Profiadau 'Ems Sain' o'r Felinheli yng Nghwpan y Byd
- Cyhoeddwyd
Ydych chi wedi gwrando ar gemau Cymru yng Nghwpan y Byd ar Radio Cymru, ac yn teimlo eich bod yn nabod y sylwebwyr Dylan Griffiths, Kath Morgan ac Iwan Roberts?
Ond beth am y person sy'n gyfrifol am ddod â'r cyfan i'ch clustiau?
Emyr Evans neu 'Ems Sain' o'r Felinheli yw'r peiriannydd sain sydd allan yn Doha, Qatar gyda'r sylwebwyr.
Ac yntau'n gyfrifol am ansawdd sain y darllediadau gan wneud yn siŵr bod y cyfan yn teithio'r tonfeddi i Gymru, Cymru Fyw fu'n cael cipolwg ar amser Ems yng Nghwpan y Byd.
Braint ac anrhydedd er gorfod cludo ces 32kg
Mae Ems, sy'n beiriannydd sain gyda dros ugain mlynedd o brofiad - ac wedi gweithio ar ddarllediadau byw o bob math; o etholiadau, pencampwriaethau chwaraeon fel Euro 2016 i Eisteddfodau, yn ei galw'n "fraint ac anrhydedd" i weithio yng Nghwpan y Byd - er gwaetha'r dasg anodd o bacio.
Eglura: "I ddechra' mae'n fraint ac yn anrhydedd i fod yma yng Nghwpan y Byd. Dwi dal ddim yn coelio'r peth. Dwi wedi bod yn dilyn Cymru ers yn hogyn bach, gan i Dai Davies, cyn gôl-geidwad Cymru fyw yn Wyddgrug lle ges i'n magu. A dyma fi, yn gweithio ar binacl pêl-droed.
"Ers cyrraedd, dwi wedi gwneud darllediadau byw i Radio Cymru, Radio Wales, 5Live, BBC Glasgow, BBC Ulster a Radio 4. Mae pawb nôl adre isio clywed lleisiau Cymry yn Qatar."
Er ei fod wedi bod yn brofiad heriol llusgo'r offer sain o'r gwesty i'r cae ac i'r pwynt sylwebu ar adegau, profiad anoddach fyth oedd pacio ar gyfer y gwaith a chludo'r offer o Fangor i Qatar:
"Dwi 'di pacio tua pedair gwaith achos oni'n trio lleihau nifer yr offer. Oedd y ces oni'n bwyso efo'r holl offer yn 32kg felly oedd o'n bwysa reit drwm. Be o'n i ddim isio oedd glanio yn y wlad wedi anghofio'r meicroffon neu glustffonau neu adapter neu beth bynnag!"
Cyrraedd y stadiwm bedair awr cyn y gic gyntaf
Dim ond un gêm o'r grŵp sydd ar ôl bellach a hynny yn erbyn Lloegr ar 29 Tachwedd, cyn y cawn wybod tynged Cymru yng Nghwpan y Byd.
Emyr sy'n egluro'r drefn o ran cyrraedd y stadiwm: "'Dan ni'n cael mynd i mewn i'r stadiwm bedair awr cyn y gêm felly 'da ni'n gadael y gwesty a chael tacsi i ganol y ddinas lle mae'r IBC - International Broadcasting Centre, wedyn bys yr holl ffordd i'r cae a wedyn ffwrdd â ni i'r cae bedair awr yn unig cyn y gêm.
"Pan 'dan ni'n mynd mewn i'r stadiwm, mae Ian, peiriannydd sain arall, a fi yn setio pethau i Radio Cymru a Radio Wales a choeliwch neu beidio, yn lle rydan ni'n darlledu - mae 'na 240 o seti jest i bobl gael darlledu radio ac ar y we!
"Felly yn y gêm yn erbyn Iran oeddan ni yn 163, 164 a 165 - bwrdd i dri - sylwebwyr Radio Cymru un ochr (Kath Morgan, Iwan Roberts, Dylan Griffiths), fi ac Ian yn y canol a Radio Wales ochr arall (Rob Phillips, Jess Fishlock a Nathan Blake) felly allwch chi ddychmygu faint o ieithoedd gwahanol sy'n edrych ar Gymru ac yn darlledu i gêm Cymru. Mae o'n enfawr."
'Fedra i fynd i rwla i ddod â phethe yn ôl i Gymru i chi'
Ynghŷd â darlledu'r gemau o'r stadiwm, mae Ems hefyd wedi bod yn dal yr awyrgylch o amgylch y lle, gorfoledd a siom y Wal Goch, ac argraffiadau cyn sêr pêl-droed Cymru, sylwebwyr a gohebwyr o dderbynfa'r gwesty.
Meddai: "Fel 'dach chi'n clywed ar Radio Cymru, 'da ni'n 'neud lot o betha yn y dderbynfa, achos dwi 'di setio fyny yn fan'na, mae Dylan Ebenezer yn 'neud Dros Frecwast yna, Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones, Kath Morgan… maen nhw i gyd yn dod i lawr y dderbynfa ata i.
"Fy kit i sy'n darlledu felly fedra i fynd i rwla i ddod â phethe yn ôl i Gymru i chi! Dwi 'di bod lle mae Cymru'n ymarfer echddoe, felly mi fedra i fod yn mobile a mi fedra i symud o gwmpas y lle achos bod y we mor dda."
Poeni pan mae pethau'n poethi
Mae sylwebwyr pêl-droed hefyd yn gefnogwyr angerddol ac nid dim ond yr offer darlledu sy'n poethi yn ystod gêm bêl-droed. Ond sut mae Ems yn dygymod â rheoli ceblau o bob math tra bo'r sylwebwyr yn berwi dan emosiwn ac yn neidio dan gyffro?
"Mi ydw i yn poeni a mae gen i bili palas yn fy mol. Cyn y gêm mae pawb efo potal o ddŵr, mae 'na drydan yn bob man a dyla bod pawb efo caead arnyn nhw. Ond yn ystod y cyffro…wel mae'r poteli dŵr yn gallu mynd i bob man a dwi wedi 'neud yn siŵr bod yna dishws o gwmpas y lle!
"Ar ddiwadd y dydd, ti ddim isio Dylan Griffiths fod yn symud pan mae Gareth Bale ar fin sgorio gôl a wedyn y lein yn ddistaw. Fasa fo ddim yn fai ar Dylan Griffiths - bai fi fasa fo wedyn de, felly mae'r pwysau yn anferthol."
Byd natur yn helpu gyda straen radio byw
Roedd Ems yn gwybod mai person sain oedd o eisiau bod fyth ers bod yn ddisgybl yn Ysgol Maes Garmon.
Meddai: "Oedd gen i ddiddordeb mewn goleuo theatr ond pan weles i Edwin Jones, athro, efo desg sain o'i flaen yn ystod sioe a llwythi o faders a knobs nes i benderfynu dyna dwi isio bod, person sain."
Ond yn wahanol iawn i straen darllediadau byw, diddordebau hamddenol sydd gan Ems yn ei amser sbâr gan gynnwys tyfu llysiau, cadw gwenyn a physgota. Mae natur yn ddihangfa o dechnoleg am ychydig bach.
Eglura: "Oedd Dai Davies (y cyn gôl-geidwad i Gymru oedd yn byw yn Wyddgrug) hefyd yn tyfu llysia'. Dyna lle ges i y diddordab o dyfu llysia' dwi'n meddwl. Oeddan ni yn cael mynd i'w ardd o i weld ei gynnyrch yn tyfu!
"Yn sicr mae'n niddordebau i tu allan i gwaith a potsian yn yr ardd a mynd am dro efo fy mhlant Twm a Wil yn helpu efo'r pwysau a natur radio byw ."
Gobaith i Gymru
Gyda llygedyn o obaith y bydd Cymru yn mynd drwodd i'r rownd nesaf, mae Ems wedi dod â digon o fatris gydag o, ac mae'n cadw'r ffydd ar gyfer gêm Cymru v Lloegr.
Meddai: "Mae pawb bach yn ddigalon bo' ni 'di colli yn erbyn Iran a mae pawb yn meddwl bo' ni'n mynd adre ond fedrith rwbath ddigwydd mewn gêm bêl-droed."