Ceryddu Hefin David AS am dorri cod ymddygiad gyda thrydariad
- Cyhoeddwyd
Mae'r Senedd wedi rhoi cerydd swyddogol i'r Aelod Llafur Hefin David yn dilyn argymhelliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Roedd Comisiynydd Safonau'r Senedd wedi dod i'r casgliad bod Mr David wedi torri'r cod ymddygiad drwy drydar "ymosodiad personol di-chwaeth a hynod o sarhaus" ym mis Mawrth.
Yn ei adroddiad, mae Douglas Bain yn nodi bod yr AS wedi ymddiheuro am y neges ac wedi ei dileu yn gynnar y diwrnod wedi iddo ei chyhoeddi.
Cyfaddefodd Mr David i'r Comisiynydd bod y neges yn amhriodol.
Fe benderfynodd y pwyllgor beidio â rhoi cynnwys y trydariad yn eu hadroddiad "gan ein bod yn credu y byddai'n achosi loes bellach i'r unigolyn o dan sylw yn y neges a'u teulu, yn enwedig gan nad nhw wnaeth y gŵyn".
Cafodd y cynnig i gymeradwyo'r argymhelliad ei basio yn y Senedd heb bleidlais, gan nad oedd gwrthwynebiad.
Anogaeth i 'gymryd gofal'
Yn ei adroddiad i'r pwyllgor safonau, mae Mr Bain yn dweud bod yna "ddisgwyliad i Aelodau'r Senedd ddangos arweiniad ac esiampl o ran ymddygiad da".
"Mae cam-ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn adlewyrchu'n wael arno ef ond hefyd yn dueddol o ddwyn anfri ar y Senedd," meddai.
Fe ddaeth i'r casgliad bod ymddygiad Mr David wedi gostwng ymhell o dan y safonau angenrheidiol.
Mae Mr Bain yn dweud bod yr AS wedi dweud wrtho ei fod wedi cymryd camau i "atal unrhyw gamddefnydd pellach o gyfryngau cymdeithasol", ac mae wedi annog Mr David i "gymryd gofal o'i ddefnydd o'r cyfrwng hwnnw".
Mae Mr David wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.
Roedd hefyd wedi torri'r cod ymddygiad yn 2019 am alw rhywun yn "coc oen" ar Twitter, ond ni chafodd ei gosbi'n swyddogol bryd hynny.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2022