Tri Llun John Alwyn Griffiths
- Cyhoeddwyd
Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Cymru Fyw ofynnodd y cwestiwn i John Alwyn Griffiths o Fôn, cyn bennaeth Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru ac awdur cyfres o nofelau ditectif sy'n dilyn hynt a helynt y Ditectif Jeff Evans.
 John yn adnabod bydoedd tywyll a throseddol fel cyn blismon ac awdur nofelau ditectif, dyma godi cwr y llen ar ddyn teulu sy'n hoffi mymryn o hwyl.
Dyma ydi'r llun mwyaf cofiadwy ac annwyl yn fy mywyd. Bob hyn a hyn mi fyddaf yn dod ar ei draws wrth chwilio am rywbeth neu'i gilydd, a dyna pryd fydd yr atgofion yn llifo ar unwaith. Roedd y teulu ar ochr fy mam yn agos iawn i'w gilydd bob amser, ond ar y Nadolig bob blwyddyn, roedd pob un ohonom ynghyd am ychydig o ddyddiau dros yr ŵyl. Mae yna nifer o luniau tebyg wedi'u cymryd dros amser, ond hwn yw fy ffefryn i, un a'i tynnwyd yng nghanol y chwedegau os cofiaf yn iawn.
Y peth sy'n eithriadol am hwn yn fy meddwl i ydi ei fod yn llun da o bob un ohonom ni. Mae pawb yn edrych yn syth tuag at y camera a does yna ddim un llygad wedi cau fel gwelwch chi weithiau - pawb yn berffaith.
Nid oedd Brookside, Llangefni, tŷ Anti Mary ac Yncl Llew yn dŷ mawr iawn, ond roedd tŷ Anti Shesh ac Anti Sian, sef Dwynant, dim ond deugain llath i fyny'r ffordd. Felly roedd yna ddigon o le i bawb gysgu, er bod rhaid i ni'r plant ddefnyddio'r soffa neu fatras ar y llawr. Rhan o'r hwyl oedd hynny. Dychmygwch bawb ohonom yn eistedd rownd y bwrdd i wledda, a'r hwyl a'r tynnu coes a brofom. Amser cofiadwy oedd hwn ac er cof erbyn hyn am y rhai a gollwyd yn y cyfamser.
Rwyf wedi bod yn hoff iawn o bysgota a cherdded mynyddoedd am y rhan fwyaf o'm hoes. Ffordd dda oedd hyn i ymlacio pan oedd gwaith fel ditectif yn heddlu'r gogledd yn pwyso. Mae'n syndod sut mae cyfeillgarwch dwfn wedi bodoli trwy feithrin y ddau ddiddordeb dros y blynyddoedd.
Yn agos i bum mlynedd ar hugain yn ôl cefais wahoddiad gan gyfeillion yn yr Alban i wario ychydig o ddyddiau yn mwynhau'r ddau ddiddordeb yng nghanol Swydd Ross yn yr Ucheldiroedd. Roeddem i aros mewn bothy a oedd filltiroedd i ffwrdd o bob man - yng nghanol y mynyddoedd - dim tŷ, na ffordd ar gyfyl y lle, a lochs, rhai bychain ac eraill yn fawr o'm cylch ym mhob man. Poca Buidhe oedd enw'r bothy a oedd yng nghanol y Flowerdale Forest, er nad oedd yna flodyn neu goeden ar gyfyl y lle.
Roedd fy nghyfaill Eifion a fi wedi cychwyn o ogledd Cymru tua dau yn y bore cyn cyfarfod â'r lleill yng nghanol y prynhawn. Yna roedd rhaid cerdded am dair awr i fyny'r mynyddoedd yn cario pwysau mawr, cyn defnyddio cwch i hwylio ar hyd Loch na h-Oidhche am awr arall ac yna cerdded unwaith yn rhagor am y chwarter awr diwethaf o'r daith.
Wedi cyrraedd a dewis bwnc i gysgu, aethom i bysgota nes iddi hen dywyllu. Yn ôl i'r bothy amdani, pryd o fwyd, yfed wisgi a deud celwydd am weddill y noson. Coeliwch fi neu beidio, props oedd yr holl boteli yna welwch chi ar y bwrdd - rhai wedi cael eu gadael ar ôl gan bobl eraill ac yn disgwyl am yr hofrennydd i'w cludo oddi yno.
Er hynny, rhaid dweud ein bod ni wedi cael ein lwfans ein hunain. Yn y llun, mi welwch o'r chwith i'r dde, fi, Keith McRae, Billy MacPhail, fy nghydweithiwr Eifion Parry a fy nghyfaill oes Graham Jones, a gollodd ei fywyd i ganser flwyddyn yn ôl i rŵan. Mae'r atgofion yn parhau, mêt.
Edrychwch yr amser ar y cloc. Roedd hi wedi mynd yn hwyr, ond fe ddigwyddodd un o'r atgofion mwyaf doniol bore trannoeth pan gnociodd Graham ddrws y lle chwech gyda phadell ffrio yn y llaw arall yn dweud wrth Keith fod ei wy yn barod!
Fel mae bywyd yn parhau, mae'r nifer o atgofion yn tyfu. Ond y peth pwysicaf yn fy meddwl i ydy'r hyn sy'n cael ei adael ar ôl. Dwi'n falch o'ch cyflwyno chi i deulu fy merch, Bethan, ei gŵr Gareth a'u plant, Nathan ac Imogen.
Dyma chi deulu hapus. Mae'r ddau blentyn yn tyfu i fyny yn ardderchog ac yn mwynhau pêl-droed a beicio bob penwythnos. Gan eu bod yn byw yn ochrau Wrecsam, ni fyddaf yn eu gweld digon aml, ond yn falch o ddweud eu bod wedi prynu carafán yn Sir Fôn yn ddiweddar, a bod Nathan wedi dal ei frithyll cyntaf y tymor diwethaf. Pwy a ŵyr, efallai bydd yna fwy i ddod!
Hefyd o ddiddordeb: