Cefnogwyr am weld Cymru'n 'mynd mas ar nodyn uchel'
- Cyhoeddwyd
Mae'r mathemateg yn dweud ei bod hi'n bosib o hyd - ond siaradwch ag unrhyw gefnogwr Cymru sydd dal yn Doha, a phrin yw'r gobaith.
I gyrraedd rownd nesaf Cwpan y Byd bydd yn rhaid i'r crysau cochion drechu Lloegr heno, a gobeithio am gêm gyfartal rhwng yr UDA ac Iran.
Yr unig lwybr arall i rownd yr 16 olaf yw trechu'r Saeson o bedair gôl neu fwy, rhywbeth dydyn nhw erioed wedi ei wneud mewn 103 o gemau yn erbyn ei gilydd.
Os mai dyma fydd ffarwel Cymru â Qatar felly, mae dyhead y Wal Goch yn un clir - fod y tîm o leia'n gadael un marc olaf ar y gystadleuaeth cyn dychwelyd adref.
"Hyd yn oed os maen nhw'n colli fi just isie gweld nhw'n chwarae'n dda, achos yn y ddwy gynta' ni heb ddangos pa mor dda ni'n gallu bod," meddai John Williams o Bontypridd.
"O leia' wedyn bydd y cefnogwyr yn gallu mynd gartref yn hapus.
"Ond fi'n stryglan i weld lle mae'n goliau ni'n mynd i ddod ar hyn o bryd."
Beth sydd ei angen ar Gymru?
I gyrraedd y rownd nesaf, mae angen i Gymru guro Lloegr ddydd Mawrth.
Petai Iran a'r UDA yn cael gêm gyfartal, yna byddai unrhyw fuddugoliaeth yn ddigon i Gymru.
Ond os nad yw'r gêm yna'n gyfartal, byddai angen i Gymru ennill o bedair gôl - i sicrhau gwahaniaeth goliau gwell na Lloegr.
Mae'n dweud mai'r prif emosiwn yw "balchder" fod Cymru yma, yn hytrach na siom am y canlyniadau.
Ond mae'n ysu i weld y tîm yn cael canlyniad heno - yn enwedig i chwaraewyr hŷn y garfan.
"Fi'n teimlo dros rhai fel [Gareth] Bale a [Wayne] Hennessey - falle mai hwn fydd Cwpan y Byd ola' nhw," meddai.
"Felly ni isie iddyn nhw fynd mas ar nodyn uchel hefyd, achos fi'n meddwl bod sawl un yn y garfan yna fydd ddim yn chwarae dros Gymru eto."
Wrth grwydro'r Souq Waqif ddydd Llun gyda'i ffrindiau, roedd Ben Cole o Borthcawl yn ysu i weld Cymru'n gwneud y gorau o'r cyfle olaf o bosib i greu argraff ar weddill y byd.
"Fi just isie gweld bach o ffeit yn y tîm, cadw'r bêl bach yn well, a just dangos be' maen nhw wedi 'neud lan at nawr i gyrraedd 'ma," meddai.
"Ni 'ma er mwyn i'r byd weld ni. Fel cefnogwyr ni 'di 'neud 'na, cymysgu gyda phawb arall, a ni just isie i'r chwaraewyr ddangos ar y cae hefyd bod nhw'n haeddu bod yma."
Mae'n cyfaddef y bydd hi'n "anodd i ni fynd drwyddo nawr", o ystyried bydd rhaid curo un o ffefrynnau'r gystadleuaeth i gael unrhyw obaith.
Ond bydd y rhan fwyaf o gefnogwyr y gwledydd eraill y tu ôl i'r Wal Goch heno, meddai.
"Wrth siarad gyda ffans y gwledydd eraill maen nhw i gyd yn dweud 'chi am guro Lloegr', ma' fe'n edrych fel bod pawb arall isie i ni 'neud e hefyd," meddai.
"Ma' fe wastad yn neis curo Lloegr, ond mae e mwy am weld ni'n rhoi perfformiad da i mewn, a gweld beth sy'n digwydd.
"Os yw e'n mynd â ni drwyddo, grêt, os ddim, ddown ni 'nôl tro nesa'."
Doedd barn y cefnogwyr o wledydd eraill yn Doha ddim yn unfrydol, yn sicr, a sawl un yn dweud wrtha i mewn sgyrsiau yn ystod y dydd mai Lloegr fydden nhw'n tueddu tuag ato.
Ond roedd y mwyafrif yn sicr yn bleidiol i Gymru, a hynny cyn i mi ddatgelu mai o dyna le o'n i'n dod.
Doedd neb yn fwy pendant na Victor o Sao Paulo, oedd yn cadw sŵn gyda chefnogwyr eraill Brasil ar y metro draw i'w gêm yn erbyn y Swistir.
"Wales, Golf, Madrid," oedd ei gri wrth ymateb i'r cwestiwn am bwy fyddai'n cefnogi - cyfeiriad i bennawd enwog am Bale - cyn dechrau canu am ddiffygion amddiffynnol Harry Maguire o Loegr.
Mae'r ymwybyddiaeth gynyddol yna o Gymru ar y map pêl-droed wedi bod yn thema amlwg o'u hymddangosiad yng Nghwpan y Byd.
Ac i Matthew Womersley, Cymro o Fangor sydd bellach yn byw yn Taiwan, y gobaith yw y bydd hynny'n treiddio ymhellach, waeth beth fydd y canlyniad nos Fawrth.
"Maen nhw i gyd yn meddwl bod Cymru a Lloegr yr un peth, so ella fydda nhw'n gwybod bod Cymru'n wlad rŵan - gobeithio fyddan nhw ar ôl y gêm yma anyway," meddai.
"Dwi'n goro deutha nhw 'ydy China yr un peth â Taiwan?' ac maen nhw'n deud nadi, a dwi'n d'eud bod Cymru a Lloegr fel 'na hefyd, ac maen nhw'n dallt."
Efallai bod rhai o'r Cymry yn Doha wedi pacio'u bagiau yn barod, ond mae Matthew yn credu bod un sioc arall i ddod.
"Dwi'n meddwl 'nawn ni gael result yn erbyn Lloegr - ma' nhw just am ddeud stwffia fo, mynd amdana fo," meddai. "Fyddan nhw isio profi pwynt."
Dilynwch y gêm ar ein llif byw arbennig fydd yn dechrau am 17:00.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2022