Ben Davies: Maths neu bêl-droed?

  • Cyhoeddwyd
Ben DaviesFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Ben Davies

Roedd Ben Davies yn ddisgybl delfrydol ac yn disgleirio mewn mathemateg a phêl-droed yn ôl ei gyn-athrawon ysgol.

Er iddo ennill gradd A* yn ei fathemateg TGAU heb fawr o ymdrech, pêl-droed oedd y freuddwyd a gadawodd yr ysgol i'w gwireddu, gan astudio Lefel A mathemateg yn ei amser rhydd.

Ond oedd dewis y bêl gron dros algebra yn benderfyniad hawdd i amddiffynnwr tîm pêl-droed Cymru neu oedd ei feddwl yn taclo rhwng y ddau beth?

Cymru Fyw fu'n holi Mr Geraint Jenkins, ei gyn-athro mathemateg yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera, a Mr Ioan Bebb, ei gyn-athro addysg gorfforol.

Ffynhonnell y llun, Geraint Jenkins/FIFA/Ioan Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Jenkins,Ben Davies,Ioan Bebb

Ben Davies: Y Mathemategydd

Yn ôl Mr Jenkins, roedd Ben yn fathemategydd naturiol a'r gwaith yn dod yn rhwydd iddo.

Eglura: "Nes i ddysgu Ben ers ei fod e'n blwyddyn naw yn yr ysgol felly nes i ddysgu TGAU iddo fe ac oedd e'n ddisglair pryd 'ny yn ei fathemateg, a fi'n credu oedd e'n ffeindio maths yn hawdd yn TGAU beth bynnag.

"Oedd e ddim yn gorfod gweithio'n rhy galed arno fe - oedd e'n ffeindio fo'n dod yn weddol hawdd - nath e lwyddo yn dda iawn a chael A*."

Ffynhonnell y llun, Geraint Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Jenkins yn dilyn gyfa Ben ers iddo adael yr ysgol. Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro-Dur gyda llun arbennig ohono ger giatiau'r ysgol yn barod at Gwpan y Byd

'Un o'r bois yn y dosbarth'

Er yn fachgen galluog ac yn ddipyn o "all rounder" yn ôl Mr Jenkins, mae ei gyn-athro mathemateg hefyd yn ei gofio "am fod yn un o'r bois yn y dosbarth":

Ffynhonnell y llun, Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Disgrifiad o’r llun,

Ben Davies tra'n ddisgybl ysgol. Mae dal yn ymwelydd cyson â'r ysgol ac yn dod i ysbrydoli'r plant

"Oedd e'n joio ac yn cael tipyn o hwyl gyda'r bechgyn yn y dosbarth. Oedd e typical bachgen.

"Oedd Ben hefyd yn fachgen penderfynol iawn. O'n i'n gallu gweld 'na. Unwaith oedd e'n rhoi ei feddwl ar rwbeth, oedd e'n neud e."

Hyfforddi gyda'r Elyrch cyn gwers Lefel A

Ar ôl cwblhau ei gwrs TGAU a chael graddau oedd yn rhoi sawl llwybr posib iddo, gadawodd Ben yr ysgol i ymuno ag Academi Abertawe gan chwarae i'r Elyrch yn broffesiynol erbyn ei fod yn 19 mlwydd oed.

Er mai'r llwybr i'r gôl oedd ei flaenoriaeth, doedd Ben ddim am droi ei gefn ar addysg academaidd yn gyfan gwbl.

Meddai Mr Jenkins: "Nath e adael ysgol yn swyddogol ar ôl ei TGAU ond nath e ofyn os allith e ddod nôl i neud Mathemateg Lefel A ar ôl oriau ysgol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ben Davies yn chwarae i Abertawe yn 2012, yn 19 mlwydd oed

"Gath e wersi wedyn 'ny bob nos Fawrth am awr a hanner gen i - oedd e'n dod draw yn ei cit ar ôl ymarfer 'da Abertawe yn aml iawn!

"Fe oedd wedi neud y penderfyniad i neud e achos oedd e isie, fi'n credu, rwbeth i gwmpo nôl arno fe os bydde pethe gyda Abertawe ddim yn mynd cystal, neu plan B petai anaf neu rwbeth fel'na."

"Oedd e'n aeddfed iawn ac yn gweithio'n galed iawn arno fe yn ystod lefel A beth bynnag. O'n i yn rhoi gwaith iddo fe i 'neud rhwng y gwersi ac oedd e'n 'neud e i gyd. Gath e gradd A yn pob un o'r unedau (Lefel A) ac wrth gwrs doedd dim A* i gael pryd 'ny (mewn Lefel A)!"

Maths neu bêl-droed: Penderfyniad anodd i Ben?

"Fi ddim yn credu. Y cariad mawr oedd pêl-droed - hwnna oedd y freuddwyd a'r flaenoriaeth yn bendant."

Yn 2021 fe raddiodd Ben o'r Brifysgol Agored gyda gradd 2:1 mewn economeg a busnes. Dywedodd mewn cyfweliadau ei fod yn dod adref o'i sesiynau hyfforddi gyda Spurs a Chymru heb lawer i'w wneud yn y prynhawn, a bod hynny wedi ei gymell i wneud cwrs gradd yn ei amser rhydd. Dyw'r dyfalbarhad hynny ddim yn synnu dim ar Mr Jenkins:

"Mae'n siŵr o fod yn meddwl ymlaen am ei ddyfodol ar ôl y pêl-droed. Yr un cymeriad penderfynol a chydwybodol i ni yn ei weld mas ar y cae. Ac fy nghyngor i iddo fe yng Nghwpan y Byd yw i gadw at ei gêm naturiol a chadw'r penderfyniad 'na."

Ben Davies: Y pêl-droediwr

Mr Ioan Bebb, cyn-chwaraewr pêl-droed proffesiynol i Wolves a chyn-chwaraewr rygbi proffesiynol i Cross Keys ac i glybiau fel Llanelli, Caerdydd, Pont-y-pŵl ac Aberafan oedd athro addysg gorfforol Ben yn Ystalyfera.

Ffynhonnell y llun, Ioan Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Ioan Bebb yn mynd i redeg (chwith) ac yn chwarae yn broffesiynol i Cross Keys (dde)

Gofynnodd Cymru Fyw iddo ai yn y gwersi mathemateg neu chwaraeon hoffai Ben fod fwyaf?

"'Sa fe di cael y dewis dwi'n siŵr mai mas ar y cae bydde fe wedi hoffi bod yn hytrach na mewn gwersi mathemateg.

"Dath e fel bach o sioc ar ddiwedd blwyddyn 11 pan oedd e'n gweud fod e'n gadael achos oedd e 'di cael y cytundeb 'da Abertawe ond doedd e ddim yn syndod fod e 'di cael y cynnig achos 'sa fe di medru mynd mewn sawl cyfeiriad gyda'i fywyd ond yn amlwg gath e'r cyfle, gath e bach o lwc ar yr adeg iawn, a wnaeth e fanteisio ar y cyfle gyda dwy law."

Chwaraewr rygbi arbennig

Fel athro chwaraeon sy'n arbenigo mewn sawl camp gan gynnwys pêl-droed, rygbi ac athletau ac wedi cael gyrfa mewn pêl-droed a rygbi ar un pryd, mae Ioan yn angerddol am roi sylw teg i wahanol gampau yn ei wersi. Ac er mai'r bêl gron yw'r fwyaf amlwg yng ngyrfa Ben Davies, roedd y bêl hir-gron a chriced hefyd yn bwysig i'r disgybl dawnus.

Meddai Mr Bebb: "Yn amlwg pêl-droed oedd ei brif gamp e, ond i fod yn onest, oedd e'n chwaraewr rygbi arbennig hefyd. Os fydde fe wedi pennu lan fel chwaraewr rygbi fyddai neb wedi synnu fi ddim yn credu.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Disgrifiad o’r llun,

Ben yn ei safle rygbi rhif 10 wrth i dîm yr ysgol sgorio cais mewn gemau yn Dubai

"Oedd e'n rhan o dîm yr ysgol chwaraeodd yn nhîm Cwpan Cymru pan oedd e'n blwyddyn naw a nath e barhau i chwarae rygbi reit lan i pan wnaeth e adael yr ysgol ym mlwyddyn 11.

"Oedd e hefyd yn chwarae criced ac yn gricedwr da tu fas i'r ysgol. Oedd en un o'r bechgyn cydwybodol 'ma oedd yn troi ei law at bopeth ac yn gwneud yn dda iawn, yn model pupil i radde ac yn fachgen hyfryd i siarad gyda."

Ffynhonnell y llun, Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Disgrifiad o’r llun,

Ydydch chi'n gallu gweld Ben? Mwynhau gwisg ffansi gyda'i gyd ddisgblion ar ôl chwarae rygbi yn Dubai yn 2007

"Buodd e'n rhan o dîm rygbi eitha llwyddiannus yn yr ysgol a fuon ni mas ar daith yn 2007 i Dubai pan oedd e ym mlwyddyn 9. Mae cwpwl o'r bechgyn aeth ar y daith yn enwau eitha cyfarwydd erbyn hyn, felly mae'n eitha diddorol wrth edrych nôl."

Ffynhonnell y llun, Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Disgrifiad o’r llun,

Y tîm rygbi o Ysgol Gymraeg Ystalyfera aeth i Dubai yn 2007... mae sawl enw cyfarwydd

Cyn ddisgybl arall: Rubin Colwill

Hefyd yn rhan o garfan Cymru yng Nghwpan y Byd mae Rubin Colwill, cyn-ddisgybl arall i Mr Bebb yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera.

"Cymhariaeth eitha diddorol yw Rubin a Ben," meddai Mr Bebb. "Mae Ruben yn chwaraewr pêl-droed hynod o dalentog - o bosib yn fwy disglair na Ben fel pêl-droediwr yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol, ond oedd e'n amlwg mai dyna yr unig beth oedd e isio bod. Oedd e isie bod yn bêl-droediwr proffesiynol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rubin Colwill

"Doedd e ddim yn dwp yn yr ysgol ond oedd e'n amlwg nad oedd y gwaith academaidd mor bwysig iddo fe. Oedd e fwy penderfynol mai yn ymarferol fel chwaraewr oedd e isie bod o'r foment gynta'."

Yn anaml mae disgyblion ysgol yn cael cyn-chwaraewyr proffesiynol yn eu dysgu ac mae Mr Bebb yn teimlo'n ffodus ei fod wedi gallu rhannu cyngor yn seiliedig ar ei brofiadau ei hun gyda Ben a Rubin.

Ffynhonnell y llun, Ioan Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Ioan Bebb tra'n bêl-droediwr proffesiynol gyda Wolves

Meddai: "Ar y pryd o'n i'n trio rhoi lot o gyngor iddyn nhw, nid yn unig ar sut i ymdopi gyda llwyddiant ond gyda'r siomedigaethau a'r pethau anodd sy'n mynd i ddod yn ystod eu gyrfa. Y cyngor gorau wnes i roi dwi'n credu oedd i fwynhau y profiad a mwynhau chwarae.

"A dyna beth fyddai fy nghyngor iddyn nhw ar gyfer Cwpan y Byd. Fi'n credu bod lot o bwysau yn mynd i fod arnyn nhw, falle dim gymaint o ddisgwyliadau ag yn yr Euros, ond os y'n nhw yn mwynhau y profiad, falle byddan nhw yn achosi sioc eto."

Ysgol falch

Ni ofynnodd Cymru Fyw i Ben Davies ei hun ai'r gwersi mathemateg neu chwaraeon oedd o'n ei hoffi orau, ond mae un peth yn siŵr, bod ei gyn-athrawon yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro-Dur yn falch iawn o'i lwyddiant.

Mae enw Ben Davies a Rubin Colwill yn ysbrydoli plant yr ysgol beth bynnag yw eu doniau, ac i weithio'n galed i gyrraedd eu huchelgais hwythau.