'Angen edrych ar dlodi tu hwnt i ddaearyddiaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae angen sicrhau bod cymunedau tlotaf Cymru yn cael eu cefnogi yn ôl anghenion, nid ar sail eu lleoliad yn unig, medd melin drafod.
Daw galwad Sefydliad Bevan wrth i ffigyrau o'r cyfrifiad diweddaraf ddangos bod nifer o'r cartrefi tlotaf mewn rhannau o Gaerdydd a Chasnewydd.
Yn ôl dadansoddiad BBC Cymru o'r data diweddaraf, dim ond un o'r 10 cymuned fwyaf difreintiedig sydd yng nghymoedd y de.
Yn ôl Dr Steffan Evans o'r felin drafod, mae angen bod "lot fwy ymwybodol bod tlodi ym mhobman yng Nghymru".
Mae'r ffigyrau diweddaraf o'r cyfrifiad yn 2021 yn awgrymu bod y sefyllfa tlodi yng Nghymru wedi gwella yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf.
Fodd bynnag, mae dros hanner cartrefi'r wlad mewn un o bedwar categori sy'n cael eu defnyddio i fesur tlodi.
Y pedwar mesur yw:
Cyflogaeth: Os nad oes unrhyw un yn y cartref mewn addysg, yn ddi-waith neu'n rhy sâl i weithio;
Addysg: Os nad oes gan unrhyw un yn y cartref bump TGAU neu fwy na chwaith bod unrhyw un rhwng 16 ac 18 mewn addysg llawn amser;
Iechyd ac Anabledd: Os yw iechyd unrhyw un yn y cartref yn 'wael' neu'n 'wael iawn', neu eu bod yn anabl;
Tai: Os yw'r cartref yn orlawn neu wedi'i wresogi'n wael.
Trwy ddefnyddio data o'r cyfrifiad, mae modd dadansoddi pa ardaloedd sydd â'r nifer uchaf o gartrefi sy'n rhan o'r pedwar categori.
Mae chwech o'r 10 uchaf yng Nghymru yng Nghaerdydd.
Ar frig y rhestr mae Trowbridge a rhan o Dredelerch (Rumney), ble mae 29 o gartrefi yn y pedwar categori.
Yn ôl pennaeth polisi Sefydliad Bevan, mae'r ffigyrau'n codi'r cwestiwn a yw'r awdurdodau a chymdeithas wedi bod yn edrych ar dlodi yn y ffordd anghywir.
"Wrth gwrs bod angen ffocysu ar yr ardaloedd hynny dy'n ni'n draddodiadol yn eu trafod [yng nghyd-destun tlodi], ond hefyd bod yn lot fwy ymwybodol bod tlodi ym mhob man yng Nghymru," meddai Dr Steffan Evans.
Ychwanegodd bod "angen i ni gymryd camau sy'n cefnogi pobl dim jyst yn ôl ble maen nhw'n byw ond hefyd yn ôl y ffactorau personol hynny sy'n rhoi pobl ar risg uwch o fyw mewn tlodi."
Ydy buddsoddi wir yn gwneud gwahaniaeth?
Yn ôl Dr Evans, mae mesur llwyddiant wrth geisio mynd i'r afael â thlodi yn fwy heriol wrth edrych ar y pwnc fel un daearyddol.
"Falle bo' ni'n gallu gwneud i ardal edrych yn fwy llewyrchus; buddsoddi mewn cyfleusterau newydd.
"Ond yw hynny wir yn gwneud gwahaniaeth i sefyllfa byw pobl? Cyflyrau pobl? Sut y mae pobl yn teimlo?"
Mesur arall sy'n cael ei ddefnyddio i fesur tlodi ydy faint o blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, mae'r cymunedau sydd â'r ganran uchaf o blant sy'n gymwys yng Nghaerdydd.
Rhan o ardal Sblot sydd ar frig y rhestr, gyda Threlái yn amlwg yn y 10 ardal sydd â'r ffigyrau uchaf hefyd.
Mae Ysgol Glan Morfa yng nghanol Sblot - yr ardal sydd ar frig y rhestr.
Yn ôl y pennaeth, Meilir Tomos, mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith amlwg ar rieni plant yr ysgol.
Dywedodd fod rhieni yn cael "mwy o drafferth" wrth geisio talu am deithiau ysgol i'r plant.
Ychwanegodd bod swyddog cymunedol yr ysgol yn cyfarfod yn gyson gyda rhieni ac yn aml yn rhoi cymorth a chyngor ar gyfer problemau costau byw.
"Mae yna o hyd rhyw ddiwrnod falle sy'n gofyn am gyfraniada' ond 'dan ni'n gorfod pwyso a mesur rŵan pa rai 'dan ni wir yn mynd ar eu hôl," meddai.
"[Rydyn ni] wedi gorfod cwtogi hefyd faint o bethau 'dan ni'n gallu ei wneud dros bethau fel elusennau o achos yr argyfwng costau byw."
Mae Rhiannon Hardiman, sy'n byw yn lleol a gyda phlant yn yr ysgol, yn dweud eu bod nhw fel teulu yn cymryd nifer o gamau i leihau costau.
"Mae poteli dŵr poeth ganddon ni yn y gwlâu dros nos, er enghraifft, achos dyw'r tŷ ddim cweit mor gynnes," meddai.
Dywedodd bod ganddyn nhw lenni ar bob ffenestr ac ar ddrysau er mwyn ceisio cadw gwres i mewn.
"Ni'n prynu llai o gig, coginio prydau mewn un sosban a rhoi pethe yn y popty ar yr un amser i leihau faint o amser ni'n gorfod defnyddio'r nwy a'r trydan gyda'r cooker."
Ychwanegodd rhiant arall, Gethin Thomas: "Ni wedi gweld gwahaniaeth mawr pan ni'n siopa.
"Ni'n cadw golwg ar be' ni'n prynu yn fanna. Ni'n trio rhoi golau bant. Trio defnyddio llai o ddŵr.
"Mae [yr argyfwng costau byw] wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r ffordd ni'n byw o ddydd i ddydd."
Yn ogystal â'r amryw o ffynonellau cymorth er mwyn helpu'r bobl dlotaf trwy'r argyfwng costau byd, dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddyn nhw amryw o bolisïau sy'n "helpu i gadw arian ym mhocedi pobl".
Dywedodd llefarydd fod y rheiny'n cynnwys gofal plant am ddim, prydau ysgol am ddim a phresgripsiynau am ddim.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd30 Medi 2022