Plaid Cymru: Penodi cwmni i ymchwilio i 'honiadau o gamymddwyn'
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi penodi cwmni adnoddau dynol allanol i ymchwilio i "honiadau o gamymddwyn" o fewn y blaid.
Mae BBC Cymru wedi gweld tystiolaeth sy'n dangos bod y cwmni, sy'n dechrau ar ei waith yr wythnos hon, wedi'i benodi i "gynnal ymchwiliad llawn i'r holl faterion sydd wedi codi".
Daw hyn ar ôl i honiadau gael eu gwneud yn erbyn aelod etholedig o'r blaid, ac am y diwylliant ym Mhlaid Cymru.
Mewn datganiad i'r BBC dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Marc Jones ei fod eisiau rhoi sicrwydd i holl aelodau Plaid Cymru "fy mod yn cymryd yr holl faterion a phrosesau hyn o ddifri'".
Mae'r Aelod o'r Senedd dros Blaid Cymru, Rhys ab Owen wedi ei wahardd o grŵp y blaid ym Mae Caerdydd. Deallir bod hyn yn ymwneud â honiad difrifol am ei ymddygiad.
Dywedodd grŵp y blaid yn y Senedd bod y gwaharddiad yn un dros dro tra'n "aros am gasgliad ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd i achos honedig o dorri'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd".
'Diwylliant ofnadwy'
Mae BBC Cymru wedi siarad gyda nifer o ffynonellau sy'n dweud bod yna bryder sylweddol o fewn y blaid am y modd y maen nhw'n delio gyda honiadau, a bod pryderon wedi eu mynegi am ymddygiad Rhys ab Owen y llynedd.
Fe gyfeiriodd un ffynhonnell at "ddiwylliant ofnadwy" yn y blaid a " diffyg arweinyddiaeth".
Dywedodd Mr Jones: "Yn naturiol ar y pwynt yma, nid ydym yn gallu rhannu unrhyw wybodaeth am unrhyw achosion unigol neu honiadau, ond dwi eisiau rhoi sicrwydd i holl aelodau Plaid Cymru fy mod yn cymryd y materion a phrosesau hyn o ddifri'.
"Rydym wedi penodi arbenigwyr adnoddau dynol allanol i helpu gyda'n gwaith.
"Rydym yn cynnig cymorth i bob aelod o staff, wrth i ni flaenoriaethau eu lles. Rydym yn cynnal arolwg o brofiadau staff fydd yn sail i'n penderfyniadau yn y dyfodol.
"Heb ragfarnu canlyniad unrhyw ymchwiliad sydd ar waith, fe fyddwn mor agored ag y gallwn fod wrth i ni barhau i sicrhau bod ein holl brosesau mewnol yn cael eu dilyn yn drylwyr bob amser."
Ar raglen Sharp End ar ITV, gwadodd Llyr Gruffydd, cadeirydd grŵp Plaid Cymru yn y Senedd, yr honiadau wnaed mewn erthygl ar Walesonline o "awyrgylch tocsig" yn y blaid, ble roedd pobl yn ofni adrodd am honiadau.
Dywedodd nad oedd o'n cydnabod bod yna broblem ehangach o fewn y blaid.
Pan gafodd Mr ab Owen ei wahardd, dywedodd llefarydd ar ran grŵp Plaid Cymru yn y Senedd: "Mae Rhys ab Owen, Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru o Blaid Cymru, a grŵp Plaid Cymru yn y Senedd wedi cytuno ar y cyd i'w atal dros dro o grŵp Plaid Cymru.
"Mae hon yn weithred niwtral, heb ragfarn, tra'n aros am gasgliad ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd i achos honedig o dorri'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd."
Mae'r BBC wedi gofyn i Mr ab Owen am sylw, ond dyw e ddim wedi ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2022