Nexperia yn gorfod gwerthu 86% o ffatri Newport Wafer Fab

  • Cyhoeddwyd
Newport Wafer FabFfynhonnell y llun, Newport Wafer Fab
Disgrifiad o’r llun,

Mae Newport Wafer Fab yn cyflogi tua 450 o bobl yn ardal Dyffryn y ddinas

Mae'n rhaid i gwmni Nexperia werthu 86% o'u siâr yn ffatri Newport Wafer Fab oherwydd pryderon am ddiogelwch cenedlaethol, medd Llywodraeth y DU.

Cafodd cwmni Newport Wafer Fab ei brynu'n llawn gan y cwmni technoleg o'r Iseldiroedd, Nexperia, ym mis Gorffennaf 2021.

Ond cafodd adolygiad o'r pryniant ei orchymyn gan weinidogion ar sail diogelwch cenedlaethol - hynny gan bod prif berchnogion Nexperia yn dod o China.

Rhaid i Nexperia werthu 86% o'r busnes "i liniaru'r risg i ddiogelwch gwladol", medd y llywodraeth.

Dywedodd Nexperia eu bod yn bwriadu herio'r gorchymyn.

Maen nhw'n dweud y byddai eu gorfodi i werthu 86% o'u siâr yn gwneud diswyddiadau yn "anochel".

Mae'r diwydiant lled-ddargludyddion y DU yn cael ei ystyried yn un o bwysigrwydd strategol, ac roedd yna bryderon y gallai'r dechnoleg yng Nghasnewydd fynd i ddwylo China drwy Nexperia.

Cwmni Wingtech sydd yn berchen ar Nexperia, cwmni sydd wedi'i restru yn Shanghai ac a gredir o fod yn cael cefnogaeth gan Blaid Gomiwnyddol China.

Wrth ddod i benderfyniad dywedodd Llywodraeth y DU fod prynu ffatri Newport Wafer Fab yn ei chyfanrwydd wedi creu dau risg penodol i ddiogelwch cenedlaethol.

Roedd y pryder cyntaf yn ymwneud â datblygiad y safle gan Nexperia yng Nghasnewydd - rhywbeth yn ôl y llywodraeth a allai "danseilio galluoedd y DU" wrth gynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd (compound semiconductors).

Yr ail risg oedd y gallai lleoliad y safle yng Nghasnewydd, lle mae'n rhan o "glwstwr" o fusnesau tebyg, "hwyluso mynediad at arbenigedd technolegol a gwybodaeth".

Nodwyd y gallai'r cysylltiadau agos sy'n bodoli yng Nghasnewydd "atal y clwstwr rhag cymryd rhan mewn prosiectau yn y dyfodol sy'n berthnasol i ddiogelwch cenedlaethol".

Beth ydy lled-ddargludyddion?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Newport Wafer Fab, sy'n cynhyrchu lled-ddargludyddion (semiconductors), yn cyflogi 450 o bobl yn y ffatri yn ardal Dyffryn.

Mae lled-ddargludyddion, sydd hefyd yn cael eu galw'n microsglodion neu sglodion, yn caniatáu i drydan lifo trwy ddyfeisiadau.

Maen nhw felly'n rhan bwysig o bob math o bethau, o ffonau clyfar i ganolfannau data enfawr sy'n cynnal y rhyngrwyd.

Maent yn cael eu hystyried yn hanfodol i ddiogelwch cenedlaethol y DU a materion byd-eang eraill. Yn y gorffennol mae ASau wedi dweud eu bod yn bryderus am "werthu asedau mor werthfawr i gystadleuydd strategol".

Ar hyn o bryd mae yna brinder o led-ddargludyddion ar draws y byd.

Dywedodd Toni Versluijs, sy'n bennaeth ar gweithrediadau Nexperia yn y DU, eu bod "wirioneddol mewn sioc".

"Mae'r penderfyniad yn anghywir, ac fe fyddwn ni'n apelio i wrthdroi'r gorchymyn hwn er mwyn diogelu'r dros 500 o swyddi yng Nghasnewydd.

"Mae'r penderfyniad yn anghymesur o ystyried yr atebion mae Nexperia wedi'u cynnig.

"Mae'n anghywir i'r gweithwyr, i ddiwydiant lled-ddargludyddion y DU, i economi'r DU ac i drethdalwyr y DU - a allai bellach wynebu bil o dros £100m am ganlyniad y penderfyniad hwn.

"Fe wnaethon ni arbed cwmni rhag dymchwel. Ry'n ni wedi ad-dalu benthyciadau trethdalwyr, wedi sicrhau swyddi, cyflogau, taliadau bonws a phensiynau ac wedi cytuno i wario mwy na £80m ar uwchraddio offer. Fe groesawyd y cytundeb yn gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru."

'Eglurdeb'

"Mae penderfyniad Llywodraeth y DU wedi rhoi rhywfaint o eglurdeb sydd i'w groesawu," dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Ein blaenoriaeth yn ddi-oed nawr yw diogelu dyfodol cannoedd o swyddi sgiliau uchel yng Nghasnewydd."

Mae'r weinyddiaeth, meddai, yn "parhau'n hollol ymroddgar i sicrhau parhad datblygiad ein clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y de ddwyrain a'u rôl ar lefel ehangach y DU".

Mae'r penderfyniad, ychwanegodd y llefarydd, yn arwydd bod gweinidogion y DU yn ystyried y sector yng Nghymru "yn ased strategol cenedlaethol... â chydnabyddiaeth ryngwladol" ac mae'n galw arnynt "i fuddsoddi yn y sector i ddiogelu ei ddyfodol".