Pobl ifanc Iran yn brwydro dros eu hawliau
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru'n wynebu Iran yng Nghwpan y Byd ar 25 Tachwedd, gyda gêm olaf y grŵp i ddilyn yn erbyn Lloegr ar 29 Tachwedd.
Ond mae'n siŵr bod gan chwaraewyr Iran bethau eraill ar eu meddyliau ar hyn o bryd, gyda sefyllfa wleidyddol eu gwlad ym mhenawdau'r newyddion ledled y byd.
Mae Dr. Gwennan Higham o Gaerdydd yn briod gyda Kaveh, Cristion o Iran a oedd wedi gorfod ffoi'r wlad oherwydd ei grefydd. Roedd Gwennan yn siarad ar raglen Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru ar 20 Tachwedd.
Ydy'r protestiadau diweddar wedi synnu Gwennan?
Meddai: "Mae e wedi'n synnu i, a dwi'n meddwl bod e 'di synnu nifer fawr o bobl Iran o fewn y wlad ac wrth gwrs y nifer fawr sy'n byw tu allan i'r wlad erbyn hyn."
"Y ffaith yw bod nifer o brotestiadau wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf - y 40 mlynedd ers i'r llywodraeth Islamaidd ddod i bŵer. Ond mae hyn wedi cydio, y protestiadau wedi parhau a dwysáu, ac erbyn hyn mae pobl yn cyfeirio at hyn nid fel protestiadau yn unig, ond fel chwyldro."
Marwolaeth Mahsa Amini
Marwolaeth dynes ifanc, Mahsa Amini, oedd y sbardun ar gyfer y protestiadau diweddar. Bu farw Amini yn yr ysbyty wedi iddi gael ei harestio gan heddlu crefyddol y llywodraeth am beidio gwisgo hijab a dilyn canllawiau crefyddol y wlad.
"Nid hi yw'r cyntaf i golli ei bywyd, ond dwi'n credu dyna pam mae wedi synnu pobl. Roedd hi'n ferch ifanc oedd yn crwydro strydoedd Tehran un diwrnod, ac yna wnaeth yr heddlu ymosod arni.
"Fe aeth newyddiadurwyr, a merched, ar ôl ei hachos hi - wedi siarad efo'r teulu a chael y dystiolaeth a dangos lluniau ohoni wedi cael ei harteithio yn yr ysbyty, ac yn amlwg fe ddywedodd y llywodraeth ei bod hi wedi mynd mewn i coma a marw."
"Ond roedd e'n amlwg nad dyna oedd yr achos ac fe ddechreuodd menywod fynd allan ar y strydoedd heb eu hijab, yn dangos cefnogaeth, ac yn sydyn fe dyfodd hynny. Felly pam nawr? Dwi'n credu bod pobl wedi cael llond bol. Nid yn unig efo ffactorau fel diweithdra a phroblemau economaidd, ond yn gyffredinol y gwrthwynebiad tuag at ormes y llywodraeth yn Iran ar hyn o bryd.
"Mae'r hijab yn symbol bwerus iawn i lywodraeth Iran. Mae'n ffactor bwysig, ond mae'n llawer, llawer mwy na hynny - bod pobl eisiau rhyddid i fynegi eu hunain a lleisio'u barn nhw ac i beidio byw mewn ofn."
Menywod yn protestio
Mae'r menywod yn flaenllaw yn y protestiadau ond mae e wedi datblygu o fenywod yn dymuno rhyddid drwy beidio â gwisgo hijabs i chwyldro eang gan gynnwys gweithwyr cwmnïau olew yn streicio a phrifysgolion yn cau.
Yr hyn sydd yn wahanol am y protestiadau nawr i rai'r gorffennol yw bod plant a phobl ifanc ar flaen y gad. Dywed Gwennan bod oedran y bobl sydd yn protestio rhwng 16 a 22 mlwydd oed ar gyfartaledd, tra bod oedran y Mullahs ac arweinwyr y llywodraeth tua 70 oed.
Meddai: "Dydy'r llywodraeth felly ddim yn deall beth sydd yn digwydd a ddim yn gwybod sut i ddelio â'r peth heblaw am drwy anafu, atal, arestio a lladd y protestwyr.
"Yn y dyddiau diwethaf, mae'r fyddin wedi dod gyda thanciau milwrol i sawl ardal yn Iran, yn arbennig ardal y Cwrdiaid a saethu a lladd niferoedd mawr o bobl."
Dywed Gwennan bod dros 15,000 wedi cael eu harestio ac yn aros am ddedfryd marwolaeth heb dreial: "Mae Iran eisoes wedi dienyddio miloedd o brotestwyr o fewn diwrnodau yn y gorffennol. Mae hyn yn achosi llawer o ofid, felly."
Mae miliynau o bobl Iran yn byw yn y gorllewin erbyn hyn ac mae protestiadau mawr wedi bod mewn dinasoedd dros y byd yn cefnogi pobl Iran. Mae llawer o bobl enwog Iran, tu fewn a thu fas y wlad, wedi gwneud safiad dros y bobl a'r chwyldro.
Yn sgil hyn, honnir bod nifer o'r enwogion wedi cael eu harestio a'u harteithio, ac bod nifer o droseddau erchyll yn digwydd yng ngharchardai'r wlad.
Erlyn crefyddol
Meddai Gwennan: "Mae pawb yn wynebu yr un rheolau, felly s'dim ots pa gefndir ethnig y'ch chi mae rhaid i chi wisgo hijab a mae gofynion o ran addysg Islamaidd ayyb. Yr unig beth byddwn i'n dweud ydi bod Cristnogion wedi cael sylw penodol.
"Rwy'n credu bod twf wedi bod dros y 40 mlynedd diwethaf - pan ddaeth y llywodraeth Islamaidd i bŵer yn 1978 roedd tua 500 o Gristnogion yn Iran, ac erbyn heddiw mae 1,000 o Gristnogion yn Iran, er gwaetha'r ffaith bod gennych chi ddim yr hawl i addoli yn gyhoeddus."
"Mae'r Cristnogion yn cwrdd yn gudd mewn tai, ac mae nifer mawr yn cael eu harestio a'u arteithio ac mae nifer wedi ffoi. Felly mae'r lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol gwahanol yn wynebu erledigaeth, ond o ran Cristnogion yn benodol mae'r nifer yn tyfu, sy'n syndod ac yn broblem i'r llywodraeth yn Iran.
"Barn fe [y gŵr] a nifer o bobl eraill rwy'n eu hadnabod yn Iran yw bod nhw eisiau gweld diwedd - diwedd y Weriniaeth Islamaidd, y gormes sydd wedi creu cymaint o broblemau. Dim hyd yn oed o ran moesoldeb - maen nhw wedi gwneud llanast o bob agwedd bywyd yn Iran, o ran bywyd natur o'u cwmpas nhw, yr economi, a phopeth."
Y tîm cenedlaethol
Teimladau cymysg sydd yn Iran tuag at y tîm pêl-droed cenedlaethol sydd allan yng Nghwpan y Byd yn Qatar ar y funud, fel esbonia Gwennan:
"O ran y tîm pêl-droed, mae nifer yn anhapus nad oeddent wedi gwneud safiad pendant o blaid y bobl. Mae capten y tîm pêl-droed serch hynny wedi datgan cefnogaeth i'r bobl. Doedd tîm pêl-droed Iran heb ganu'r anthem ar ddechrau'r gêm yn erbyn Lloegr."
"Serch hynny, mae nifer o bobl Iran yn teimlo y dylai'r tîm fod wedi dangos cefnogaeth yn gynt a gwneud safiad mwy eglur wrth i filoedd o bobl Iran ddioddef ar y strydoedd."
Y dyfodol
Felly, be' fyddai pobl yn hoffi ei weld yn lle y llywodraeth bresennol? "Roedd 'na deulu brenhinol yn Iran cyn i'r llywodraeth Islamaidd ddod fewn i bŵer," meddai Gwennan, "ond dwi'n credu bydde pawb mwy neu lai yn cydsynio taw llywodraeth democrataidd fel y gorllewin bydde ore.
"Dyna lle mae'r rhyddid i fynegi'ch barn, ac i fod fel oedd hi dros 40 mlynedd yn ôl, ble roedd llawer mwy o ryddid, ac roedd hi'n gymdeithas lled-seciwlar y pryd hynny."
Hefyd o ddiddordeb: