Cwpan y Byd: Breuddwyd Cymru ar ben ar ôl colli'n erbyn Lloegr
- Cyhoeddwyd
Daeth diweddglo ar ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 yn dilyn colled drom yn erbyn Lloegr.
Roedd yn rhaid i Gymru ennill a gobeithio bod canlyniad y gêm arall rhwng Iran ag UDA yn mynd o'u plaid er mwyn sicrhau eu lle yn rownd yr 16 olaf.
Os nad oedd y gêm yna'n gorffen yn gyfartal, byddai angen i Gymru ennill o bedair gôl i sicrhau gwahaniaeth goliau gwell na Lloegr.
Ond bu i ddwy gôl ar gychwyn yr ail hanner brofi'n gostus wrth i dîm Robert Page fethu â chreu cyfleon o bwys mewn 90 munud siomedig arall.
Ar ddechrau'r gêm, Lloegr oedd yn rheoli'r meddiant gyda'r cyfle cyntaf yn syrthio i Marcus Rashford wedi naw munud, ond llwyddodd Danny Ward i ruthro allan i arbed yn dda pan yn un yn erbyn un.
Roedd hyn yn rhybudd cynnar i dîm Page, ond parhau wnaeth y pwysau gyda Chymru yn ei chael yn anodd i gael allan o'u hanner eu hunain.
Llwyddodd Ethan Ampadu i amddiffyn cic rydd gyda 18 munud ar y cloc wrth i Gymru ymdrechu i sicrhau mwy o feddiant a gwella'u pasio.
Roedd Kieffer Moore yn edrych yn unig iawn yn yr ymosod, ond daeth cic rydd i Gymru yn dilyn gwaith da gan Aaron Ramsey a Neco Williams.
Daeth yr eilyddio cyntaf wedi ond 34 munud wrth i Neco Williams orfod dod i ffwrdd o'r cae yn dilyn pryderon cyfergyd wedi anaf i'w ben, gyda Connor Roberts yn dod ymlaen yn ei le.
Roedd Cymru yn credu y dylen nhw wedi cael cic rydd yn ddwfn yn hanner Lloegr wedi i Kieffer Moore gael ei lorio, ond rhuthrodd tîm Gareth Southgate i ben arall y cae.
Yn ffodus i Gymru aeth ergyd Phil Foden dros y trawst, gyda chic dros ysgwydd Marcus Rashford hefyd yn methu'r nod.
Yn y cyfnod hwn bu i Dan James hefyd weld cerdyn melyn am lorio John Stones.
Wrth i'r hanner ddirwyn i ben daeth yn amlwg bod UDA wedi sgorio yn erbyn Iran, gan ysgogi'r Wal Goch i floeddio canu Yma o Hyd mewn ymdrech i sbarduno'r cochion.
Ond parhau i amddiffyn oedd yn rhaid gwneud, gyda Ward yn arbed peniad Stones.
Ar ddiwedd yr hanner cyntaf daeth cyfle cyntaf Cymru wrth i ergyd Joe Allen fynd dros y trawst.
Daeth newid sylweddol cyn ail-ddechrau'r chwarae gyda Brennan Johnson yn dod ymlaen yn lle Gareth Bale.
Nid oedd y dyn a fu'n achubiaeth i Gymru ar sawl achlysur wedi gwneud fawr o argraff ar y gêm.
Bu bron i bàs letraws Ramsey roi Johnson mewn safle peryglus bron yn syth, ond chwythodd y dyfarnwr ei chwiban am drosedd ar Luke Shaw.
Ond roedd dau funud hunllefus yn gostus iawn i dîm Rob Page.
Aeth Lloegr ar y blaen wedi 49 munud gyda chic rydd wych Marcus Rashford.
Brin funud yn ddiweddarach roedd y gêm yn edrych fel ei bod ar ben wrth i Phil Foden droi croesiad isel i gefn y rhwyd ac roedd hi'n 2-0.
Daeth ergyd pellach i Gymru gyda'r angen i dynnu Ben Davies i ffwrdd o'r maes oherwydd anaf, gyda Joe Morrell yn cymryd ei le.
Ond parhau wnaeth y pwysau gyda Lloegr yn sgorio trydedd haeddiannol wedi 68 munud.
Fydd Danny Ward yn siomedig iddo fethu â chadw ymdrech Marcus Rashford allan, ond sgorio ei ail wnaeth ymosodwr Manchester United wedi iddo drechu Connor Roberts.
Roedd pennau chwaraewyr Cymru yn amlwg yn isel erbyn hyn wrth i Loegr ddangos eu dyfnder carfan drwy ddod â Jack Grealish ymlaen yn lle Rashford.
Daeth mwy o newyddion drwg wrth i Joe Allen hefyd orfod adael y cae gydag anaf, gan alluogi Rubin Colwill i gael ei funudau cyntaf yn y gystadleuaeth.
Cafodd chwaraewr Caerdydd gyfle yn fuan wedi dod ymlaen ond aeth ei ymdrech yn bell dros y trawst, gydag ymdrech arall gan Moore hefyd yn methu'r nod.
Ond wedi'r rhyddhad o weld foli John Stones yn mynd dros y trawst mewn gwirionedd roedd Cymru'n falch o glywed y chwiban olaf gan ddynodi diwedd i noson a pherfformiad siomedig.
'Ni 'di 'neud yn dda just i fod 'ma'
Er hynny, roedd aelodau o'r Wal Goch oedd wedi gwneud y daith hir a chostus i Doha yn parhau i fod llawn balchder fod Cymru wedi cyrraedd Cwpan y Byd.
Ymysg y rheiny oedd y teulu Davies o'r Rhondda.
Dywedodd Paula: "Be' oedd yn dda oedd bod nhw 'di chwarae yr holl ffordd i'r diwedd, dangos calon.
"Daethon nhw draw ar y diwedd ac o' chi'n gallu gweld beth oedd e'n ei olygu iddyn nhw.
"Ni'r cefnogwyr yn gwerthfawrogi 'ny."
Ychwanegodd Trystan: "Rhaid i ni gofio mai nid just twrnament oedd hwn, ni 'di 'neud yn dda just i fod 'ma, a just cymysgu gyda chefnogwyr gwledydd eraill, ma' nhw'n gwybod pwy y'n ni nawr."
'Wedi dod yn bell iawn'
Wedi'r gêm roedd Gareth Bale yn glir mai nad dyma ddiwedd ei yrfa ryngwladol.
"'Dan ni'n siomedig gyda'r canlyniad, ond mae'n rhaid i ni gofio ein bod ni wedi dod yn bell iawn i gyrraedd Cwpan y Byd ac mae'n rhaid i ni fod yn falch o'n hunain o fod yma," meddai ymosodwr Los Angeles FC wedi'r gêm.
"'Dan ni wedi rhoi 100% a rhoi popeth ar y cae. Byddwn ni'n gadael gyda'n pennau ni'n uchel.
"Fyswn ni wedi caru 'neud yn well - ond y realiti yw fod pêl-droed yn anodd ac mae angen edrych i'r dyfodol.
"Mae'r cefnogwyr wedi bod yn anhygoel - y rhai deithiodd mor bell, neu wyliodd adref.
"Rhaid iddyn nhw aros gyda ni ar gyfer dechrau ymgyrch yr Ewros ym mis Mawrth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2022