Oedi tan 2020 cyn cyflwyno trenau 'newydd' i'r Cymoedd

  • Cyhoeddwyd
Trafnidiaeth Cymru sy'n gyfrifol am wasanaethau Cymru a'r Gororau
Disgrifiad o’r llun,

Trafnidiaeth Cymru sy'n gyfrifol am wasanaethau Cymru a'r Gororau

Mae cynllun i adnewyddu trenau ar gyfer gwasanaethau'r Cymoedd wedi cael ei ohirio tan yn "gynnar yn 2020".

Yn wreiddiol roedd trenau Dosbarth 769 i fod i gael eu cyflwyno i Drafnidiaeth Cymru yn y gwanwyn.

Ond dywed Porterbrook, y cwmni sy'n eu cynhyrchu, fod problemau cyflenwi a pheirianyddol yn golygu nad yw'r pum trên yn barod.

Yn ôl un ffynhonnell, mae yna her beirianyddol wrth geisio addasu trenau hŷn i ddefnyddio disel a thrydan.

Yn y Senedd ym Mae Caerdydd fe wnaeth Plaid Cymru alw am sicrwydd nad trethdalwyr fydd yn gorfod talu am yr oedi.

Mae Porterbrook wedi ymddiheuro am y sefyllfa gan ddweud y bydd y trenau yn cael eu rhoi i Drafnidiaeth Cymru mor fuan â phosib.

Ffynhonnell y llun, Train Photos
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y trenau ar eu newydd wedd yn cael eu cyflwyno ar gyfer gwasanaethau'r Cymoedd

Dywedodd Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru: "Gyda chwsmeriaid eisoes yn dioddef, mae angen sicrwydd ar ran trethdalwyr fod y cytundeb gyda'r cwmni yn cynnwys elfen o ddirwy, a'r gallu i ganslo."

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fe fydd yna leihad yng nghost rhai gwasanaethau yn y rhwydwaith, pan fydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad ym mis Ionawr.

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru nad oeddynt yn gallu cadarnhau yn bendant pryd y bydd y trenau yn weithredol.

"Byddwn yn parhau gyda rhaglen hyfforddi gyrwyr ac rydym yn gobeithio cyflwyno'r Dosbarth 769 yn gynnar yn 2020."