Y Gymraeg: 'Angen rhoi'r Cyfrifiad mewn cyd-destun'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Beth oedd canlyniadau'r Cyfrifiad yn ei ddatgelu am sefyllfa'r Gymraeg?

Mae "angen rhoi ffigyrau'r Cyfrifiad mewn cyd-destun", er y siom am leihad parhaus yn y canran sy'n gallu siarad Cymraeg, yn ôl arbenigwr mewn ieithoedd lleiafrifol.

Yn bennaf oherwydd gostyngiad yn nifer y plant a phobl ifanc rhwng tair a 15 oed yn nodi eu bod yn siarad yr iaith, mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos y ganran isaf erioed o siaradwyr Cymraeg mewn unrhyw Gyfrifiad.

Yn 2021 nododd tua 538,000 o breswylwyr eu bod yn gallu siarad Cymraeg (17.8%), o'i gymharu â 562,000 yn 2011 (19%).

Er hynny, dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones bod modd dehongli'r ffigyrau fel "adlewyrchiad mwy realistig" o'r gwir sefyllfa mewn ysgolion yng Nghymru.

Ychwanegodd hefyd yr angen am economi gryfach er mwyn lleihau allfudo ymhlith pobl ifanc o ardaloedd traddodiadol Gymraeg.

Daw wrth i Brif Weinidog Cymru ddweud bod angen pwyllo a dadansoddi'r ffactorau "cymhleth" y tu ôl i'r ystadegau.

Esboniodd Mr Drakeford y gostyngiad ymhlith plant trwy ddweud bod "llai o bobl ifanc yng Nghymru gyfan yn yr oedran yna".

'Mae'n brosiect tymor hir'

"Dwi'n deall y siom oherwydd ein bod yn mynd o un ymhob pump o'r boblogaeth i fod yn un o bob chwech," dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

Ffynhonnell y llun, PCDDS
Disgrifiad o’r llun,

"Dydy adfer iaith ddim yn rhywbeth sy'n digwydd mewn deng mlynedd", meddai'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones

"Ond mae'n rhaid i ni gofio mai nid dyma'r nifer lleiaf erioed ac mae'n rhaid i ni gofio hefyd mai dim ond rhyw 20,000 o bobl yn llai sydd 'na wedi eu recordio tro yma o gymharu gyda'r tro diwethaf.

"Ac yn sgil yr 20,000 llai tro diwethaf wnaeth hynny ein deffro ni i ddweud dydy aros lle ydan ni ddim digon da ac fod angen codi ein huchelgais, ac o fanno ddaeth yr ymgyrch miliwn o siaradwyr sydd nawr yn strategaeth llywodraeth.

"Felly mae'n rhaid i ni roi hyn mewn cyd-destun, dydy adfer iaith ddim yn rhywbeth sy'n digwydd mewn deng mlynedd. Mae'n brosiect tymor hir."

'Mwy realistig'

Fe gyhoeddwyd cynllun Cymraeg 2050 gan Lywodraeth Cymru bum mlynedd yn ôl, gyda'r targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Yn sgil cyhoeddi ffigyrau'r Cyfrifiad dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg, eu bod yn siomedig ond ei fod wedi llwyr ymrwymo i gyrraedd miliwn o siaradwyr ymhen llai na 30 mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Llywodraeth Cymru fod y "Gymraeg wrth galon ein cwricwlwm newydd"

Ond ychwanegodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, sy'n Gyfarwyddwr ar y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, bod lle i ail-edrych ar y ffigyrau.

"Falle' be da ni'n ei weld yn y ffigyrau y tro yma ydy bod rhieni, o bosib, yn adlewyrchu yn fwy realistig beth ydy sgiliau iaith eu plant nhw.

"Os da ni'n ystyried bod tua chwarter o blant Cymru yn derbyn eu haddysg yn rhannol neu'n gyfan gwbl drwy'r Gymraeg, ac wedyn da ni'n gweld bod tua 44% yn medru'r Gymraeg yn ôl ffigyrau'r Cyfrifiad diwetha', falle bod y bwlch realiti yna yn dechrau cael ei gau ac fod y ffigyrau y tro yma yn fwy realistig."

'Angen gwell cyfleon economaidd'

Aeth ymlaen i ddweud bod angen gwelliannau strwythurol, serch hynny, gan gynnwys o fewn y gyfundrefn addysg a'r economi yn gyffredinol.

"Mae'n rhaid cychwyn gyda system addysg sy'n caniatáu i bawb gael cyfle i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg pan yn gadael yr ysgol, a da ni'n bell iawn o hynny.

"Ond os nad oes 'na waith i bobl maen nhw'n mynd i allfudo dros y ffin neu rhannau eraill o Gymru i chwilio am waith, felly mae'n rhaid sicrhau fod ganddon ni economi gytbwys o fewn Cymru ond mae hefyd rhaid i ni gael gwell cyfleon economaidd o ystyried lle rydym yn y wladwriaeth."

Faint o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg?. % dros 3 oed sy'n gallu siarad Cymraeg, fesul degawd.  Dim Cyfrifiad yn 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd.

Dywed Llywodraeth Cymru bod y gostyngiad yn bennaf o ganlyniad i ostyngiad yn nifer y plant a phobl ifanc y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Esboniodd Mr Drakeford y gostyngiad - o 40.3% yn 2011 i 34.3% yn 2021 ar gyfer y grŵp oedran 5 i 15 mlwydd oed - trwy ddweud bod "llai o bobl ifanc yng Nghymru gyfan yn yr oedran yna".

Cyfeiriodd hefyd at amseru'r cyfrifiad yn ystod amser y pandemig: "Dwi'n cofio dro ar ôl tro fan hyn pobl yn siarad am yr effaith roedd y pandemig wedi ei gael ar bobl ifanc mewn ysgolion trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg pan doedden nhw ddim yn yr ysgol, a pan doedden nhw ddim yn clywed gair o Gymraeg pan doedd yr ysgolion ddim yn rhedeg."

Ond ymatebodd AS Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, trwy fynegi "siom" o glywed y prif weinidog "yn golchi ei ddwylo'n llwyr o ganlyniadau'r cyfrifiad am y Gymraeg".

"Tila iawn yw trio esgusodi cwymp yn y % trwy ddweud fod llai o bobl ifanc."

Oedd y pandemig yn ffactor?

Cynhaliwyd y cyfrifiad yn ystod pandemig y coronafeirws ar 21 Mawrth 2021. Roedd hyn yn dilyn cyfnodau o gyfyngiadau symud, dysgu o bell ar gyfer llawer o blant ac roedd llawer o bobl yn gweithio gartref.

Dywed Gwasanaethau Ystadegol Llywodraeth Cymru - sy'n darparu ystadegau swyddogol annibynnol: "Nid ydym yn gwybod sut effeithiodd y pandemig ar y ffordd roedd pobl yn adrodd am eu sgiliau Cymraeg (neu ar ganfyddiadau o sgiliau Cymraeg pobl eraill)."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Canran y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, yn ôl oedran

Ac ynghylch y boblogaeth, dywed y gwasanaethau ystadegol: "Rydym yn gwybod o ddata Cyfrifiad 2021 bod poblogaeth Cymru wedi cynyddu tua 1.4% ers 2011, ac mae hyn oherwydd bod rhagor o bobl wedi symud i Gymru nag sydd wedi gadael.

"Roedd rhagor o bobl a gafodd eu geni y tu allan i Gymru yn byw yma yn 2021 nag yn 2011. Rydym yn gwybod o gyfrifiadau blaenorol bod pobl a gafodd eu geni y tu allan i Gymru yn llai tebygol o lawer o ddweud eu bod yn siarad Cymraeg na phobl a gafodd eu geni yng Nghymru.

"Rydym yn gwybod hefyd fod canran y plant a phobl ifanc o dan 15 oed yng Nghymru wedi gostwng ers 2011. Fel arfer mae'r gallu i siarad Cymraeg yn y grŵp oedran hwn yn uwch na phob grŵp oedran arall."

Disgrifiad o’r llun,

Helen Prosser: "Falle bod na bobl yna sydd yn ofni dweud eu bod yn rhugl"

Er bod cydnabyddiaeth gan gyfarwyddwr dysgu ac addysgu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol bod y ffigyrau yn "siom", dywedodd bod rhai elfennau cadarnhaol hefyd.

"Da ni yn profi tŵf a bwrlwm ar hyn o bryd", dywedodd Helen Prosser ar Dros Frecwast.

"Wrth drafod gyda dosbarth nos fy hun roedd pawb yn rhagweld cynnydd [yn y ffigyaru] oherwydd beth roedden nhw yn ei weld yn ein sector ni.

"Un ystadegyn diddorol da ni wedi gallu twrio yw cynnydd yn y rhai dros 16 oed [sy'n medru'r iaith], ond hefyd y rhai sy'n siarad rhywfaint o Gymraeg.

"Falle bod 'na bobl yna sydd yn ofni dweud eu bod yn rhugl, felly ein neges ni yw bod angen i ni dorchi llewys a gweithio'n galetach byth mewn gwirionedd."

Mae ei sylwadau'n adlewyrchu neges o obaith y grŵp ymgyrchu Dyfodol i'r Iaith, a ddywedodd bod rhesymau i fod yn bositif am y Cyfrifiad.

Dywedodd Heini Gruffydd o'r grŵp bod tŵf ymhlith pobl hŷn yn "eithaf cadarnhaol, o wybod bod patrymau allfudo a mewnfudo'n milwrio'n erbyn y Gymraeg".

Pynciau cysylltiedig