Gwrthdrawiad Blaenau Ffestiniog: Teyrnged teulu

  • Cyhoeddwyd
Gary Broad gyda'i ŵyr, OllieFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gary Broad yn gadael cymar, dau o blant ac ŵyr, Ollie

Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngwynedd penwythnos diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd Gary Leslie Broad, oedd yn 62 oed ac o ardal Hindhead yn Surrey, ei anafu'n ddifrifol yn y gwrthdrawiad dau gar ar y B4391 ym Mlaenau Ffestiniog tua 13:00 ddydd Sadwrn.

Cafodd ei gludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke lle bu farw ddydd Llun.

Dywedodd ei deulu ei fod yn "byw bywyd llawn dop ac fe fydd ei gymar, Amanda, ei deulu a'i ffrindiau yn colli ei bersonoliaeth heintus".

"Roedd ganddo angerdd am antur a phob math o chwaraeon - yn arbennig heicio, sgïo a rasio ceir," meddent.

Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio am wybodaeth a lluniau tystion posib i'r gwrthdrawiad, oedd yn cynnwys Mazda MX5 a Land Rover.

Pynciau cysylltiedig