Llai na hanner pobl Cymru yn Gristnogion - Cyfrifiad

  • Cyhoeddwyd
Capel BethaniaFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Capel Bethania ym mhentref Pistyll ym Mhen Llŷn ydy un o'r nifer sydd wedi cau wrth i gynulleidfaoedd fynd i lawr

Os yw Cymru yn parhau i fod yn Wlad y Gân, mae llai o emynau i'w clywed, gyda llai na hanner y boblogaeth yn ystyried eu hunain yn Gristnogion, yn ôl y Cyfrifiad.

Yn ôl y canlyniadau diweddaraf i gael eu rhyddhau o Gyfrifiad 2021, mae'r nifer sy'n dweud nad ydyn nhw'n grefyddol wedi codi i 46.5%.

Yn y cyfamser mae dros 55% o'r bobl sy'n byw yng Nghymru yn disgrifio eu hunain fel Cymry.

Ond mae hynny i lawr o 57.5% 10 mlynedd yn ôl, gyda'r nifer sy'n galw eu hunain yn Brydeinwyr yn unig wedi codi o 16.9% i 18.5%.

Llai o Gristnogion

Roedd 'na fwy o gwymp yn y nifer sy'n dweud eu bod yn Gristnogion yng Nghymru nag oedd yna drwy Gymru a Lloegr i gyd.

Degawd yn ôl roedd 57.6% yn ystyried eu hunain yn Gristnogion, ond mae hynny wedi gostwng 14 pwynt canran i 43.6% yn 2021.

Fe gynyddodd y nifer ddywedodd nad ydyn nhw'n dilyn unrhyw grefydd o 14 pwynt canran hefyd - o 32.1% i 46.5% yn ystod y ddegawd.

Ffynhonnell y llun, Google Street View
Disgrifiad o’r llun,

Mae 56.7% o bobl Sir Caerffili, ble cafodd y capel hwn ei werthu'n ddiweddar, yn dweud nad ydyn nhw'n dilyn unrhyw grefydd

Yn ardaleodd Caerffili (56.7%), Blaenau Gwent (56.4%), a Rhondda Cynon Taf (56.2%) yr oedd y niferoedd uchaf oedd yn dweud nad ydyn nhw'n grefyddol.

Roedd y canran isaf oedd yn galw eu hunain yn Gristnogion ym Mlaenau Gwent (36.5% o'i gymharu â 49.9% 10 mlynedd yn ôl) a Chaerffili (36.4% o'i gymharu ag ychydig dros 50%).

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), sy'n cyhoeddi data'r Cyfrifiad yn dweud mai gwirfoddol oedd y cwestiwn ynglŷn â chrefydd, ond bod mwy o bobl wedi dewis ei ateb y tro hwn.

Ynys Môn, Sir Conwy a Sir Fflint oedd yr unig ardaloedd ble roedd dros hanner y boblogaeth yn galw eu hunain yn Gristnogion.

Dywedodd 66,950 o bobl mai Mwslemiaid ydyn nhw, gyda mwy na'u hanner yn byw yng Nghaerdydd.

Roedd 12,248 yn Hindwiaid, mwy na'u hanner yn byw yng Nghaerdydd ac Abertawe.

Yng Nghaerdydd y mae'r nifer uchaf o Iddewon yng Nghymru hefyd - 690 allan o 2,044 drwy'r wlad.

Disgrifiodd 243 o bobl eu hunain fel paganiaid.

Beth am hunaniaeth?

Mae'r nifer sy'n ystyried eu hunain yn Gymry i lawr o 1.8m i 1.7m - neu 55.2% o'r boblogaeth.

Roedd y canran uchaf sy'n gweld eu hunain fel Cymry yn unig yn byw ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili.

Yn siroedd Fflint a Mynwy y mae'r nifer isaf.

Y gymuned gyda'r nifer uchaf o bobl oedd yn dweud mai Cymry yn unig ydyn nhw yw Pontardawe yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Roedd yna gynnydd yn nifer y bobl sy'n byw yng Nghymru ond sy'n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr, o 519,000 yn 2011 i 574,000 yn 2021, gyda'r canranau uchaf yn byw yn Sir Fynwy, Sir y Fflint a Phowys.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llai o'r bobl sy'n byw yng Nghymru yn ystyried eu hunain yn Gymry nac yn 2011

Y gymuned ble roedd y nifer uchaf yn uniaethu gyda Phrydain oedd Ewlo a Phenarlâg yn Sir y Fflint.

Mae mwy o bobl hefyd yn disgrifio eu hunain fel Cymry a Phrydeinwyr - 8.2% o bobl.

Dywedodd 4.2% nad ydyn nhw'n perthyn i unrhyw ran o'r DU, ac 1.2% eu bod yn perthyn i'r DU ac i rywle arall.

Yn Wrecsam y mae'r gymuned Bwylaidd fwyaf yng Nghymru, gyda 3,290 yn uniaethu gyda hi.

Ethnigrwydd ac iaith yng Nghymru

Heblaw am Gymraeg neu Saesneg, Pwyleg oedd yr iaith fwyaf poblogaidd nesaf yng Nghymru. Roedd tua 21,000 yn siarad yr iaith sy'n 0.7% o'r boblogaeth.

Arabeg oedd yr iaith fwyaf cyffredin nesaf. Roedd tua 9,000 yn siarad yr iaith sy'n 0.3% o'r boblogaeth. Roedd 5,000 o'r siaradwyr yn byw yng Nghaerdydd.

Roedd gwybodaeth newydd am ethnigrwydd yng Nghymru hefyd.

Roedd tua 89,000 o bobl - 2.9% - sy'n perthyn i grwpiau ethnig Asiaidd, Aisiadd Brydeinig neu Asiaidd Gymreig, gyda bron i 35,000 yn byw yng Nghaerdydd. 2.3% oedd y ffigwr yn 2011.

Roedd y rheiny wnaeth ateb yn dweud eu bod yn Ddu, Du Brydeinig, Du Gymreig, Caribiaidd neu Affricanaidd yn cyfateb i 0.9% (28,000 o bobl). 0.6% oedd y ffigwr yn 2011.

"Grwpiau ethnig cymysg neu niferus" oedd 1.6% (49,000 o bobl) wnaeth ateb - i fyny o'r 1% y tro diwethaf - a grwpiau ethig eraill yn cyfateb i 0.9% (26,000 o bobl) oedd yn gynnydd o 0.5% y tro diwethaf.

Roedd y rheiny oedd yn perthyn i grwpiau gwyn yn 2.9 miliwn - neu 93.8%.

Am y tro cyntaf, fe ddangosodd y Cyfrifiad bod 2,000 o bobl yn adnabod eu hunain yn Roma yng Nghymru - sy'n 0.1% o'r boblogaeth.