Vaughan Gething yn amddiffyn ymweliad â Qatar
- Cyhoeddwyd

Siaradodd Vaughan Gething â Phrif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney
Wrth i Gymru baratoi i chwarae yn erbyn Lloegr yn eu gêm grŵp olaf yng Nghwpan y Byd, mae Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething wedi amddiffyn ei benderfyniad i fod yno.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu am fynd i Qatar, oherwydd record hawliau dynol y wlad.
Mae arweinydd y Blaid Lafur drwy'r DU, Syr Keir Starmer wedi gwrthod mynd i'r bencampwriaeth.
Ond dywedodd Mr Gething fod mynd yno yn fwy na chefnogi'r tîm; a'i fod yn ymwneud â'r ffaith fod gan Gymru blatfform byd-eang, a "chyfle go-iawn i gael y byd i ystyried dod i Gymru, ac i Gymru i fynd allan i'r byd".
Cyfle i hyrwyddo Cymru
Mae ymweliad Mr Gething yn dilyn ymweliad y Prif Weinidog Mark Drakeford â Qatar ar gyfer gêm gyntaf Cymru, yn erbyn yr UDA.
Mewn cyfweliad â BBC Radio Wales Breakfast, dywedodd bod cyfle i hyrwyddo Cymru drwy'r byd: "Mae am beidio ildio y cyfle byd-eang yma i Gymru, i fod yn falch o bwy ydym ni ar y llwyfan rhyngwladol yma.
"Mae 'na lawer mwy o ddiddordeb yng Nghymru am ein bod ni yma."

Roedd Mark Drakeford yn Qatar adeg gêm gyntaf Cymru yn erbyn yr UDA
Yn ystod ei ymweliad mae'r gweinidog wedi cyfarfod Gweinidog Cyllid Qatar, a dywedodd fod ganddo ddiddordeb mewn buddsoddi yng Nghymru.
"Fe wnaethom ni drafod nifer o opsiynau ble mae gan Qatar ddiddordeb mewn buddsoddi ymhellach.
"Maen nhw'n awyddus i ddatblygu eu heconomi mewn ffordd fwy amrywiol, achos maen nhw'n deall na fydd nwy naturiol, a'r cynnydd yn ei werth wedi i Rwsia ymosod ar Wcráin, yn para am byth.
"Felly mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn nifer o bethau rydym ni yn ceisio cael mwy o fuddsoddiad ar eu cyfer."
Ond, dywedodd eu bod nhw hefyd wedi trafod gwerthoedd, a'i fod wedi pwysleisio gwerthoedd Cymru.
"Pan ddywedom ni y byddem ni'n trafod ein gwerthoedd, rydyn ni'n gwneud be' ddywedom ni y byddem ni'n ei wneud, a dwi eisiau cadw mewn cysylltiad yn y dyfodol.
"Mae newid yn digwydd yn araf, ac mae 'na ddewis ydym ni'n mynd i hybu hynny ai peidio.
"Dwi'n meddwl ein bod ni'n gwneud ein rhan drwy fod yn rhan o'r sgwrs -'da ni'n awyddus i weithio'n agos gyda Qatar a gwledydd eraill yn y rhanbarth a siarad am pam ein bod ni'n falch o'r Gymru sydd ohoni heddiw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2022