Comisiynydd plant: Costau byw'n achosi 'pandemig tlodi'

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn byw mewn tlodiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd bod straen cynyddol prisiau eisoes yn effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc

Mae costau byw cynyddol yn achosi "pandemig tlodi", yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru mae Rocio Cifuentes wedi rhybuddio bod y straen yn sgil costau cynyddol eisoes yn effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc.

Mae llywodraethau Cymru a'r DU yn dweud eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.

"Gallwch ei weld ar eu hwynebau," meddai Ms Cifuentes, "dydyn nhw ddim yn siŵr a all eu teuluoedd ymdopi".

"Mae eu rhieni o dan straen, maen nhw dan straen.

"Mae goblygiadau i'r teulu cyfan. Dydyn nhw ddim yn gwybod sut maen nhw'n mynd i ddod drwy'r ychydig wythnosau nesaf, heb sôn am fisoedd."

Mae traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi, gyda phryder y bydd y niferoedd yn codi y gaeaf hwn wrth i gost gynyddol bwyd, tanwydd ac ynni effeithio ar gyllidebau teuluoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rocio Cifuentes fod pobl ifanc "ddim yn gweld dyfodol iddyn nhw eu hunain"

Mae Ms Cifuentes yn poeni bod y straen a ddaw yn sgil hyn yn cyfyngu ar y cyfleoedd sydd ar gael i blant ac yn effeithio ar eu hagwedd at fywyd.

"Dydyn nhw ddim yn gweld dyfodol iddyn nhw eu hunain," meddai.

"Dydyn nhw ddim yn cynllunio'r hyn y dylai plant fod yn ei gynllunio - naill ai mynd i'r brifysgol neu ddatblygu gyrfa - dydyn nhw ond yn ceisio byw o ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos."

'Dipyn o straen'

Mae Sam, sy'n 17 oed, yn fyfyriwr yng Ngholeg Y Drenewydd.

Dywedodd bod costau cynyddol eisoes wedi cael effaith arno ef a'i deulu.

"Mae bob amser yng nghefn eich meddwl, rydych chi bob amser yn meddwl amdano, rydych chi'n meddwl am gost pethau," meddai.

"Mae'r syniad y gall eich teulu fod yn ei chael hi'n anodd yn achosi dipyn o straen, pan fyddwch chi'n treulio'ch amser yn astudio, pan fyddwch chi'n meddwl y gallech chi fod yn eu helpu drwy fod yn gweithio."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sam fod costau cynyddol eisoes wedi cael effaith arno ef a'i deulu

Mae staff yng Ngholeg Y Drenewydd yn dweud eu bod yn pryderu am sut mae'r argyfwng presennol yn effeithio ar bobl ifanc, ac wedi dechrau cynnig brecwast am ddim i bob myfyriwr y tymor hwn.

Mae'r Comisiynydd Plant wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r rhaglen o gyflwyno prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd, a'i hymestyn i ysgolion uwchradd.

Mae Ms Cifuentes hefyd eisiau i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru fod am ddim i bawb o dan 18 oed.

'Gweithio'n gyflym'

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn defnyddio "pob lifer sydd ar gael" i gefnogi teuluoedd, a'i bod wedi "gweithio'n gyflym" i gyflwyno prydau ysgol am ddim i'r dysgwyr ieuengaf.

Mewn datganiad, ychwanegwyd bod amrywiaeth o gynlluniau sy'n cynnig trafnidiaeth cyhoeddus gostyngedig ac am ddim i blant a phobl ifanc yn cael eu hadolygu'n gyson.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'n defnyddio "pob lifer sydd ar gael" i gefnogi teuluoedd

Dywedodd Llywodraeth y DU bod 500,000 yn llai o blant mewn tlodi absoliwt nawr o'i gymharu â 2009/10.

"Ond rydyn ni'n cydnabod bod pobl yn cael trafferth gyda phrisiau cynyddol a dyna pam rydyn ni'n arbed £1,000 y flwyddyn ar gyfartaledd i aelwydydd trwy ein Gwarant Pris Ynni newydd, gan ganiatáu i bobl ar Gredyd Cynhwysol i gadw £1,000 yn fwy ar gyfartaledd o'r hyn maen nhw'n ei ennill a darparu wyth miliwn o'r aelwydydd incwm isaf gyda chymorth uniongyrchol ychwanegol gwerth o leiaf £1,200," meddai llefarydd.

"Mae tua £237m hefyd ar gael i lywodraethau datganoledig ei wario yn ôl eu disgresiwn. Mae hyn yn ychwanegol at y pwerau treth incwm a lles sylweddol sydd ganddynt eisoes."