Saer o Lŷn yn ffeindio desg ei hen, hen daid ym Mhatagonia
- Cyhoeddwyd
Mae saer coed o Aberdaron wedi darganfod desg gyda llofnod ei hen, hen daid yn Llyfrgell Eluned Morgan, Coleg Camwy ym Mhatagonia, a'i bod wedi cael ei chyflwyno i'r ysgol gan David Lloyd George.
Doedd gan Siôn Dorkins fawr ddim gwybodaeth am hanes Griffith Dorkins, ei hen, hen daid nes i Esyllt Nest Roberts, athrawes o Goleg Camwy sef ysgol uwchradd yn y Gaiman, yrru neges Instagram iddo yn holi os oedden nhw'n perthyn.
Eglura Siôn: "Ryw fora dydd Sadwrn oedd hi a ges i negas ar Instagram gyda llun llofnod sydd o dan ddesg, G. Dorkins Pwllheli 1910, a'r cwestiwn 'Gwaith un o dy gyndeidiau di ydy hwn? Desg ym Mhatagonia 'di hwn yn lle dwi'n gweithio.' Wedyn nes i feddwl, be di'r chances bo' nhw ddim yn perthyn i mi de."
"Wedyn o'n i wedi sbio drwy'r archifau oedd gen Dad o'r blaen am y teulu a phwy oeddan nhw ond do'n i ddim yn cofio pwy oeddan nhw yn iawn felly es i nôl i sbio ar rheiny a'r ail ddarn bapur nes i dynnu allan o'r ffeil oedd y cyfrifiad 'ma o 1901 a fan'na oedd o - Mr Dorkins, Lôn Abererch, Pwllheli, 44 oed dwi'n meddwl. Wedyn ia - nath o gonnectio fel'na - fo oedd o de."
Trin coed yn y gwaed
Mae Siôn yn arbenigo mewn gwaith coed gwreiddiol a thraddodiadol, ond oedd o'n gwybod cyn canfod y ddesg bod yna hanes o seiri yn y teulu?
Meddai: "Do'n i'm yn cofio ar y pryd de, oni 'di sbio drwy yr archifa' o'r blaen a 'di gweld bod 'na seiri coed yn y teulu ond oedd o flynyddoedd yn ôl a ti ddim yn cofio y petha' ma nag wyt. Ond mae ryw gysylltiad fel y ddesg yn dod â fo'n fyw mewn ffordd, a ti'n sbio nôl a ti'n cymryd mwy o beth ohono fo a meddwl mwy ohono fo.
"Sgen i'm byd am lle oedd o'n gweithio ond oedd ganddo fo naw o blant erbyn y cyfrifiad yma yn 1901. Oedd lot o'r teulu o Gaernarfon - symud i Bwllheli nathon nhw rhyw chwe blynedd cyn y cyfrifiad yna.
"Wedyn oedd 'na amball un ohonyn nhw yn seiri coed achos oedd 'na ryw ddau frawd oedd yn seiri coed neu mewn rhai cyfrifiad oedd o'n deud bo nhw yn cabinet makers yn Gaernarfon so mae'n rhaid oedd o'n wbath oedd lot o'r teulu'n ei 'neud. A hefyd oedd Samuel, tad Griffith sef fy hen, hen, hen Daid i, a'i frawd o, yn seiri coed. Felly oedd o'n wbath yn y teulu mae'n rhaid."
'Cyflwynwyd y ddesg Gymraeg hon gan David Lloyd George'
Hefyd ar y ddesg mae plac gyda'r geiriau yma:
"Cyflwynwyd y ddesg Gymraeg hon i Ysgol Ganolraddol Gyntaf y Wladfa Gymraeg gan Y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, Canghellydd Trysorlys Prydain Fawr, Dydd Gŵyl Dewi 1910."
Siôn sy'n egluro'r cysylltiad rhwng y ddesg a wnaethpwyd gan ei hen, hen Daid a David Lloyd George:
"Oedd 'na gais am y ddesg gan Eluned Morgan nath sefydlu yr ysgol yn y Gaiman. Mae 'na lythyra, ddangosodd Esyllt i fi, rhwng Eluned Morgan a ma' hi'n meddwl, brawd neu chwaer Lloyd George achos dyna oedd y cysylltiad i Lloyd George, bo' nhw yn ffrindia, a wedyn bo' nhw'n 'neud cais am betha' i gael eu gyrru i'r ysgol am ei bod hi'n newydd ac i helpu'r ysgol allan.
"Dyna sut bod y ddesg wedi dod i fodolaeth gan bod 'na gais amdani a wedyn bod Lloyd George wedi rhoi sêl bendith ar y peth a wedyn 'di gofyn i rywun, am wn i, yn ardal Pwllheli neu be bynnag, i 'neud y ddesg."
Gyda'r flwyddyn 1910 gerllaw llofnod G. Dorkins ar y ddesg, a llun ohoni yn cael ei defnyddio yn y Gaiman erbyn 1911, mae'r amser byr rhwng ei gwneud a'i chludo i'r Gaiman yn awgrymu nad unrhyw hen ddesg oedd hon, ond un wedi ei chreu yn arbennig gan saer anrhydeddus i nodi'r achlysur.
Meddai Siôn: "Does yna ddim mwy o wybodath am lle yn union oedd Griffith Dorkins yn gweithio - iddo fo ei hun, neu i gwmni neu be'. Fedra i ddim ei brofi fo ond mae o'n gwneud sens mai Lloyd George roth y cais am y ddesg i mewn a'i chael hi i'r Gaiman gan fod y dyddiada' mor agos at ei gilydd. Tasa Lloyd George jest 'di pigo wbath arall i'w yrru draw fasa fo'n gallu bod yn ddesg 20 oed a meddwl, 'O, nai jest gyrru hwn i Batagonia.'
"Doedd Lloyd George ddim yn Brif Weinidog ar Brydain yn 1910. Canghellor oedd o adag hynny 'de, ond oedd o fatha'r ail foi fwya' pwerus ym Mhrydain ar y pryd, a rhyw bum mlynadd wedyn ddoth o yn Brif Weinidog!"
Y ddesg yn yr un lle ers 1911
"Mae Esyllt yn dweud ei bod yn union yr un lle a phan gafodd hi ei hanfon i Batagonia. Hynna o'n i'n weld yn anhygoel. Dwi'm yn gwybod os ydy hi'n gwethio wrth y ddesg ond jest y cysylltiad yna; o bod hi'n fy nilyn i ar Instagram achos bod hi'n licio 'ngwaith i a bod hi ochr arall y byd yn eistedd wrth ddesg mae fy hen, hen daid i wedi ei 'neud!
Hyd yn hyd, tydi Siôn erioed wedi bod i'r Gaiman nac i Batagonia ond byddai wrth ei fodd yn cael gweld y ddesg:
"Dwi 'di bod isio mynd erioed ond mae'n fwy o reswm i mi fynd rŵan."
Hefyd o ddiddordeb: