Llafur ifanc: 'Siomedig bod Drakeford yn mynd i Qatar'

  • Cyhoeddwyd
Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. ynghyd â Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn bresennol yn y gemau yn Doha
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn bresennol yn y gemau yn Doha

"Fi'n grac ac yn siomedig - mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i fynd i Qatar bach yn lletchwith i fi," meddai Bethan Williams, sy'n gynghorydd Llafur, 23 oed o Lanelli.

"Ni fel plaid wedi cael hanes o orymdeithio a chreu deddfau i helpu pobl hoyw, i helpu gweithwyr, i helpu menywod - ac ma'r llywodraeth yn mynd i Qatar.

"It's kind of like back-handed fel bo nhw'n anghofio be sy'n digwydd yn Qatar."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Williams sy'n gynghorydd Llafur "yn siomedig ac yn grac" bod gweinidogion Llywodraeth Cymru yn mynd i Qatar

Mae Ms Williams ymhlith rhai o aelodau ifanc o'r Blaid Lafur yng Nghymru sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried eu penderfyniad i fynd i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd.

Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ynghyd â Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn bresennol yn y gemau yn Doha.

'Dim modd anwybyddu'

Yn fyfyriwr ac yn aelod ifanc o'r Blaid Lafur mae Dylan Lewis Rowlands yn cynrychioli myfyrwyr Llafur Cymru ar Bwyllgor Cenedlaethol Myfyrwyr y Blaid Lafur.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dylan Lewis Rowlands nad oes modd anwybyddu yr hyn sy'n digwydd yn Qatar

"Ma llawer fel fi, efo trafodaethau fi 'di ca'l ag aelodau, llawer ohonyn nhw sydd yn hoyw, llawer ohonyn nhw sydd yn draws neu be' bynnag. Dydyn nhw ddim yn gweld hyn fel ffordd ymlaen," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"Maen nhw'n gweld e fel cyfiawnhau essentially be sy'n digwydd yn Qatar. Newn ni anwybyddu hynny, ond chi ddim yn gallu 'neud hynny a jyst ffocysu ar y gêm.

"Os byddwn i mo'yn mynd i Qatar, fydden i o dan gymaint o ormes. Bydden i o dan gymaint o berygl."

Bydd Syr Keir Starmer, yr arweinydd Llafur yn San Steffan ac aelodau blaenllaw Llafur yn boicotio'r digwyddiad.

Ddydd Mercher dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod penderfyniad gweinidogion Cymru i fynychu Cwpan y Byd yn "anodd" ac yn un oedd "yn y fantol".

"Yn y diwedd, rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fod yn Qatar i gefnogi ein tîm yno am y tro cyntaf ers 64 mlynedd, ond hefyd i ddefnyddio'r platfform y mae Cwpan y Byd yn ei ddarparu i wneud Cymru'n hysbys ledled y byd, popeth sydd gennym i'w gynnig a phopeth sy'n bwysig i ni hefyd," meddai.

Wrth gwestiynu penderfyniad Mark Drakeford fe ychwanegodd Dylan Lewis Rowlands: "Ble di loyalties ti?

"Efallai fydd Mark yn gallu convinceo fi ffordd arall ond dwi ddim yn siŵr fydde fe'n gallu.

"Ond yn lle mynd i Qatar [dylai fe] aros yma yng Nghymru i wneud gwaith polisi hawliau LGBTQ a hawliau gweithwyr."

Doedd Llafur Cymru ddim am wneud sylw pellach ar y mater.