynd dros yr holl ddarnau a beth oedd e am i fi wneud.

"Roedd e wedyn yn rhoi wythnos i fi i weithio mas y gwahanol drefniadau ac wedyn o'n i'n anfon recordiad draw ato fe.

"Dwi wir yn edrych 'mlan i gwrdd â phawb nes i gwrdd â nhw yn yr hysbysebion ar gyfer gemau Paralympaidd Rio yn 2016, achos roedd hwnnw yn gysylltiad gyda'r digwyddiad yma yn Japan.

"Dyna sut ges i fy ngwahodd. Hefyd dwi'n edrych ymlaen i ddysgu mwy am y diwylliant a sut mae pobl yn byw draw yn Japan. Hefyd cael bod ar un llwyfan a mynd trwy'r ymarferion a chael popeth i weithio."

Pynciau cysylltiedig