Cymeradwyo cais am drenau newydd rhwng Caerfyrddin a Llundain

  • Cyhoeddwyd
PaddingtonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i bum siwrnai ychwanegol fod ar gael i deithwyr rhwng Caerfyrddin a Paddington, Llundain

Bydd trenau ychwanegol yn rhedeg rhwng Caerfyrddin a Llundain o fewn dwy flynedd, ar ôl i gwmni trenau gael caniatâd y rheoleiddiwr.

Mae'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) wedi cymeradwyo cais cwmni Grand Union, fydd yn gystadleuaeth i wasanaethau trenau Great Western i Lundain.

Mae disgwyl i bum siwrnai ychwanegol y dydd fod ar gael i deithwyr o ddiwedd 2024 ymlaen.

Dywedodd yr ORR y bydd prisiau is yn bosib, yn ogystal â mwy o ddewis.

Bu oedi i'r cais gafodd ei gyflwyno i'r ORR fis Mehefin oherwydd pryderon Network Rail am gapasiti ar y rhwydwaith.

Ond dywedodd yr ORR eu bod wedi rhoi cyfarwyddyd i Network Rail ymrwymo i gytundeb gyda Grand Union.

Yn ôl gwefan Grand Union, bydd y trenau'n rhedeg rhwng Caerfyrddin a gorsaf Paddington yn Llundain gan alw yn Llanelli, Parc Felindre (gorsaf newydd fydd ger Abertawe), Caerdydd Canolog, Parcffordd Caerdydd (gorsaf newydd fydd yn nwyrain Caerdydd), Casnewydd, Cyffordd Twnnel Hafren a Pharcffordd Bryste.

'Cystadleuaeth pris a threnau cyfforddus'

Mae'r gweithredwyr newydd wedi "ymrwymo i fuddsoddiad sylweddol mewn trenau newydd" dywedodd yr ORR.

Ond ychwanegodd na fydd y cwmni'n derbyn cymorthdaliadau o arian cyhoeddus "fel gweithredwyr presennol eraill".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cynnig cystadleuaeth i wasanaethau Great Western Railway fydd trenau newydd Grand Union

Dywedodd Stephanie Tobyn, Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Diwygio ORR fod y penderfyniad yn "cefnogi mwy o ddewis i deithwyr, cyfleoedd newydd ar gyfer teithiau uniongyrchol, mwy o gystadleuaeth pris a threnau cyfforddus, newydd".

"Fe ddylai'r gystadleuaeth ychwanegol hefyd wneud cyfraniad sylweddol at arloesi o ran y teithiau, arferion tocynnau a gwelliannau i ansawdd gwasanaethau, gan Grand Union a thrwy ymateb y gweithredwyr presennol."

Pynciau cysylltiedig