Toriadau 'digynsail' ar y gorwel i gynghorau sir Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd rhaid i gynghorau lleol ystyried cwtogi gwasanaethau os yw'r sefyllfa economaidd yn gwaethygu, yn ôl un awdurdod lleol.
Mae Cyngor Sir Gâr yn rhybuddio y bydd angen dod o hyd i arbedion o hyd at £22m yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, fod cyfnod heriol ar y gorwel.
"Dwi'n credu bod y sefyllfa yn ddigynsail o fy mhrofiad i," meddai wrth Dros Frecwast.
'Canlyniadau argyfyngus'
Mae cynghorau lleol ar hyd a lled Cymru yn y broses o gynllunio eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd.
Gyda chwyddiant ar gynnydd a phryder am ddirwasgiad economaidd, mae cynllunio yn amhosib yn ôl Mr Lenny.
"Ry'n ni yn y sefyllfa yma oherwydd ffactorau sydd tu allan i'n rheolaeth ni," meddai.
"Oherwydd y cynnydd anferth ym mhris ynni, ry'n ni'n gorfod canfod miliynau yn ychwanegol i dalu am wresogi canolfannau hamdden, ysgolion, cartrefi preswyl, ac yn y blaen."
Dywedodd y byddai'r cyngor yn gorfod ceisio arbed £8m hyd yn oed yn y sefyllfa "orau".
"Ar y gwaetha', ry'n ni'n edrych ar £22m," meddai. "Mae hynny'n dibynnu ar faint o arian gawn ni wrth Lywodraeth Cymru."
Wrth i'r sefyllfa economaidd waethygu, y pryder yw y bydd toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn effeithio'n fawr ar ba wasanaethau sy'n cael eu cynnig.
"Byddai'r canlyniadau yn argyfyngus i bob math o wasanaeth ar lawr gwlad yng Nghymru," ychwanegodd Mr Lenny.
"Dwi'n ofni y bydd rhaid torri ar draws pob math o wasanaeth.
"Chi naill ai yn dileu yn llwyr gwasanaethau sydd ddim yn statudol, fel canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, neu chi'n torri mwy ar addysg ac ar ofal sef y ddau beth mawr ry'n ni'n gwario arno."
Cynghorau'n fethdalwyr?
Dywedodd un cynghorydd sy'n gyfrifol am gyllid ar gyngor yn y gogledd bod posibilrwydd o awdurdodau'n mynd yn fethdalwyr.
"Y pryder mwyaf i rai awdurdodau ydy bod nhw'n mynd i'r wal", meddai'r Cynghorydd Mike Priestley o Gyngor Sir Conwy.
"Beth fyddai'n digwydd wedyn yw y byddai Llywodraeth Cymru'n anfon pobl i mewn i dorri cyllidebau."
Ychwanegodd ar BBC Radio Wales bod Cyngor Conwy'n wynebu diffyg o "o leiaf £20m" y flwyddyn nesaf.
Dywedodd y bydd rhai awdurdodau'n troi at arian wrth gefn, ond mai ychydig iawn sydd gan Gyngor Conwy.
"Os ydych chi'n defnyddio'r arian wrth gefn, dim ond unwaith allwch chi wneud hynny."
Darlun tebyg ar draws Cymru
Yn ôl cyn-arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, does dim lle i dorri gwasanaethau ymhellach.
"Dyw e ddim yn mynd i fod yn rhwydd i ddim un cyngor," meddai.
"Mae llyfrgelloedd wedi cael eu torri 'nôl lot ond wedyn does 'na'm fawr o ddim bloneg yn fanna y gallwn ni dorri chwaith.
"Mae e 'di bod yn ddi-stop o ran toriadau, ac mae gwasanaethau ar draws y bwrdd, er bo' nhw'n statudol, hefyd yn gwegian erbyn hyn."
Andrew Morgan yw arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - y sefydliad sy'n siarad ar ran cynghorau Cymru.
"Rwyf wedi bod yn gynghorydd ers 2004... ac nid ydym erioed wedi wynebu dim byd ar raddfa'r flwyddyn nesaf," meddai wrth BBC Radio Wales Breakfast.
"Mae'r rhagamcanion diweddaraf ar gyfer y flwyddyn nesaf yn dangos y bydd ein costau ynni yn Rhondda Cynon Taf yn cynyddu £14m, felly bydd y bil nwy a thrydan yn codi o £6m i £20m.
"I roi hynny yn ei gyd-destun, pe bai pob cartref yn Rhondda Cynon Taf yn talu £130 yn ychwanegol ar eu treth gyngor, byddai hynny ond yn talu am y nwy a'r trydan y flwyddyn nesaf.
"Mae gennym lawer o wasanaethau sydd wedi'u torri dros y blynyddoedd - pethau fel canolfannau hamdden, llyfrgelloedd - allwn ni ddim eu cau am yr eilwaith.
"Oni bai bod rhywbeth yn newid, bydd dewisiadau anodd iawn, ac mae'r cyhoedd yn mynd i weld rhywfaint o ofid gwirioneddol, lle byddwn yn gweld colli swyddi, gostyngiad mewn gwasanaethau, a chwtogi ar yr hyn y gall awdurdodau lleol ei wneud."
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cael eu rhybuddio eisoes gan eu prif swyddog ariannol eu bod nhw'n wynebu her ariannol "mwy o bosib" na'r cyfnod o lymder wedi 2010, gyda bwlch o £8.8m yn eu cyllideb.
Er eu bod nhw'n ystyried cau'r bwlch hwnnw wrth beidio llenwi rhai swyddi, a gwerthu mwy o eiddo, gallai toriadau i wasanaethau hefyd fod yn rhan o'r cyfaddawd.
Mae arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard, hefyd wedi rhybuddio fod "penderfyniadau anodd" yn eu hwynebu nhw, er i'w cyllideb gan Lywodraeth Cymru gynyddu o 9.4% y llynedd.
Daw hynny wrth i awdurdod lleol cyfagos Cyngor Sir y Fflint amcangyfrif bod bwlch o £24m yn eu cyllideb nhw, ac maen nhw'n bwriadu gofyn i lywodraethau Cymru a'r DU am gymorth i geisio osgoi cwtogi gwasanaethau a swyddi.
Rhoi'r bai ar San Steffan
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod chwyddiant a chostau ynni wedi rhoi pwysau ar gyllidebau cynghorau lleol.
"Rydyn ni hefyd yn wynebu heriau ariannol gwirioneddol oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig," meddai llefarydd.
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i alw am newid trywydd.
"Mae ein cyllideb werth £4bn yn llai dros y cyfnod gwario tair blynedd hwn, oherwydd y cynnydd mewn chwyddiant," meddai.
"Mae Llywodraeth y DU wedi amddifadu gwasanaethau cyhoeddus o gyllid ac mae'n edrych yn debyg y bydd yn gwneud y toriadau mwyaf erioed i wariant cyhoeddus i dalu am ei chyllideb fechan anghyfrifol."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Trysorlys Llywodraeth y DU: "Rydym wedi ymrwymo i dyfu'r economi ledled y DU drwy ein cynllun twf, a fydd yn caniatáu inni ariannu a buddsoddi'n briodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
"Mae'r cyfrifoldeb am ariannu gwasanaethau cyhoeddus wedi'i ddatganoli i raddau helaeth ar draws y DU, ond rydyn ni wedi rhoi'r swm uchaf erioed o £18bn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru am y tair blynedd nesaf - y setliad adolygiad gwariant uchaf ers datganoli."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd25 Medi 2022