Sut le oedd Cymru a’r byd yn 1958?
- Cyhoeddwyd
Mae 1958 yn flwyddyn bwysig yng nghof cefnogwyr pêl-droed Cymru. Dyna'r tro diwethaf i'r wlad chwarae yng Nghwpan y Byd ac eleni mae ysbryd '58 wedi cael ei hatgyfodi wrth i Gymru chwarae ar lwyfan rhyngwladol mwyaf y byd chwaraeon unwaith eto.
Ond faint ohonom sydd yn cofio sut le oedd Cymru a'r byd yn 1958?
Mae 64 mlynedd yn amser hir. Mae'n golygu fod dwy genhedlaeth a mwy wedi bod ers i ddynion Jimmy Murphy gael eu danfon adref o Sweden gan dîm Brasil a Pelé yn rownd yr wyth olaf.
Ond beth oedd yn digwydd yng Nghymru? Sut le oedd y byd? Be oedd pris torth neu beint o gwrw? Be oedd y car mwyaf poblogaidd? Pwy enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod?
Dyma'r darlun ehangach o Gymru a'r byd yn 1958.
Y byd yn yr 1950au
Roedd yr 1950au yn ddegawd lle'r oedd y byd yn parhau i adfer ei hun ers diwedd yr Ail Ryfel Byd a ddaeth i ben yn 1945.
Dyma ddegawd cenhedlaeth y Baby Boomers, pan fu cynnydd enfawr ym mhoblogaeth y byd - o 2.5 biliwn i 3 biliwn - ar droed datblygiadau economaidd enfawr a phennod gyntaf cyfalafiaeth.
Taflodd y Rhyfel Oer gysgod dros y cyfnod wrth i'r frwydr dros rym a dylanwad byd eang rhwng yr Undeb Sofietaidd a'r Unol Daleithiau boethi.
Cafwyd rhyfeloedd yn deillio o'r anghytuno ar ideolegau cyfalafiaeth a chomiwnyddiaeth trwy gydol y cyfnod gan gynnwys Rhyfel Corea, Chwyldro Ciwba a chychwyn Rhyfel Fietnam. Gwelwyd gwledydd yn arbrofi gydag arfau niwclear ac yn sgil hynny sefydlwyd Ymgyrch Diarfogi Niwclear (CND).
Erbyn 1958 roedd y Farchnad Ewropeaidd, sef yr Undeb Ewropeaidd fel rydan ni'n ei adnabod heddiw, wedi cael ei greu; sefydlwyd NASA a chanolfan wyddoniaeth Cern; a danfonwyd lloerennau i'r gofod am y tro cyntaf gan Rwsia ac UDA.
Dechreuodd pobl wylio'r teledu o'u tai a chael mwynhau rhaglenni fel Blue Peter ac fe ddangoswyd ffilm gyntaf James Bond, Dr. No yn y sinema.
Cafwyd brechlyn i bolio, dyfeisiwyd y gell solar, a'r Ford Anglia oedd y car mwyaf poblogaidd.
Digwyddodd hyn i gyd i gyfeiliant cerddoriaeth jazz a roc a rôl gan enwau fel Elvis Presley, Frank Sinatra, Judy Garland, Sam Cooke, Jackie Wilson, Ella Fitzgerald, Chuck Berry, Buddy Holly, Ritchie Valens, a Miles Davis.
Cymru yn 1958
Mae'n deg dweud y byddai 1958 yn angof i lawer o Gymry heddiw heblaw am lwyddiant y tîm pêl-droed y flwyddyn honno.
Er bod y byd wedi newid yn llwyr mewn 64 mlynedd mae'r digwyddiadau byd-eang o'r cyfnod yn dal i gael effaith hyd heddiw ac ysbryd '58 yn parhau mewn llawer o ffyrdd.
Mae'r ddau gyfnod yn gweld Cymru yn chwarae ar lwyfan mwyaf pêl-droed o dan arweiniad dau o'u chwaraewyr gorau erioed, John Charles a Gareth Bale.
Mae poblogaeth y byd newydd daro 8 biliwn, mae rhyfeloedd yn dal i fodoli ar draws y byd, ac fel polio - bu rhaid darganfod brechlyn i frwydro Covid-19.
Yng Nghymru mae'r Eisteddfod yn dal i fynd wrth gwrs. Yng Nglynebwy fuodd hi yn 1958 lle cipiodd T. Llew Jones y gadair gyda 'Caerllion ar Wysg' a Llywelyn Jones enillodd y Goron gyda Cymod'
Mae Eisteddfod y flwyddyn honno hefyd yn enwog am ymweliad y canwr ac ymgyrgydd hawliau sifil, Paul Robeson, â Chymanfa Ganu'r Eisteddfod fel gŵr gwadd i Aneurin Bevan, a oedd ar y pryd yn aelod seneddol lleol.
Yn 1958 hefyd daeth sylw'r byd i Gaerdydd wrth i Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad gael eu cynnal yn y brifddinas am y tro cyntaf lle enillodd y bocsiwr o Ferthyr Tudful, Howard Winstone, fedal aur cyntaf Cymru ers 1938.
Hon oedd y digwyddiad chwaraeon mwyaf erioed i gyrraedd y wlad a daeth Cymru y wlad lleiaf erioed i'w chynnal.
Plannu hadau'r 1960au
Er na fyddai'r gân brotest Yma o Hyd'gan Dafydd Iwan - sy'n cario'r genedl drwy Cwpan y Byd eleni - yn cael ei ryddhau am 25 mlynedd arall, yn 1983, roedd yn gyfnod wnaeth blannu'r hadyn ar gyfer newidiadau gwleidyddol arwyddocaol yn yr 1960au mae'r gân yn cyfeirio atyn nhw.
Dyma'r flwyddyn wnaeth Brenhines Elisabeth ll gyhoeddi y byddai ei mab, y Tywysog Charles yn cael ei wneud yn Dywysog Cymru - penderfyniad wnaeth arwain at flynyddoedd o ymgyrchu gan fudiadau cenedlaetholgar Cymreig yn y ddegawd wnaeth ddilyn.
Tair blynedd ynghynt yn 1955 roedd Caerdydd wedi dod yn brifddinas swyddogol Cymru; yn 1957 rhoddwyd caniatâd i Gyngor Lerpwl gael boddi cwm Tryweryn; a blwyddyn wedi i'r ddraig goch gael llwyfan rhyngwladol yng Nghwpan y Byd, fe ddaeth yn fflag swyddogol ar y wlad yn 1959.
Felly ochr yn ochr gyda llwyddiant tîm pêl-droed Cymru'r flwyddyn honno bu datblygiadau enfawr yng nghymdeithas Cymru ar droad degawd newydd.
Cyd-destun
Er y byddai cefnogwyr Cymru sydd yn cofio siomedigaethau'r gorffennol yn siŵr o anghytuno, mae 64 mlynedd - mewn gwirionedd - yn gyfnod reit fyr wrth feddwl am oedran y byd.
Wedi dweud hynny, doedd Neil Armstrong heb gerdded ar y lleuad; doedd The Beatles heb ffurfio; doedd 'na ddim sianel deledu Cymraeg; doedd Cymru heb gael ei ddatganoli; a doedd Pont Hafren ddim yn bodoli.
Doedd arian degol ddim yn bodoli ychwaith a gyda'r swllt y byddai pobl yn prynu nwyddau pob dydd. Tybed sut oedd prisia yn cymharu â heddiw?
Peint o gwrw - dau swllt (24c) / Heddiw - £3.96
Peint o lefrith - 3c / Heddiw - 49c
Torth - 49c / Heddiw - £1.15
Tŷ - £2, 049 / Heddiw - £260, 771
Petrol - Un swllt a chwe cheiniog (18c y galwyn) / Heddiw - £1.68 (y litr)