Ffatri offer niwclear i greu hyd at 200 o swyddi yn Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Safle BrychdynFfynhonnell y llun, Boccard UK

Gallai safle newydd sy'n darparu offer ar gyfer y diwydiant niwclear greu hyd at 200 o swyddi yn Sir y Fflint.

Mae ffatri gweithgynhyrchu Boccard UK, sydd wedi'i lleoli ger ffatri Airbus ym Mrychdyn, yn cael ei hagor yn swyddogol ddydd Mawrth.

Yn 10,000 metr sgwâr, dyma gyfleuster cynhyrchu niwclear mawr cyntaf y cwmni yn y DU.

Bydd y safle yn dylunio a gweithgynhyrchu systemau pibellau a chynwysyddion sy'n cael eu defnyddio i adeiladu gweithfeydd niwclear.

Mae mudiadau gwrth-niwclear wedi dweud y dylai cwmnïoedd fel Boccard "newid trywydd a darparu cydrannau i dechnoleg adnewyddadwy yn ei ffurfiau amrywiol".

Ehangu yn y gogledd?

Mae cynnig swyddi i bobl leol, yn enwedig ar ôl colli swyddi diweddar yn Airbus, yn flaenoriaeth yn ôl Boccard.

Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr, Douglas McQueen: "Pobl leol o'r gymuned leol fydd yn dod i mewn.

"Rydw i eisiau i bobl ddod i'r gwaith a gwneud diwrnod da iawn o waith, ond rydw i eisiau iddyn nhw allu mynd adref gyda'r nos at eu teulu yn hytrach na bod oddi cartref. Felly mae'n sylfaenol bwysig i mi."

Ychwanegodd fod Boccard yn bwriadu defnyddio ei academi sgiliau niwclear presennol i gynnig prentisiaethau i bobl iau, er bod y cynllun wedi'i ddisgrifio fel un sy'n ei "gamau cynnar iawn".

Mae'r cwmni wedi dweud bod tua 15% o swyddi wedi'u llenwi, gyda disgwyl hynny i gynyddu'n gyflym dros y chwe mis nesaf.

Mae Boccard yn cyflogi 3,500 o bobl mewn 35 o wledydd, yn darparu cynnyrch i adeiladu cyfleusterau niwclear, cynnal a chadw gweithfeydd presennol neu eu digomisiynu.

Mae'r cwmni'n credu y bydd y ffatri newydd "o bwys cenedlaethol" ac yn helpu i "sicrhau bod y DU yn gallu gwrthsefyll ynni yn y dyfodol".

Dywedodd Mr McQueen bod y mudiad yn bwriadu ehangu yn y gogledd.

Ychwanegodd fod "trafodaethau cynnar" ar y gweill am ffatri arall ar safle Brychdyn, gyda ffatri arall o fewn Sir y Fflint hefyd yn bosibilrwydd.

'Rhaid newid trywydd'

Mae mudiadau gwrth-niwclear wedi dweud y dylai cwmnïoedd fel Boccard "newid trywydd a darparu cydrannau i dechnoleg adnewyddadwy yn ei ffurfiau amrywiol".

Dywedodd mudiadau PAWB a CADNO "na ddylai cwmni Boccard roi gormod o ffydd mewn cael oes hir fel cynhyrchydd cydrannau ar gyfer y diwydiant niwclear".

Ychwanegodd: "Mae pob adweithydd niwclear yn ffantasi eithafol o ddrud sy'n cynhyrchu llawer mwy o broblemau nac unrhyw fuddion."

Pynciau cysylltiedig