Gostyngiad siaradwyr Cymraeg yn siom i Lywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cyfrifiad: Ymateb Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles

Mae Llywodraeth Cymru wedi eu beirniadu gan y gwrthbleidiau ar ôl i ffigyrau'r Cyfrifiad ddangos dirywiad yn y nifer sy'n siarad yr iaith.

Bu gostyngiad o 23,000 rhwng 2011 a 2021, i lawr o 562,000 i 539,000 - sef 17.8% o'r boblogaeth.

Mae gan y llywodraeth nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dywed Plaid Cymru fod y gostyngiad ymhlith siaradwyr ifanc yn "hynod bryderus" gan alw am fwy o fuddsoddiad ym maes addysg.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg, fod y ffigyrau yn siomedig ond ei fod ef a Llywodraeth Cymru wedi llwyr ymrwymo i gyrraedd miliwn o siaradwyr ymhen llai na 30 mlynedd.

Ond mae un grŵp ymgyrchu'n dweud bod tŵf nifer y siaradwyr ymhlith pobl hŷn "yn eithaf cadarnhaol", a bod "arwyddion gobaith".

Ar raglen Dros Ginio Radio Cymru dywedodd Mr Miles: "Edrych yn ôl mae'r cyfrifiad. Mae edrych ymlaen yn bwysig.

"Os ydych yn edrych ar y sefyllfa heddiw mae'r brwdfrydedd yn uchel, mae'r buddsoddiad yn uchel, mae'r nifer sy'n siarad yn uchel.

"Felly'r nod nawr yw edrych ar y data a gweld pa fesurau eraill sydd angen eu cymryd i wireddu'r nod, ac rydym yn gwbl ymroddedig i gyrraedd y nod o filiwn erbyn 2050."

Disgrifiad o’r llun,

Bu dirywiad ymhlith niferoedd y rhai rhwng 3 a 15 oed sy'n siarad Cymraeg ym mhob un o siroedd Cymru

Ac mewn datganiad dywedodd: "Rwyf wedi sôn yn aml bod y Gymraeg yn fwy na just rhywbeth rwy'n ei siarad - mae'n rhywbeth rwy'n ei deimlo. Ac rwy'n teimlo bod mwy a mwy o bobl yn teimlo bod y Gymraeg yn perthyn iddyn nhw. Y gamp yw troi'r teimladau hynny'n ddefnydd iaith.

"Cymerwn ni amser i edrych yn fanwl ar y data, yn benodol y ffigyrau sy'n ymwneud â phobl 3-15 oed.

"Roedd Covid-19 yn golygu bod 2021 yn adeg ansicr iawn, a llawer o bobl yn poeni am allu iaith eu plant, a'r plant hynny allan o'r ysgol. Mae'n bosibl ein bod yn gweld y consyrn hwnnw yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd maen nhw'n adrodd ar allu eu plant yn y Gymraeg.

"Rwyf wedi dweud o'r blaen y byddaf yn adolygu'n taflwybr ystadegol yng ngoleuni data'r cyfrifiad i gael gweld beth yn fwy gallwn ei wneud i helpu mwy ohonon ni i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd.

"Fel rhan o hyn, byddaf am siarad gyda phobl ledled Cymru wedi'r Calan."

Arwyddion 'eithaf cadarnhaol'

Er y siom gan rai, dywedodd grŵp Dyfodol i'r Iaith bod rhesymau i fod yn obeithiol gyda'r ffigyrau.

"Mae'r sylw negyddol ar y cyfan yn deillio o gwymp yng nghanran y rhai 3-15 yr honnir eu bod yn siarad Cymraeg," medd Heini Gruffudd o'r grŵp.

"Mae'r canrannau hyn yn fwy o ddehongliad rhieni o allu eu plant nag o wir allu i siarad Cymraeg."

Dywedodd bod twf ymhlith pobl hŷn yn "eithaf cadarnhaol, o wybod bod patrymau allfudo a mewnfudo'n milwrio'n erbyn y Gymraeg".

"Mae'r twf yn arwydd bod ysgolion Cymraeg yn sicrhau nifer cynyddol o siaradwyr Cymraeg."

Ffynhonnell y llun, CBDC

Yn ôl ffigyrau'r cyfrifiad, un o'r prif ffactorau am y dirywiad oedd nifer y plant a phobl ifanc rhwng tair a 15 oed oedd yn gallu siarad Cymraeg.

Dywedodd Heledd Fychan AS, llefarydd Plaid Cymru dros blant, pobl ifanc a'r Gymraeg: "Mae'r data hwn yn dangos nad yw'n ddigon i osod targed yn unig - mae angen gwneud yn ogystal â dweud.

"Mae hyn yn dangos pa mor hanfodol yw rôl athrawon sydd yn medru'r iaith Gymraeg, yn ogystal â buddsoddiad mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

"Does gennym ni ddim digon o'r naill na'r llall, felly os yw Llywodraeth Cymru o ddifri' am gyrraedd eu targed, mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau rhagor o fuddsoddiad yn y meysydd hyn."

Fe soniodd Ms Fychan hefyd am ddylanwad ail gartrefi ar gymunedau Cymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn protestio yn erbyn effaith ail gartefi ar gymunedau Cymraeg eu hiaith

"Mae'r ffaith bod gostyngiad yn nifer yr oedolion sy'n gallu siarad Cymraeg yn yr ardaloedd hynny o Gymru sydd hefyd wedi gweld cynnydd mawr mewn ail gartrefi, yn dangos yr effaith ar yr iaith pan mae cymunedau wedi'u chwalu fel hyn."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, ei fod yn siomedig iawn gyda'r ffigyrau.

Mae Llywodraeth y DU meddai, yn cefnogi'r targed o 1 miliwn o siaradwyr ond ychwanegodd mai gwaith Llywodraeth Cymru oedd gwireddu hynny.

"Rwy'n siomedig iawn gyda'r ffigyrau hyn ond mae'n bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar beth sydd wedi mynd o'i le - yn yr ysgolion yn enwedig," meddai ar raglen Dros Ginio.

Ychwanegodd nad oedd am roi'r holl fai ar Lywodraeth Cymru gan "fod cyfrifoldeb ar bob un ohonom, pob un sy'n siarad yr iaith i ddefnyddio'r iaith - ond ar yr un pryd mae'n amlwg fod rhywbeth o'i le yn yr ysgolion."

'Gwaith i'w wneud'

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg bod y ffigyrau'n profi fod "gwaith sylweddol i'w wneud".

Yn ôl Gwenith Price: "Mae'r canlyniadau hyn yn naturiol yn siomedig dros ben ac mae'n golygu nad yw'r cynlluniau sydd ar waith gan y llywodraeth, awdurdodau lleol a phartneriaid perthnasol yn ddigonol fel y maent ar hyn o bryd ac nad ydynt yn cael yr effaith angenrheidiol."

Ychwanegodd: "Mae lleihad yng nghanran y boblogaeth 3-15 oed oedd yn dweud eu bod yn medru'r Gymraeg yn anffodus yn profi nad yw'r diwygiadau yn y maes addysg statudol ar hyn o bryd yn ddigonol.

"Nid oes chwaith gwir gynnydd wedi bod yng nghanran y disgyblion sydd yn derbyn addysg Gymraeg."