Cerddwr wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar yn Llantrisant

Heol-Y-SarnFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Heol-Y-Sarn am 17:55 ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr yn Rhondda Cynon Taf ddydd Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Heol-Y-Sarn yn Llantrisant am 17:55, ond er gwaethaf ymdrechion swyddogion bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle.

Mae teulu'r unigolyn wedi cael gwybod, ac maen nhw'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae Heddlu'r De yn apelio ar dystion, neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam o'r ardal o amgylch cylchfan Ynysmaerdy a Heol-Y-Sarn rhwng 17:30 a 18:00 ddydd Mercher, i gysylltu â nhw.

Mae swyddogion yn awyddus i siarad gyda dyn oedd yn gwisgo dillad oren llachar, oedd o bosib wedi siarad gyda'r cerddwr cyn y gwrthdrawiad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig