Merch ysgol gynradd ym Mhenarth wedi marw o glefyd prin

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gynradd Victoria
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hanna Roap yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Victoria, Penarth

Mae merch ysgol gynradd ym Mro Morgannwg wedi marw ar ôl dal clefyd bacteriol.

Bu farw Hanna Roap - a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Victoria, Penarth - ar ôl cael ei heintio gyda chlefyd Streptococol Grŵp A ymledol (iGAS), neu Strep A.

Mae Strep A yn haint bacteriol a allai fod yn hynod ddifrifol, er bod modd ei drin.

Dros y DU, mae o leiaf pum plentyn arall wedi marw oherwydd salwch sydd wedi'i achosi gan Strep A ers mis Medi.

Mewn datganiad ar Facebook, diolchodd teulu Hanna am y gefnogaeth yn dilyn y farwolaeth.

"Diolch am yr holl flodau, cardiau a rhoddion", meddai'r datganiad, gan ychwanegu bod "eich cyfeillgarwch yn ein hatgoffa bod daioni er y tristwch ofnadwy".

Ychwanegodd y datganiad: "Mae ein calonnau wedi torri i filiwn o ddarnau."

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd yr ysgol a Chyngor Bro Morgannwg ei bod yn "annhebygol y bydd disgyblion eraill yn cael eu heffeithio gan y salwch".

"[M]ae symptomau difrifol yn hynod o brin," meddai'r datganiad.

"Gall rhagofalon synhwyrol fel golchi dwylo'n rheolaidd a pheidio â mynychu'r ysgol pan yn sâl leihau'r risg o haint."

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) eu bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ac Ysgol Gynradd Victoria.

'Prin iawn'

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi anfon llythyr at rieni sydd â phlant mewn meithrinfeydd ac ysgolion ym Mhenarth.

Yn y llythyr, mae ICC yn rhoi gwybod am "gynnydd diweddar" mewn achosion o Strep A a'r dwymyn goch, a'r symptomau posib.

Yn gyffredinol, mae rhieni a gwarchodwyr hefyd yn cael eu hannog i ddod yn gyfarwydd â symptomau.

Ymhlith y symptomau mae tymheredd uwch na 38C, dolur gwddf, poen neu dynerwch yn y cyhyrau a gwrid ble mae clwyf.

Ffynhonnell y llun, BSIP/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nd yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n dod i gysylltiad gyda'r bacteria yn profi symptomau

Dywedodd Dr Ardiana Gjini o ICC eu bod yn gweithio'n agos gyda'r ysgol i godi ymwybyddiaeth ynghylch y cyflwr.

"Er mae'n annhebygol y bydd eu plentyn yn cael eu heffeithio gan yr haint iGAS, mae unigolion perthnasol yn cael eu cynghori y dylid dod yn gyfarwydd â'r symptomau a beth i'w wneud os mae'r symptomau hyn yn codi," meddai.

"Mae dal haint iGAS gan gysylltiad yn brin iawn.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dod i gysylltiad â haint Streptococol Grŵp A yn parhau'n iach a heb symptomau, neu'n cael dolur gwddf ysgafn neu heintiau croen."

Dywedodd Dr Gjini fod bacteria Strep A yn gallu achosi cyflwr o'r enw'r dwymyn goch (scarlet fever) a bod hynny yn "heintus iawn".

Ychwanegodd ei fod yn gallu symud o berson i berson trwy gyffwrdd neu trwy'r aer, fel pesychu a thisian.

"Dyna pam fod pobl sy'n wael gyda'r dwymyn goch yn cael eu hargymell i gadw draw o'r ysgol neu'r feithrinfa tan i 48 awr basio ar ôl cael meddyginiaeth gwrthfiotig," meddai.

Dywedodd mai symptomau'r dwymyn goch ydy brech neu rash coch sy'n teimlo'n arw, yn hytrach na llyfn.

"Yn yr achosion hynny ry'n ni'n cynghori rhieni i gymryd eu plant i weld eu meddyg teulu, sy'n debygol o roi meddyginiaeth gwrthfiotig ato."

Achosion eraill

Hyd ar 19 Tachwedd, roedd 66 o achosion Strep A wedi eu cofnodi yng Nghymru, gyda thraean ohonyn nhw yn ystod y chwech wythnos olaf.

Mae pum plentyn arall yn y DU wedi marw yn yr wythnosau diwethaf ar ôl cael Strep A, y gweddill yn Lloegr.

Yn Yr Alban, dywedodd yr awdurdod iechyd cyhoeddus yna eu bod yn ymwybodol o wyth achos o'r haint mewn plant dan 10, ond dim marwolaethau ers mis Medi.

Dywedodd Dr Gjini bod ysgol yn Surrey wedi bod yn rhoi gwrthfiotigau i rai disgyblion, ond fod hynny yn dilyn "clwstwr o achosion".

"Does dim achosion o'r fath yng Nghymru," meddai.

"Pan mai un achos unigol sydd gennym, does dim angen gwneud hynny, a byddai gwrthfiotigau ddim yn rhoi unrhyw fudd i'r unigolion na'r cyhoedd yn ehangach.

"Ry'n ni'n asesu cysylltiadau agos ac yn cysylltu'n uniongyrchol gyda nhw a'u meddygon teulu."