Bathu geiriau: Pam bod rhai yn cydio ac eraill ddim?
- Cyhoeddwyd
Sut mae geiriau'n dod i fodolaeth a pham bod rhai yn aros yn ein geirfa a rhai eraill yn mynd yn angof?
Roedd Delyth Prys, Pennaeth Technoleg Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, yn trafod y broses o fathu geiriau, a pha eiriau newydd sy'n cydio neu gwympo wrth ymyl y ffordd ar raglen Dros Ginio, Radio Cymru.
Dyma enghreifftiau o eiriau newydd sydd wedi llwyddo ac mewn defnydd a rhai wnaeth ddim dod yn rhan o'n geirfa.
Tri sydd wedi cydio
Hunlun
Dyma fathiad diweddar, wrth i dechnoleg newydd alluogi pobl i ddechrau cymryd selfies.
"Mae lot o bobl wedi dweud wrtha i 'Fi ddyfeisiodd y term hunlun ti'n gwbod?' 'All pawb ddim fod wedi ei ddyfeisio fe, ond mae rhywbeth amlwg amdano fe ond oes?" meddai Delyth Prys.
"Mae e'n odli, mae'n fachog ac felly mae e'n rhywbeth sydd wedi plwyfo yn yr iaith."
Cyfnod clo
Wrth i lockdown ddod i mewn i ddefnydd cyson yn y Saesneg ym mis Mawrth 2020, daeth y bathiad 'cyfnod clo' yn y Gymraeg i'r amlwg ymhen ychydig.
Mae'n drawsieithiad creadigol a bachog ac erbyn hyn yn derm naturiol mewn sgyrsiau Cymraeg wrth edrych nôl ar gyfnod Cofid sy'n dangos pa mor gyflym mae rhai termau'n gallu dod yn rhan o'n geirfa bob dydd.
Yn ôl Delyth Prys: "Os ydy pobl trwy gonsensws yn gallu deall 'ma hwn yn derm da', a deall ei ystyr e hefyd, achos mae'n bwysig bod y termau yma'n dryloyw dwi'n meddwl, bo chi'n gallu gweld yn syth bin am be maen nhw'n sôn. A'r cyfnod clo pan oedden ni i gyd dan glo... o'dd hwnna yn derm bach gwych, dwi'n meddwl, yn y Gymraeg."
Pwyllgor
Pwy fase'n meddwl mai Iolo Morganwg wnaeth greu y gair 'pwyllgor'? Yn ystod cyfnod y Chwyldro Diwydiannol roedd bywydau pobl ar draws Cymru'n cael eu trawsnewid gan ddiwydiannau newydd, a biwrocratiaeth yn amlygu'i hun fwyfwy.
"Roedd lot o eirfa newydd yn dylifo i'r iaith gyda'r Chwyldro Diwydiannol, a nifer o eiriau pryd hynny wedi dod yn bethe 'dy ni'n eu derbyn yn rhan hanfodol o'r iaith," meddai Delyth.
Tri gair aeth yn angof
Cerbydres
Ond yn wahanol i 'pwyllgor' - a 'rheilffordd' fel mae'n digwydd - fe fethodd nifer o eiriau newydd a fathwyd yn yr un cyfnod. Efallai nad syndod fod 'cerbydres' yn un o'r rhai aflwyddiannus - sef 'trên' yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg!
Roedd geiriadurwyr ac academyddion Cymraeg yn ofalus iawn i geisio cadw 'purdeb' a 'glendid' y Gymraeg mewn oes lle'r oedd cymaint o Saesneg yn cael ei gyflwyno i fywydau Cymry Cymraeg yn y dinasoedd diwydiannol.
Perdoneg
'Piano' oedd ystyr y bathiad aflwyddiannus 'perdoneg', sydd hefyd yn dod o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg - 1850 i fod yn fanwl yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru.
Ni chafodd y gair ei fabwysiadu gan siaradwyr Cymraeg, er bod puryddion iaith yn ymgyrchu o'i blaid.
Diddosben
Bathiad gan William Owen-Pughe, un o eiriadurwyr y 18fed ganrif oedd hwn, i olygu 'het' oedd yn addasiad o'r gair Saesneg.
Mae'n un o'r bathiadau coll sydd hefyd yn hoffus, meddai Delyth Prys: "Dydyn ni ddim yn cofio amdanyn nhw mwyach, er weithiau maen nhw'n dod nôl fel math o jôc.
"Dwi'n cofio Twm Morys yn dechrau defnyddio'r gair 'diddosben' ar gyfer 'het' ac yn cael hwyl fawr gyda rhyw hen air rhyfedd fel yna, felly mae rhai geiriau'n plwyfo a mae rhai geiriau'n mynd yn angof."
Mae'r angen am dermau a bathiadau newydd yn codi yn gyson ac mae Delyth a'r tim yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, yn gwneud llawer o waith bathu a safoni termau ar gyfer y byd addysg yn arbennig.
Un o'r geiriau mae newydd ei fathu er enghraifft yw 'byddardeb' am 'deafhood', sef gair cadarnhaol am ddiwylliant pobl fyddar.
Ond o ran yr iaith bob dydd gall bathiadau ddod mewn dwy ffordd, meddai.
"Mae'n nhw'n gallu bod yn fathiadau bwriadol pan ma' rhywun yn canfod bod dim gair Cymraeg gyda ni am rywbeth ond ar y llaw arall mae'n nhw'n gallu bod yn rywbeth anfwriadol sy' just yn codi'n naturiol yn ein sgwrs ni. Mae'r ddau ddull yna'n bodoli ac yn ffrwythloni'i gilydd."
Hefyd o ddiddordeb: