O'n i'n crynu! - Cwrdd â sêr Cymru drwy hap a damwain yn Qatar
- Cyhoeddwyd

Un o noddwyr y twrnament wnaeth roi'r cyfle i'r teulu gael profiad mor unigryw
Er i'r canlyniad ar y cae fynd yn erbyn Cymru ddydd Gwener, cafodd un teulu o Ben-y-bont brofiad arbennig i'w gofio - a hynny drwy hap a damwain llwyr.
Penderfynodd David a Heather Parsons, a'u plant Isabelle a Jensen, fynd i Stadiwm Ahmad Bin Ali oriau'n gynnar cyn y gêm yn erbyn Iran, rhag ofn bod trafferth gyda'r tocynnau.
Ac fe dalodd hynny ar ei ganfed wrth iddyn nhw nid yn unig gael gwahoddiad i fynd ar y cae, ond cyfarfod carfan Cymru hefyd, gan gynnwys y capten Gareth Bale.
"Fi'n meddwl o'n i mwy starstruck na'r plant!" meddai David. "Ro'n ni just yn y lle iawn ar yr amser iawn."

Roedd cyfle i'r teulu eistedd yn seddi carfan a thîm hyfforddi Cymru ar yr ystlys yn Stadiwm Ahmad Bin Ali
Dywedodd David fod y teulu wedi mynd i'w seddi sbel cyn i'r gêm ddechrau, ac wrth eistedd yn y cysgod daeth swyddogion o Visa, un o noddwyr y gystadleuaeth, draw atynt.
"O'n i wir just yn meddwl bod nhw'n trio gwerthu cerdyn credyd i fi," meddai.
Yn lle hynny, cafodd y teulu gynnig i gael cerdded ar y cae, a chael llun yn y cylch canol gyda phêl swyddogol y gystadleuaeth.

Fel roedden nhw'n gorffen gyda'r cyfleoedd am luniau, a hwythau ger y twnnel bellach, cyrhaeddodd tîm Cymru y stadiwm a dod heibio lle roedden nhw.
"Gareth Bale oedd un o'r rhain cynta' oddi ar y bws, ac roedd e'n grêt, dod draw a rhoi fist bump i ni, dweud helo, ac wedyn Connor Roberts a cwpl o'r lleill," ychwanegodd David.
"Am brofiad i gael, i ychwanegu at drip gwych.
"Fi'n gwybod bod ni ddim wedi cael y canlyniadau ro'n ni isie, ond cyn dod ar y awyren yma nes i ddweud mod i just yn falch i fod yma."

Mae Isabelle, 14, yn cyfaddef ei bod hi'n "crynu" pan ddaeth Bale draw ati i'w chyfarch, a bod y profiad o fod ar y cae wedi bod yn un swreal hefyd.
"Roedd e bach yn ofnus, ond nawr fi'n deall sut mae'r chwaraewyr yn teimlo pan maen nhw ar y cae, os mae cymaint â hynny o bobl yn edrych arnyn nhw," meddai.

Y teulu gyda Rhydian Bowen Phillips, sy'n rhan o'r tîm cyhoeddi yn y stadiwm pan mae Cymru'n chwarae
Mae ei brawd Jensen, 10, wedi mwynhau'r profiad o fod yn Nghwpan y Byd hefyd, yn enwedig gweld cyffro a chlywed sŵn cefnogwyr y gwledydd eraill.
"Mae Mecsico yn swnllyd," meddai. "Fy hoff rai, y rhai mwya' cyffrous yw rhai Brasil fel arfer.
"Ond fy hoff dîm oni bai am Cymru yw Ffrainc."

Creu atgofion yn Qatar yn 2022
Ac mae Heather yn difaru dim ar y penderfyniad i ddod â'r plant gyda nhw i'r twrnament, gan ddweud ei fod wedi bod yn brofiad bythgofiadwy iddynt.
"Mae e wir yn teimlo fel Cwpan y Byd go iawn - chi'n cael eich dal yn y llif," meddai.
"Just o wrando ar yr awyrgylch fan hyn, mae'n anhygoel fod y plant yn cael yr atgofion yma."


Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2022