Cwpan y Byd: Dysgu'r byd am Gymru? Fi sydd wedi dysgu am y byd

  • Cyhoeddwyd
Phil Stead cyn gem rhwng Canada a Croatia yn Stadiwm KhalifaFfynhonnell y llun, Phil Stead
Disgrifiad o’r llun,

Yr awdur a colofnydd Phil Stead

Fel nifer o gefnogwyr, aeth Phil Stead i Qatar gyda'r bwriad o ddysgu'r byd am Gymru, ond ar ôl dod adref gyda dealltwriaeth lawer gwell am wledydd eraill y byd, ai fo gafodd ei addysgu am weddill y byd?

Roedd hi wedi hanner nos yn Doha. Roedd yr haul wedi hen fynd i lawr ar ein gobeithion ar ôl cael stîd gan yr hen elynion. Roedd 'na daith o ddwy awr o'n blaen i ganol y ddinas yng nghwmni'r Saeson gyda 40,000 o bobl yn disgwyl am y metro. Byse hi wedi bod yn hawdd iawn i adael Stadiwm Ahmad bin Ali yn gynnar. Ond ni symudodd y Wal Goch.

Roedden ni yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd yn cymeradwyo ein tîm yn ein siom. Canwyd Yma o Hyd, ac wedyn Hen Wlad fy Nhadau i stadiwm roedd wedi gwagio o Saeson.

Ond mi oedd na bobl dal o'n cwmpas yn yr eisteddleoedd. Pobl leol, y wasg ryngwladol, cefnogwyr rhyngwladol. Ac roedden nhw'n tynnu lluniau ac yn sefyll gyda'u cegau ar agor ar y golygfeydd o'u blaen. Doedd y tîm ddim wedi perfformio ar y cae ond roedd y Cymry wedi gwneud argraff yn Qatar.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Carfan Cymru yn cymeradwyo'r Wal Goch

Mi wnes i aros yn Doha, er gwaethaf y rhybuddion gan y wasg Brydeinig. Wrth edrych yn ôl, roedd yna gymaint o gelwyddau wedi eu hadrodd o flaen llaw. Roedd 'na groeso mawr gan y bobl leol, a'r gweithwyr.

Roedd y gemau ar gael i'w gwylio am ddim ar y teledu ym mhobman. Doedd na ddim cefnogwyr yn ysbio ar y gweddill. Roedd 'na gwrw ar gael ac roedd 'na barti rhyngwladol bendigedig bob nos yn y fan-zones. Roedd 'na lot fawr o fenywod a theuluoedd lleol yn mynychu gemau, a gafodd neb ei arestio am fod wedi meddwi.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Ond roedd na gelwyddau wedi dod gan FIFA a Qatar hefyd.

Roedd arwyddion o gwmpas y stadia yn awgrymu nad oedd alcohol byth am cael ei werthu yna. Mi oedd na broblem gyda'r hetiau enfys, ond diolch i ddewrder Laura McAllister, gafodd y rheol yna ei newid. Presenoldeb Laura yn Qatar oedd wedi newid hynny, nid ei habsenoldeb hi.

Disgrifiad o’r llun,

Gofynnwyd i Laura McAllister dynnu ei het enfys yn gêm gyntaf Cymru yn erbyn UDA ond wedi iddi hi gwyno a chodi ymwybyddiaeth, cafwyd tro pedol ar hyn erbyn gêm Iran

Roeddwn i mor falch o weld baner Cymru o gwmpas y ddinas ac i gael y cyfle i addysgu pobl am ein gwlad. Mi wnes i ddysgu grŵp o hogiau clên o Saudi Arabia i ddweud LlanfairPG; wnes i esbonio perthynas wleidyddol Cymru a Lloegr i gwpl o Ecwador ac wedyn canu Yma o Hyd i dram llawn o gefnogwyr De Corea. Roedd pawb mor ffeind.

Ddes i allan o'r fflat unwaith i gael croeso gan grŵp o gefnogwr Iran yn gweiddi 'Wales, Wales!' arnaf i. Wrth eu cofleidio, roedden nhw yn gwasgu fferen fach i gledr fy llaw.

Ffynhonnell y llun, Phil Stead
Disgrifiad o’r llun,

Hwyl gyda chefnogwyr Brasil yn y fanzone

Ar ddechrau'r twrnament roeddwn i eisiau diffinio pawb yn ôl eu cenedlaetholdeb. Dyna oedd pwynt Cwpan y Byd wedi'r cwbl. Ond dros amser, mi wnes i sylwi doedd hynny ddim yn hawdd i'w wneud.

Roedd y dyn yn y crys Ffrainc wedi dod o Awstralia. Roedd yr hogyn bach o Qatar yn cefnogi'r Unol Daleithiau oherwydd ei gariad at Disney. Yn gyffredinol, roedd y bobl leol (ac wrth hynny dwi'n golygu y Dwyrain Canol), yn gwisgo lliwiau ei hoff chwaraewr, crys Portiwgal, Ffrainc, Brasil neu Argentina.

Ffynhonnell y llun, Phil stead

Mi wnes i aros yn Umm Ghuwailina, ardal y gymuned Indiaid yn Doha, ac wedi byw ar samosas, chipatis a chyri rhad iawn ers deg ddiwrnod.

Mi wnes i dreulio fy amser yn gwylio 14 o gemau byw, ond dewis personol oedd hynny. Roedd rhai wedi mynd i'r traeth bob dydd ac yn llogi jetskis. Roedd rhai eraill wedi mynd ar deithiau anturus i'r diffeithdir, ac eraill wedi ymweld â'r amgueddfeydd ac atyniadau diwylliannol Doha.

Roedd yr holl brofiad bythgofiadwy yn agoriad llygaid i fi. Rydw i'n cofio eistedd ar y metro ar fy ffordd i'r gêm rhwng Corea a Ghana gyda'r byd cyfan i weld o flaen fy llygaid.

Ffynhonnell y llun, Phil stead
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Ghana yn dathlu gôl yn erbyn Corea yn Stadiwm Education City

Roedd 'na chwe merch ifanc yn gwisgo hijab yn cael hwyl ac yn chwerthin a dawnsio tra'r roedd hogyn bach o rywle arall yn tynnu ar eu gwisgoedd.

Roedd 'na ddyn o rywle wedi cynnig ei sêt i hen ddynes o rywle arall.

Roedd 'na grŵp o ddynion ifainc yn chwarae miwsig uchel ac roedd rhywun o rywle arall yn cynnig cyfieithiad y map metro i ddieithryn gyda gwallt melyn.

Ffynhonnell y llun, Phil stead
Disgrifiad o’r llun,

Phil gyda rhai o staff y llety

Ar ôl dechrau'r wythnos yn diffinio pawb yn ôl eu cenedligrwydd, mi wnes i sylwi bod pawb yn ymddangos yr un fath i mi erbyn hyn. Roedden nhw'n famau a thadau, brodyr a chwiorydd, ffrindiau a chymdogion, i gyd gyda chroen o'r un palet o liwiau.

Es i allan i Qatar gyda'r bwriad o gynyddu dealltwriaeth gweddill y byd o Gymru. Ond y gwir yw, ddes i nôl i Gymru wedi cynyddu fy nealltwriaeth i o weddill y byd.