Perthynas Llywodraeth Cymru â Qatar yn 'codi tensiynau'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford a Vaughan Gething
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford a Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi'u beirniadu am fynychu gemau yn Doha

Mae perthynas Llywodraeth Cymru gyda Qatar yn codi cwestiynau am eu hymrwymiad i Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol, yn ôl economegydd blaenllaw o Gymru.

Dywed yr Athro Calvin Jones o Brifysgol Caerdydd ei fod yn "codi tensiynau go iawn".

Mae Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn ddarn arloesol o ddeddfwriaeth Gymreig sy'n ei gwneud yn gyfrifoldeb cyfreithiol ar y llywodraeth i ystyried effaith eu penderfyniadau ar Gymry'r dyfodol, ac sy'n cynnwys addewid i fod yn gyfrifol yn fyd-eang.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei fod yn benderfyniad "anghyfforddus" ond ei bod hi'n "ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru fod yn Qatar a chefnogi ein tîm".

Mae Qatar wedi cael ei beirniadu am y ffordd mae'n trin gweithwyr mudol, a'i hagweddau tuag at fenywod a phobl LHDTQ+.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Qatar wedi wynebu beirniadaeth hallt oherwydd pryderon am hawliau dynol

Er nad oedd disgwyl i dîm Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru foicotio Cwpan y Byd yn Qatar, sy'n dechrau ddydd Sul, dywedodd yr Athro Jones fod perthynas Llywodraeth Cymru â Qatar yn codi nifer o gwestiynau.

"Cyn gynted ag y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau ceisio adeiladu cyfalaf gwleidyddol ac economaidd ar gefn Cwpan y Byd, mae hynny'n codi llwyth o gwestiynau ynghylch beth mae Cymru'n meddwl ei fod ar ei gyfer.

"Beth yw gwerthoedd Cymru? A yw tyfu masnach gyda Qatar, sy'n wlad broblematig iawn fel y gwyddom, yn cyd-fynd â Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol?

"Ydy hynny'n rhywbeth sy'n gyfrifol yn fyd-eang i'w wneud?

"Mae'r rhain yn gwestiynau agored sydd ond yn cael eu gofyn oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn ymwneud â Qatar mewn modd gwleidyddol ac economaidd nid yn unig drwy chwaraeon, ac rwy'n credu bod hynny'n codi tensiynau go iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Calvin Jones yn cwestiynu a ydy adeiladu masnach â Qatar yn benderfyniad cyfrifol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu gan gydweithwyr yn y blaid Lafur yn ogystal â'r gwrthbleidiau.

Mae arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer, wedi dweud na fydd yn mynychu oherwydd record y wlad ar hawliau dynol.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, yn dweud y dylen nhw foicotio'r twrnament.

"Ddylen nhw ddim bod yn mynd. Dydyn ni ddim eisiau iddyn nhw gymeradwyo a sancsiynu llywodraeth Qatar a'u triniaeth o fenywod, gweithwyr tramor a phobl hoyw," meddai Ms Dodds.

Yr wythnos hon fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, gydnabod bod y penderfyniad yn un "cytbwys".

"Rwy'n credu bod elfennau anghyfforddus iawn wrth fynd i wlad y mae ei gwerthoedd yn wahanol iawn i'n gwerthoedd ni. Mae wedi bod yn benderfyniad anodd," meddai.

"Yn y diwedd, credaf ei bod hi'n gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i fod yn Qatar a chefnogi ein tîm yno, am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd, a defnyddio'r platfform y mae Cwpan y Byd yn ei roi i godi proffil Cymru ledled y byd."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith y llywodraeth yw y bydd Cwpan y Byd yn "codi proffil Cymru ledled y byd"

Nid yw perthynas Llywodraeth Cymru â Qatar yn un diweddar. Mae gweinidogion wedi bod yn adeiladu cysylltiadau masnach â gwladwriaeth y Gwlff ers sawl blwyddyn.

Ers 2015 mae'r llywodraeth wedi cynnal 10 taith fasnach i'r wlad gyda busnesau Cymreig.

Mae swyddfa gan y llywodraeth yn Doha ers blynyddoedd lawer, ac yn ddadleuol rhoddodd £1m i Qatar Airways i farchnata Cymru wedi i gysylltiad awyr gael ei sefydlu rhwng Maes Awyr Caerdydd, sy'n eiddo Llywodraeth Cymru, a Doha.

Nid yw'r cysylltiad yna wedi ailddechrau ers y pandemig.

Ydy hi'n berthynas werthfawr?

Felly pa mor werthfawr yw'r berthynas fasnach gyda Qatar?

Yn 2016 roedd allforion i Qatar o Gymru gwerth £176m, yn ôl ystadegau Cymru.

Fe wnaethon nhw dyfu'n raddol i £198m yn 2019, ond yn ystod y flwyddyn gyfan ddiwethaf - 2021 - roedden nhw wedi gostwng i £172m.

Ond mae Cymru'n elwa o fuddsoddiad Qatari hefyd. Mae eu llywodraeth yn buddsoddi miliynau i ehangu'r derfynfa LNG yn Aberdaugleddau.

Yn ôl un arbenigwr masnach, er bod Qatar yn gyfoethog, tydi hi ddim yn economi fawr.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr Athro Joseph Francois, mae masnach gyda Qatar yn llai proffidiol na'i chymdogion

Dywed yr Athro Joseph Francois, rheolwr-gyfarwyddwr Sefydliad Masnach y Byd ym Mhrifysgol Bern yn Y Swistir, o ran cyfle, nad yw'n "gweld cymaint â hynny" yno.

Dywedodd fod Cwpan y Byd yn "gyfle, oherwydd bydd Cymru yn fwy ar feddyliau pobl nag y byddai fel arall ac mae'n gyfle da i werthu eich pwyntiau am fod yn agored i fuddsoddi, twristiaeth ac yn y blaen.

Ond ychwanegodd yr Athro Francois fod cyfleoedd i adeiladu masnach gyda Qatar yn llai proffidiol o'i gymharu â'i chymdogion mwy fel Saudi Arabia a'r Emiradau Arabaidd Unedig.

"Dwi ddim yn gweld gymaint â hynny a bod yn onest. Nid yw'n economi mor fawr â hynny," meddai.

"Rwy'n credu bod y fasnach yn hanesyddol ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd yn debyg i Awstria neu Bortiwgal."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd llwyfan byd-eang i Gymru o ganlyniad i Gwpan y Byd Qatar

Mae'r Athro Calvin Jones yn cytuno. Mae'n arbenigwr ym maes economeg digwyddiadau chwaraeon, ac mae'n dweud bod mynychu digwyddiad chwaraeon dramor yn cael ychydig iawn o effaith economaidd adref.

Dywedodd: "Mae'n anodd iawn olrhain unrhyw gysylltiad rhwng cymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon dramor ac unrhyw fanteision economaidd gartref.

"Mae'n ddigon anodd pan rydych chi'n cynnal digwyddiadau pan fyddwch chi'n croesawu twristiaid yma.

"Yn yr achos yma, gyda ni'n mynd i rywle arall, mae'n anodd iawn deall beth yn union fydd yn digwydd i wneud mwy o arian i ddod i Gymru yn sgil Cwpan y Byd."

Fodd bynnag, mae'r Athrawon Jones a Francois yn credu y bydd amlygrwydd llwyfan Cwpan y Byd, yn enwedig y gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau, a fydd yn gweld tîm Cymru'n cael eu gwylio gan filiynau ar draws yr Iwerydd, yn rhoi hwb i broffil y wlad.

Y wobr economaidd werth y cyfaddawd?

Mae'n glir mai bwriad Llywodraeth Cymru yw gwneud y mwyaf o'n moment ni yn haul poeth Qatar.

Maen nhw am bortreadu Cymru fel lle croesawgar a chyfeillgar i ymweld â hi a gwneud busnes.

Ond yn ogystal â'u hymgysylltiad â'r twrnament, mae'r berthynas hir sefydlog gyda Qatar yn codi cwestiynau.

A yw gwerthoedd cydraddoldeb a thegwch sydd gan Lywodraeth Cymru yn gydnaws â chofnod hawliau dynol Qatar? Ac ydy'r wobr economaidd werth y cyfaddawd?