450 o swyddi newydd yn ffatri Airbus ym Mrychdyn

  • Cyhoeddwyd
Awyren A320 AirbusFfynhonnell y llun, Reuters

Mae'n ymddangos y bydd 450 o swyddi newydd yn cael eu creu yn ffatri Airbus yn Sir Y Fflint wrth i'r cwmni gynhyrchu mwy o'i awyrennau A320.

Mae'r cwmni wedi cadarnhau bod 6,000 o swyddi newydd yn cael eu creu ar draws y byd, wrth anelu at gynhyrchu 75 o'r awyrennau bob mis yn ystod 2025 - cynnydd o oddeutu 50%.

Mae ffatri'r cwmni ym Mrychdyn yn cynhyrchu'r adenydd ar gyfer yr awyrennau A320 ac awyrennau eraill Airbus.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y cwmni y bydd yn buddsoddi yn ei safleoedd, gan gynnwys yn y DU, i gynyddu ei gapasiti.

Mae'r cwmni wedi cyhoeddi enillion uwch na'r disgwyl ar gyfer y tri mis diwethaf, ac mae'n hyderus y bydd awydd pobl i deithio yn cynyddu.

Mae Airbus hefyd yn datblygu awyren newydd ar gyfer teithiau pell sy'n gollwng llai o allyriadau ac yn defnyddio tanwydd yn fwy effeithiol, a ffatri Brychdyn fydd yn cynhyrchu ei hadenydd.

Pynciau cysylltiedig