Cwpan y Byd: Penderfyniad 'anodd' i fynd meddai Drakeford

  • Cyhoeddwyd
Cymru yn dathlu ar ôl cyrraedd Cwpan y Byd QatarFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cymru yn dathlu ar ôl cyrraedd Cwpan y Byd Qatar

Roedd penderfyniad gweinidogion Cymru i fynychu Cwpan y Byd yn "anodd" ac yn un oedd "yn y fantol", meddai'r prif weinidog.

Dywedodd Mark Drakeford fod yna "elfennau anghyfforddus iawn" gan fod "gwerthoedd Qatar yn wahanol iawn i'n rhai ni".

Mae'r wlad yn cael ei beirniadu'n fawr ar hawliau dynol, gan gynnwys trin menywod, pobl LGBTQ+ a gweithwyr mudol.

Ond dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Cymru ei fod yn credu bod "rhwymedigaeth" i weinidogion gefnogi tîm o Gymru yn eu Cwpan y Byd cyntaf ers 64 mlynedd.

Bydd y prif weinidog yn mynychu gêm Cymru gyda'r UDA tra bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething yn gwylio'r gêm yn erbyn Lloegr.

Mae arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer ac uwch swyddogion eraill y blaid yn cadw draw o Qatar.

Mae AS Llafur y Rhondda Chris Bryant, Arweinydd Plaid Cymru Adam Price ac Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Ed Davey ymhlith y rhai sy'n dweud na ddylai Llywodraeth Cymru fynd.

Mae capten Cymru, Gareth Bale wedi dweud bod Cymru'n bwriadu tynnu sylw at "y problemau" yn y wlad sy'n cynnal y digwyddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford: 'Gwneud Cymru'n hysbys ledled y byd'

Wrth gael ei gyfweld yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Mercher, dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Cymru: "Rwy'n meddwl bod elfennau anghyfforddus iawn mewn mynd i wlad y mae ei gwerthoedd yn wahanol iawn i'n rhai ni, ac mae wedi bod yn benderfyniad anodd ac yn un oedd yn y fantol.

"Yn y diwedd, rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fod yn Qatar i gefnogi ein tîm yno am y tro cyntaf ers 64 mlynedd, ond hefyd i ddefnyddio'r platfform y mae Cwpan y Byd yn ei ddarparu i wneud Cymru'n hysbys ledled y byd, popeth sydd gennym i'w gynnig a phopeth sy'n bwysig i ni hefyd."

Dywedodd Mr Drakeford hefyd ei fod "yn gorfod gwneud penderfyniad ynglŷn â pha mor gymesur yw anfon gweinidogion i dwrnament pêl-droed ar adeg pan mae'r argyfwng costau byw yn cael cymaint o effaith ar fywydau pobl Cymru ac ar Lywodraeth Cymru hefyd".

"Deuthum i'r casgliad mai'r ddwy gêm roddodd y cyfle mwyaf i ni hyrwyddo Cymru, i gael Cymru'n adnabyddus ledled y byd, oedd y gêm gyntaf oll, yn erbyn yr Unol Daleithiau, [gyda] chynulleidfa enfawr a marchnad pwysig iawn i ni yma yng Nghymru, a'r gêm yn erbyn Lloegr, a fydd yn gyfle i egluro i lawer o bobl ledled y byd na fyddant yn deall hyn yn llawn, fod y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, yn fwy nag un wlad yn unig."