Cwpan y Byd: Cyfle i ddangos fod Cymru'n 'genedl ei hun'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y penderfyniad dadleuol i yrru cynrychiolwyr i Gwpan y Byd yn Qatar.
Dywedodd y Gweinidog Economi Vaughan Gething fod y gystadleuaeth yn gyfle i ddangos i'r byd fod Cymru'n "genedl ei hun o fewn y DU".
Yn ôl Mr Gething bydd Llywodraeth Cymru'n "adlewyrchu ein gwerthoedd" yn y dwyrain canol.
Bydd Mr Gething a'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn mynychu dwy o gemau grŵp Cymru, er eu bod wedi wynebu galwadau i beidio â theithio i Qatar.
Mae plaid Lafur y DU wedi penderfynu na fydd yr arweinydd Syr Keir Starmer na ffigyrau blaenllaw eraill o fewn yn blaid yn mynychu Cwpan y Byd.
Mae'r AS Llafur Chris Bryant ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Ed Davey ymysg y rheiny sydd wedi dweud na ddylai Llywodraeth Cymru fynd chwaith.
Ond dywedodd Mr Gething ei bod yn "hollol resymol i bobl gymryd safbwyntiau gwahanol ar y mater".
Ychwanegodd mai "un o'r gwahaniaethau allweddol" ydy fod Llafur Cymru mewn llywodraeth, tra mai'r wrthblaid ydy Llafur dros y ffin.
Mae Qatar wedi wynebu beirniadaeth hallt oherwydd pryderon am hawliau dynol - gan gynnwys y ffordd mae menywod, pobl LHDT+ a gweithwyr o wledydd eraill yn cael eu trin yno.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfres o ddigwyddiadau ac ymgyrch farchnata gwerth £2m i gyd-fynd â Chwpan y Byd er mwyn ceisio defnyddio'r digwyddiad i hyrwyddo Cymru, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop.
Mae grŵp o lysgenhadon, sy'n cynnwys cyn-gapten tîm merched Cymru, yr Athro Laura McAllister, a'r athletwr Colin Jackson, wedi cael eu recriwtio i gynrychioli'r wlad.
Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd capten Cymru Gareth Bale eu bod yn bwriadu amlygu'r "problemau" yn Qatar.
Dywedodd Mr Gething mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth: "Yng Nghwpan y Byd, pan fydd pobl yn gweld Cymru fe fyddan nhw'n gweld ein gwerthoedd.
"Mae Llywodraeth Cymru'n credu mewn gwaith teg, hawliau dynol, ac y dylai pawb ohonom fod yn rhydd i fyw ein bywydau fel ydym ni go iawn."
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi codi "pryderon difrifol" gydag awdurdodau Qatar am weithwyr o dramor a hawliau pobl LHDT+.
Dywedodd hefyd fod chwarae Lloegr yn "gyfle prin am gynulleidfa fyd eang i ddangos yn glir fod Cymru'n genedl ei hun o fewn y DU".
Bydd Mr Drakeford yn mynychu'r gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau, tra bydd Mr Gething yn mynd i'r gêm yn erbyn Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio y bydd cyfle i drafod gyda chynrychiolwyr o'r UDA yn Qatar, a bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn llysgenhadaeth y DU yn Washington i gyd-fynd â'r gêm.
Ond mae'r llywodraeth wedi cefnu ar y syniad o yrru'r dirprwy weinidog chwaraeon Dawn Bowden i Gwpan y Byd.
Dywedodd Mr Gething fod y penderfyniad i beidio â gyrru unrhyw un i'r gêm yn erbyn Iran yn "gymesur" oherwydd y protestiadau yno.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi 19 o brosiectau fel rhan o'r ymgyrch i hyrwyddo Cymru a "rhannu ein diwylliant, celfyddydau a threftadaeth".
Mae ymgyrch farchnata ar-lein hefyd, fydd yn cynnwys hysbysebion ar gyfryngau cymdeithasol.
Yn ogystal â hyrwyddo Cymru fel gwlad "flaengar", y gobaith yw herio stereoteipiau o'r wlad hefyd, fel y defnydd o ddreigiau a defaid.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2022